Rhywun Am Hysbysebu?

‘Nôl yn 1983, rhyddhawyd record gan y grwp roc o Fethesda, Maffia Mr. Huws ar y cyd rhwng y grwp a gwyl Pesda Roc. Teitl y record? Hysbysebion.

Ariannwyd y record yn rhannol gan werthu gofod hysbysebu ar glawr y record. Roedd y clawr mewn arddull “gatefold”, sef clawr ddwbl, er mai un record oedd tu mewn (record 12 modfedd, 45cyf, 4 cân arni, rhif Pesda Roc R001).

Roedd yr arddull gatefold yn boblogaidd yn yr 80au – roedd yn bosibl cael mwy o le ar gyfer y gwaith celf ac ati. Yn achos Maffia, defnyddio’r gofod ar gyfer hysbysebion wnaethant – pedair tudalen o hysbysebion!

Felly, dyma gynnig y wobr am y nifer mwyaf o hysbysebion ar un record Gymraeg i Maffia Mr Huws (oni bai bod rhywun yn gwybod yn well!)

O droi at y record ei hun, roedd pedair cân ar y record:

A1 Hysbysebion
A2 Byth Eto
B1 Tri Chynnig I Gymro
B2 Yr Addewid

Aelodau’r grwp ar y pryd oedd:

Gwyn Jones-drymiau
Deiniol Morris-gitâr fas, llais cefndir
Hefin Huws-Llais
Sion Jones-gitâr, llais cefndir

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: