
Trist iawn clywed am golli Dewi ‘Pws’ Morris, fu’n gymaint rhan o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd. Bu farw’n 76 oed.
O’i gyfnod fel rhan o’r Tebot Piws a’r grwp roc Edward H Dafis yn y dyddiau cynnar, i’w gyfraniadau gwerin mwy diweddar, heb son am ei lenyddiaeth, barddoniaeth a gwaith actio, bydd colled fawr ar ei ôl.
Pob cydymdeimlad i’w deulu a’i ffrindiau.
