Babi Mam

Clawr yr EP ddigidol R-BEN 142

EP ddigidol gan Huw Angerddi ydi hon, hefo caneuon babanod, wedi’w chyhoeddi gan R-Bennig.

‘Rydym wedi arfer hefo cerddoriaeth rap, arbrofol a gwahanol gan R-Bennig, a mae hon yn sicr yn wahanol i’w deunydd arferol.

Dyma Huw Angerddi (yr enw yn chwarae ar y gair “hwiangerddi”) yn chwarae pedair cân offerynnol ar gyfer y babanod. Ceir swn xylophone a nodau synth i greu caneuon eithaf syml a meddal, fel caneuon plant bach. Mae yna rhywfaint o naws arbrofol i’r caneuon weithiau.

Mae’n anodd dweud sut y dylid dehongli ambell i record gan R-Bennig. Fe allwch dderbyn hon fel caneuon ar gyfer babanod, neu gwarando arni fel cerddoriaeth ychydig yn arbrofol. Un peth y gellir ddweud heb amheuaeth ydi fod o’n wahanol iawn weithiau i gynnyrch cwmniau Cymraeg eraill ac yn hynny o beth mae’n sicr fod yna le i gynnyrch R-Bennig.

Mae’r cwmni wedi bod yn weithgar iawn eleni hefo bron i ddeg ar hugain o gyhoeddiadau, a hynny heb fawr o gyhoeddusrwydd.

Gallwch lawr-lwytho’r pedair cân yn unigol am £0.50 yr un (cyfanswm £2.00) oddi ar dudalen R-Bennig ar Bandcamp. Mae hefyd ar gael fel rhan o’r casgliad R-Bennig o 29 sengl, EP ac LP am £32.50 am y cwbl lot, sef gostyngiad o 35% o’i gymharu a’u prynu yn unigol. Mae 29 “record” yn y pecyn hwn wrth i mi sgwenu hwn.

https://r-bennig.bandcamp.com/track/babi-mam

One thought on “Babi Mam

  1. Digri. Neshi anghofia hwn yn gyfan gwbl. Bechod mawr gweld Mothercare yn mynd ir wal eleni. Mae deunydd R-Bennig wastad yn gweithio ar sawl cymal. Ma clientele byth yn bothran gyda heip dyna nature y label. Fodolaeth yn pwysicach..rwbath I darganfod tra wahanol I ‘seekers’ ma’debug. Ffydd

    Hoffi

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Create your website at WordPress.com
Cychwyn arni
%d bloggers like this: