Cyfatebiaeth Casetiau.

Wedi gweld eitem fach yn Arddangosfa 50 Sain, dyma benderfynu rhoi manylion y drefn rhifo casetiau wmni Sain lawr ar gof a chadw.

Mae perthynas rhwng trefn rhifo recordiau feinyl a chasetiau cwmni Sain, ond perthynas nad yw’n hollol amlwg ar adegau. Wedi cyhoeddi y caset cyntaf (C500, Y Tebot Piws, 1973) ‘doedd y rhifau ddim yn gwbl yr un fath, ond hefo’r ddau ddigid olaf yn cytuno fel rheol i greu’r cysylltiad.

Fe ddylai hyn helpu casglwyr fel fi i baru y recordiau a gyhoeddwyd hefyd ar gaset.

Casetiau C500-C599 yn cyfateb i LP 1000-1099

Casetiau C700-C799 yn cyfateb i LP 1100-1199

Casetiau C800-C899 yn cyfateb i LP 1200-1299

Casetiau C900-C999 yn cyfateb i LP 1300-1399

Casetiau C600-C699 yn cyfateb i LP 1400-1499

Casetiau C400-C499 yn cyfateb i rifau 4000-4099 (cryno-ddisgiau)

Ar y cyfan, mae gweddill y casetiau yn cyfateb yn uniongyrchol i rifau cryno-ddisgiau o’r un rhif, e.e. Sain C2000 (caset Hogia Llandegai) yr un peth a’r gryno-ddisg SCD 2000.

Wrth gwrs, ceir ambell i gaset neu record neu gryno-ddisg oedd ond ar un cyfrwng.

Gallwch ddilyn hyn i gyd wrth gyfeirio at y Ddisgyddiaeth ar y wefan hon.

One thought on “Cyfatebiaeth Casetiau.

  1. Digon teg. Tin lwcus ti dim yn Casglu records northern soul hen goes. Label Karen Detroit yn hunllef. Tia chwech band ar un rhif! 3035 Neu rwbath. Ma Sain clueless am petha weithia. Dim byd ar y we tan degawd at ol pawb arall!

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: