
Dyma wefan sy’n nefoedd i gasglwyr recordiau. Yn llawn gwybodaeth, a recordiau o bob math ar werth. Gan gynnwys nifer o recordiau Cymraeg.
Yn hytrach na gwerthu’r recordiau eu hunain, mae Discogs yn gweithredu fel lle masnach, lle gall unigolion a chwmniau brynu a gwerthu recordiau. Mae hefyd yn storfa helaeth o wybodaeth am recordiau o bedwar ban byd.
I brynu a gwerthu, mae angen cyfrif arnoch i allu mewngofnodi. Mae creu cyfrif yn rhad ac am ddim, neu gallwch bori drwy’r wybodaeth heb fewngofnodi, e.e. yn y blwch ‘chwilio’ ar ben y dudalen, teipiwch ‘fflach’ ac mi gewch restr sy’n cynnwys tudalen am gynnyrch y cwmni, yn ogystal a theitlau ac artistiaid y cwmni. Gallwch glicio ar un o’r rhain i weld y wybodaeth ac os oes copïau o’r recordiau ar werth. Gyda chyfrif, mi allwch hefyd helpu i olygu ac uwchlwytho gwybodaeth a lluniau o recordiau Cymraeg a bod yn aelod llawn o’r “gymuned” ar Discogs.

Mae yna nifer o werthwyr o Gymru i’w cael ar Discogs (cwmni Americanaidd yw Discogs ei hun, ond yn gweithredu dros y byd). Mae’n ddiddorol gweld faint o gwmniau ac unigolion o dramor sydd â recordiau Cymraeg ar werth hefyd.
Wedi clicio ar yr awgrym “Fflach” yn y llun uchod, mi gefais wybod bod 15 o recordiau/cryno-ddisgiau label Fflach are werth y bore ‘ma, yn y blwch ar y dde:

Yna wedi clicio ar y “12 For Sale” ar y dde, cefais restr o’r eitemau ar werth, oedd yn cychwyn gyda record wen ‘Canol Caled’ a oedd yn eithaf eironig yn cael ei gwerthu gan gwmni o’r enw “purple_vinyl”:

Mae’r wefan yn dangos y gost a’r cludiant. Weithiau, mae angen disgwyl neges gan y cwmni os nad yw’n dangos cost cludiant – byddwch yn ofalus o’r gost, yn enwedig wrth archebu o gwmni tramor gan fod costau cludiant yn amrywio gymaint. Wrth glicio ar ‘View release page’ mae’n eich gyrru i dudalen am y record hon:

Er nad yw’r llun uchod yn ei ddangos, weithiau ar ochr dde gwaelod y dudalen yma mae’n dangos hanes gwerthiant y record. Defnyddiol iawn i gael syniad beth yw gwerth eich recordiau prin. Triwch hyn hefo recordiau grwpiau fel Y Blew neu Pererin. Awgrym: eisteddwch lawr cyn trio, rhag ofn i chi ddychryn!
Mae’n bosibl cynnal rhestrau personol o fewn Discogs – fe welwch fotymau Collection a Wantlist fel y gallwch gadw rhestr o’r recordiau sy’n eich casgliad eisoes, ac yn ddefnyddiol iawn rhestru recordiau y byddech yn hoffi eu prynu – y “Wantlist”. Mae’n bosibl cael Discogs i yrru ebost i chi os daw un o’r rhain ar werth. Dwi’n defnyddio dipyn ar hwn.
Mae Discogs yn cynnal rhyw fath a system raddio ar y gwerthwyr a’r prynwyr. Wrth ddelio hefo nhw, mae cyfle i chi adolygu eu gwasanaeth a sut oedd hi yn delio hefo nhw. Mae’r goreuon hefo graddiad mwy na 90 y cant o fodlondeb, ambell i un gant y cant. Mae’n rhaid dweud er nad ydw i yn talu llawer o sylw i hwn, mae i’w weld yn gweithio achos dwi bron erioed heb gael trafferthion hefo archebion gan fod y gwerthwyr yn awyddus i gadw eu cwsmeriaid yn hapus a’u graddiad eu hunain yn uchel o ganlyniad.
Mi welwch felly bod Discogs yn fwy na chwmni, mae yna elfen o gymuned a bas data yma hefyd. Dwi’n difarru rhywfaint ‘mod i wedi bod mor hir yn dod o hyd i’r wefan hon (er efallai y gellid dweud fy mod wedi gwario mwy na ddyliwn ar adegau!)
O safbwynt recordiau Cymraeg, mi allaf awgrymu fel enghraifft y gwerthwr “SoulExp1”, neu “Soul Explosion Records”, sef Martin Davies o sir Gaerfyrddin. Dwi wedi prynu lot fawr o recordiau ganddo (Cymraeg a Saesneg), mae wastad yn gwrtais yn delio hefo fi, yr archebion yn cyrraedd yn brydlon a mewn cyflwr da, a wastad yn gyrru neges o rybudd os oes oedi’n debyg neu unrhyw drafferth hefo’r archeb. Dwi ddim yn adnabod Martin, mae’n debyg mai Cymro di-Gymraeg ydi o ond hefo Cymraes yn wraig sydd wedi’w annog i werthu recordiau Cymraeg (diolch byth!). Mae’n amlwg ei fod yn plesio ei gwsmeriaid, oherwydd fod ganddo raddiad o 99.9% bodlon hefo’i wasanaeth. Mae hefyd yn weithgar yn teipio manylion recordiau Cymraeg ar system Discogs ac an uwchlwytho lluniau o’r cloriau ac ati.
Mae’n siwr eich bod wedi dyfalu ‘mod i’n dipyn o ffan o’r wefan hon gan fy mod yn defnyddio gymaint ar y lle. Mae’n llawn gwybodaeth a digon o recordiau Cymraeg ar werth gan gymaint o werthwyr. Mae’n wefan enfawr a mae’n gallu cymeryd dipyn o amser i ddygymod â’r cyfan, ond werth treulio’r amser yn gwneud hynny.
Mi ddyliwn esbonio (rhag ofn i rywun feddwl mai hysbyseb ydi hwn!) nad oes gennyf unrhyw fath o gysylltaid hefo cwmni Discogs na run o’r gwerthwyr dwi wedi son amdanynt.
Mewn erthyglau eraill mae’n siwr y byddaf yn son am gwmniau a sefydliadau eraill sy’n gwerthu dipyn o recordiau Cymraeg. Mae digon ohonynt os ydych yn gwybod lle i ddechrau chwilio. Dwi wedi rhestru rhai enghreifftiau o’r cwmniau dwi’n delio hefo nhw ar y dudalen Dolenni.
Os oes gennych hi hoff gwmniau yr ydych yn prynu hen recordiau Cymraeg ganddynt, neu awgrymiadau am lefydd da i ddod o hyd i recordiau Cymraeg i’w casglu, gadewch i mi wybod ac mi allaf ychwanegu’r manylion i’r wefan hon.
