Sidan

Y record ddiweddaraf i mi ei hychwanegu i’r casgliad yw “Lliwiau”, record EP gyntaf y grwp Sidan (Sain 27, 1972).

Grwp o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd oedd Sidan – Caryl Parry Jones, Gaenor Roberts, Sioned Mair, Meinir Evans a Gwenan Evans.

Yn ôl y nodiadau ar gefn clawr y record, “Daeth Sidan i Amlygrwydd ar ôl ennill y gystadleuaeth canu ysgafn yn Eisteddfod Jiwbili yr Urdd yn y Bala, yna y gystadleuaeth radio ‘Dewch I’r Llwyfan’ “

Cafwyd un EP arall ganddynt, sef “Ai Cymro Wyt Ti?” (Sain 40, 1973), ac un record hir, “Teulu Yncl Sam” (Sain 1017, 1975, hefyd ar gaset Sain C517). Bu i’r grwp hefyd gyfrannu tuag at recordiau eraill, fel Gorffennwyd (stori’r Pasg) yn 1976.

Beth sy’n ddiddorol am y record hon yw’r llawysgrif ar gefn y clawr, yn Saesneg, fel a ganlyn:

To Prince & Princess Llewelyn & Lady Maureen
From Lord and Lady Caer.
Gwrych Castle 6th July 1973, Abergele.

‘Roedd castell Gwrych yn dal ar agor i’r cyhoedd yn 1973 a phob math o ddigwyddiadau yno. Byddai’n ddiddorol gallu ffeindio allan be oedd y digwyddiad ac arwyddocad yr ysgrif!

One thought on “Sidan

  1. Pwy dir hogyn ar y clawr? Debyg I Graham gwr Gaynor Davies..media moguls Dime Goch? Ma lp nhw yn codi
    £200 rwan neshi taflu petha fel hun at y tan rhag ogn fy ffrindiau yn gweld fath cloriau twee Cymraeg o gwmpas fy hen stiwdio. Yn wir Mae Sain about nail it for unfashionable mewn unrhyw cyfnod. Oedd na siop yn y Castlell? Gwerthu nwyddau Sain ? Rwin cofia Y Morfa Rhyl. Dim clem am y sgrifen..

    Hoffi

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni