Coch, Glas, Piws, Gwyn a Melyn!

Tro diwethaf, mi soniais am record las 78cyf Mari Macklin o 1931. Y tro yma, dwi am sôn am recordiau feinyl lliw.

Mae’r rhain reit gyffredin yn y byd cerddoriaeth Eingl-Americanaidd, ond gweddol brin yn y Gymraeg.

Y record liw feinyl gyntaf yn y Gymraeg oedd recordd 12 modfedd goch y Trwynau Coch, “Un Sip Arall”. Enw’r band yn goch. Record lliw coch. Cwmni recordiau Coch!

Pedair cân arni: Byth Mynd I Golli; Angela;Colli Ti; a Pepsi Cola.

“Melyn” gan Adwaith

Y record liw ddiweddaraf y gwn i amdani oedd y record hir “Melyn” gan y grwp Adwaith yn 2018. Record goch, ar waetha’r teitl!

Sefydlwyd cwmni Recordiau Lliwgar yn 2011 i gynhyrchu recordiau feinyl lliw. Rhyddhawyd un record 10 modfedd ddwbl mewn feinyl coch yn 2011, hefo’r teitl “Y Record Goch”, ac yna yn 2013 rhyddhawyd Y Record Las mewn feinyl glas.

Ar label Anhrefn, rhyddhawyd un record liw:
ANHREFN 13 Heb Gariad-Caneuon O’r De (1987, gwyn, 7″)

Y cwmni ryddhaodd fwyaf o recordiau feinyl lliw oedd y label R-Bennig gan Johnny R., Gwalchmai, Ynys Môn. Dyma restr o’r recordiau:

R-BEN 006 Johnny-R – Dyddiadur (1991, fflecsi glas, 7″)
R-BEN 042 Lectrosis 1 (1998, EP, melyn)
R-BEW 043 Dim Esgus-Llifo (1998, EP, glas)
R-BEW 049 Lectrosis 3 (1999, EP, piws)
R-BEW 061 OK OK Society-Gwaith Dirgel (2003, EP, piws)

Rhywun yn gwybod am fwy?

Diweddariad 25/09/19: Diolch yn fawr i Johnny R am fwy o wybodaeth. O Gwalchmai (nid Gaerwen)oedd R-Bennig. A diolch hefyd i Johnny am fwy o wybodaeth am y recordiau lliw a fflecsi. I ddyfynnu o’i neges e-bost:

” Yn ogystal roedd Crac (feinyl pinc), Pic Nic (gwyrdd) Waw ffactor fflecsi (Hyblyg/binc) a blwyddyn yma (2019)
Ari Parri ”Hawe” 5″ clear vinyl R-BENNIG UU 1
Mared Wyn Jones ”Snorkle” 5″ clear vinyl R-BENNIG UU2
Molsan Instamatic ”Molsan EP” 7″ clear vinyl R-BENNIG UU3
Hefyd ar prif label Soft Lad ”Allaim Disgwyl” 7 ” Clear Vinyl R-BEN 143f”

Esboniodd hefyd eu bod yn dathlu 30 yn 2020 – mae’n siwr y bydd yna ddatblygiadau erbyn hynny – a bod sawl cân ar YouTube, megis sengl Ari Parri Esboniodd hefyd eu bod yn dathlu 30 yn 2020 – mae’n siwr y bydd yna ddatblygiadau erbyn hynny – a bod sawl cân ar YouTube, megis https://youtu.be/ssS1OBuSqlE

Y dyddiau hyn, gallwch weld cynnyrch gan R-Bennig ar eu tudalen ar Bandcamp https://r-bennig.bandcamp.com/

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni