Caset lle’r ail recordiwyd caneuon Geraint Jarman o’i albwm Hen Wlad Fy Nhadau yw hwn. Mae amryfal artistiaid y cyfnod wedi ail recordio caneuon yr albwm gwreiddiol.

Label Ankst gyhoeddodd y caset ‘nôl yn 1990. Mae’r nodiadau ar glawr y caset yn disgrifio’r record “Hen Wlad Fy Nhadau” fel “un o’r recordiau hir pwysicaf yn hanes canu roc Cymraeg”. Dwi’n cofio faint wrandawais i ar y record honno ar y pryd – ei chwarae drosodd a throsodd nes ei bod yn dwll bron.
Mae’r nodiadau yn cyfeirio at neges wleidyddol gref y record a gyflwynir drwy gyfrwng cerddoriaeth, a sut y mae’r caneuon gwreiddiol yn cael gwedd newydd gan rai o brif grwpiau’r 90au.
Ar y pryd, roedd yna ymgyrchu cryf dros Ddeddf Eiddo, a mae yna daflen Cymdeithas Yr Iaith ar y pwnc yn rhan o glawr y caset.
Dyma’r tro cyntaf i mi glywed y caset hwn – diolch i Geraint fy mrawd am gael gafael ar gopi ac am adael i mi gael gwrando arno. Mae’r grwpiau sydd wedi ail-recordio’r caneuon wedi rhoi eu naws a’u stamp eu hunain ar y caneuon, ond heb golli cyffyrddiad na neges wreiddiol Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr.
Hen Wlad Fy Nhadau – ANKST 013, Rhagfyr 1990
Y caneuon:
A1 Ethiopia Newydd-Steve Eaves a’i Driawd
A2 Methu Dal Y Pwysa’-Llwybr Llaethog
A3 Instant Pundits-Nid Madagasgar
A4 Sgip Ar Dân-Celt
A5 O Lisa-Ffa Coffi Pawb
B1 Merch Ty Cyngor-Datblygu
B2 Disgwyl Y Barbariaid-Maffia
B3 Paradwys Ffwl-Jecsyn Ffeif
B4 Un Cam Ymlaen-Eirin Peryglus
B5 Steddfod Yn Y Ddinas-Ty Gwydr
B6 Hen Wlad Fy Nhadau-Datblygu
