Gwerthiant Gorau.

Trebor Edwards – llun gan Sain Cyf (dan drwydded Wikimedia)

Mae’n swyddogol mai Trebor Edwards yw’r artist a werthodd fwyaf o recordiau Cymraeg i gwmni Sain. Yn ôl y cwmni, mae Trebor wedi gwerthu dros 155,000 o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau ar label Sain yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu y cwmni.

Bu Trebor yn sgwrsio hefo Aled Hughes ar Radio Cymru bore ddoe. Soniodd y tenor o Fetws Gwerful Goch, sir Ddinbych, sut y llwyddodd i gyfuno bywyd fel canwr a ffermwr dros y blynyddoedd.

Cafodd ei ethol yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd yn 2008.

Wel, mae nhw’n dweud mai os ydych am weld rhywbeth wedi’w wneud yn gyflym a phrydlon, gofynnwch i berson prysur!

Un nodyn ddigri yn y sgwrs ar Radio Cymru oedd hanes y sigaret ar garreg yn llun Edwin Derbyshire are glawr un o’i recordiau. Bu hefyd yn sôn am y pleser gafodd yn teithio’r byd a chanu ar gychoedd, a sut y bu i’w blant ei helpu drwy ofalu am y fferm tra’r oedd o ffwrdd yn canu o bryd i’w gilydd.

Ganwyd Trebor yn 1939, a chychwyn ei yrfa recordia ‘nôl yn y 70au gan ryddhau dwy EP ar label Ty Ar Y Graig yn 1973 a 74 (a oedd erbyn hynny yn ran o gwmni Sain).

Dyma restr o recordiau Trebor Edwards dros y blynyddoedd:

Ty Ar Y Graig
TAG 245 Ave Maria (EP, 1973)
TAG 249 Duw Wyr (EP, 1974)

Sain
Sain 1048D Dyma Fy Nghân (LP, 1976)
Sain C548 Dyma Fy Nghân (caset, 1976)

Sain 1113D Cân Y Bugail (LP, 1978)
Sain C713 Cân Y Bugail (caset, 1978)

Sain 1193D Un Dydd Ar Y Tro (LP, 1980)
Sain C793 Un Dydd Ar Y Tro (caset, 1980)

Sain 1260D Ychydig Hedd (LP, 1980)
Sain C860 Ychydig Hedd (caset, 1980)

Sain 1280D Presenting Trebor Edwards (LP, 1983)
Sain C880G Presenting Trebor Edwards (caset, 1983)

Sain 1313 Gwelaf Dy Wên (LP, 1984)
Sain C913 Gwelaf Dy Wên (caset, 1984)

Sain 1387D Diolch (LP, 1986)
Sain C987 Diolch (caset, 1986)

SCD 9031 Goreuon Trebor (CD, 1988)
Sain C631 Goreuon Trebor (caset, 1988)

Sain 1496 Edrych Ymlaen (LP, 1990)
Sain C696 Edrych Ymlaen (caset, 1990)

SCD 2061 Ceidwad Byd (CD, 1993)
Sain C2061 Ceidwad Byd (caset, 1993)

SCD 2169 The Very Best Of Trebor Edwards (CD, 1997)
Sain C2169 The Very Best Of Trebor Edwards (caset, 1997)

SCD 2183 Ffefrynnau Newydd (CD, 1998)
Sain C2183 Ffefrynnau Newydd (caset, 1998)

SCD 2377 Trebor Ar Ei Orau (CD, 2007)

SCD 2530 Sicrwydd Bendigaid (CD, 2008)

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: