Er nad ydi hyn yn uniongyrchol i’w wneud â chasglu recordiau, diddorol oedd darllen ar wefan Radio Cymru am y Gronfa Lawnsio, sy’n cynnig arian i berfformwyr o Gymru, i’w helpu i ehangu eu cynulleidfa.
I ddyfynnu o’r wefan:
“Yn rhan o’r cynllun Gorwelion, mae cronfa Lawnsio yn adnodd sy’n helpu artistiaid neu fandiau talentog yng Nghymru i ddatblygu eu gyrfaoedd cerddorol, drwy ddarparu mynediad hollbwysig iddynt at gyllid.”
Gobeithio y bydd y cynllun o gymorth i grwpiau ac unigolion sy’n dechrau perfformio a recordio yn y Gymraeg. Yn ôl y wefan, gellid derbyn hyd at £2,000 dan y cynllun hwn.
Mwy o wybodaeth ar y dudalen https://www.bbc.co.uk/programmes/articles/3rvwkyqpVgQ7dwnZjj2WYhT/y-gronfa-lawnsio-2020

Mae un record go iawn yn y ‘record industry’ yn gostiau tua 750 grand o bunnau. Beth yn union yw ti neud gyda dau mil? A bedi’r ‘ lefel nesaf?’ Rhaglen Tudur Owen? Is ma band neu can yn diddorol tydio dim mater o nawdd. A pwy dir mentors? Failed indie kids Cymraeg. Gethin Jet all the way..
HoffiHoffi