Wedi bod yn gwrando ar unig (hyd y gwn i) record Gymraeg y Jays.

John Roberts (o Gerrigydrudion) a John Brooks (Rhuthun) oedd y Jays. Enw’r grwp yn dod o’r ffaith fod enwau’r ddau yn cychwyn hefo J, ond mae’n debyg fod “Y Jays” yn edrych yn well na “Y J’s” !
Cyn rhyddhau y record, roedd y ddau wedi bod yn perfformio mewn clybiau yng ngogledd Cymru a glannau Mersi am gwpl o flynyddoedd. Roeddynt yn ffans o grwpiau fel y Bee Gees a’r Beatles ar y pryd – mae rhywfaint o’r dylanwad i’w glywed yn y caneuon.
Rhyddhawyd y sengl ar label Wren yn 1974, rhif catalog WSP 2025. Roedd dwy gan arni:
- Cymru
- Tyrd Yn Ôl
Cyfansoddwyd y geiriau gan Menna Jones a’r alawon gan John Brooks.
Yn ymddangos ar y record hefo’r ddau John oedd:
- Dave Gill (organ)
- David Gibson (drymiau)
- Wayne Barlow (gitâr fas)
Cafodd y caneuon eu recordio mewn stiwdio yn Abertawe – Swansea Recording Studios.
Be wnaeth i mi feddwl am y record yma? Newydd i mi ddechrau troelli ddiwedd y 70au, roeddem mewn dawns yn neuadd Cerrigydrudion neu Llansannan (ddim yn cofio’n iawn pa un) pan ddaeth rhywun i’r llwyfan a gofyn i ni chwarae ‘Cymru’ gan y Jays, a minnau’n gorfod cyfaddef nad oedd copi gen i i’w chwarae, ac yn waeth na hynny, ‘doeddwn i erioed wedi clywed am y record! Ychydig o ffrae yn dilyn!
Am ryw reswm, cofio hynny dros y blynyddoedd ac yn fuan wedyn taro ar draws copi ail law o’r record. Colli honno ryw ben ac yn ddiweddar iawn taro’n lwcus a gallu prynu copi arall.
Wedi son gymaint amdani, dyma rhyw hanner munud o’r gân ‘Cymru’ i chi gael clywed cystal record oedd hon ddechrau’r 70au:
