Welsh Experimentalist #3

Llun o glawr y Welsh Experimentalist rhif 3
Clawr y Welsh Experimentalist #3

Nôl ym mis Ebrill mi soniais am y ddwy gyntaf yn y gyfres hon gan gwmni recordiau R-Bennig.

Erbyn hyn, mae’r trydydd yn y gyfres ar gael, rhifyn mis Gorffennaf.

Lyndsay Davies o Dregarth yw’r arbrofwr y tro hwn. Yn ôl y disgrifiad ar wefan y cwmni ar Bandcamp, mae’n cyfansoddi cerddoriaeth trwy ddefnyddio App papur-lluniau yn y Gymraeg. Mae’n debyg y gallwch chwarae peth ohono’n ôl drwy sganio’r lluniau.

Fel y disgwyl, seiniau cwbl arbrofol a geir yma, yn electroneg eu naws. Deuddeg trac fydd yn apelio ar wrandawyr sy’n hoff o gerddoriaeth arbrofol a gwahanol. Offerynol gan fwyaf, hefo ambell i gyfraniad lleisiol Cymraeg yn y cefndir ar un neu ddau o’r traciau.

Ceir un thema sain yn rhedeg drwy’r cwbl, ond hefo sawl math o gerddoriaeth wahanol ar y gwahanol draciau yn cyd-fynd. Eir mor bell a cerddoriaeth sitaraidd yn y cefndir ar 2 o’r traciau. Gorffennir gyda thrac hefo’r teitl diddorol “Jazz Papur Ty Bach”.

Mae’r casgliad hwn yn arbrofol ac yn sicr yn wahanol. Mae’n byw fyny i deitl y gyfres “Welsh Experimentalist yn dda iawn. Os ydych yn hoff o gerddoriaeth arbrofol neu’n chwilio am rhywbeth ychydig bach yn wahanol i’r recordiau Cymraeg arferol, mi fyddwch yn mwynhau hon.

Mae Welsh Experimentalist #3 ar gael am daliad o bunt neu fwy am albwm o 12 o draciau drwy gwefan R-Bennig ar Bandcamp:

https://r-bennig.bandcamp.com/album/the-welsh-experimentalist-issue-3-july-2021

Un sylw ar “Welsh Experimentalist #3

  1. Diolch am yr adolygiad. Dim ond tri CD bu yn y gyfres rwin meddwl. Rhai gynnar wedi gwerthu allan. Yn ol Lyndsay mae App hi’n defynyddio yn clon o synth Soviet rhyw sut heddiw yn mynd am ffortiwn braidd. Yn personal rwi di cael llond bol o nonsens arbrofol ond mae miwsig yn ymddangos ar Radio stations tu allan y ffilltir sgwar.. felly diolch iddo nhw am talu am fy cinio sul..papur ty bach yn neud well swn ella? Prin iawn yw genod yn arbrofi chwarae teg. Mercury Music Prize pia hi?

    Hoffi

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni