Newydd dderbyn copi o lyfr hefo’r teitl “Gwreiddiau Canu Roc Cymraeg”. Cafodd ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Mei ‘nôl yn 1981 am y pris mawr o £1, er i mi dalu ychydig mwy na hynny am gopi ail law! Fe seilwyd y llyfr ar gyfres o sgyrsiau a gynhyrchwyd gan Eurof Williams ar gyfer BBC RadioParhau i ddarllen “Gwreiddiau”
Tagio Archifau: llyfrau
Be Bop a Lula’r Delyn Aur
Dwi wrthi’n darllen llyfr Hefin Wyn, “Be Bop a Lula’r Delyn Aur” ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa yn 2002. Mae’n trafod y byd canu poblogaidd Cymraeg o’r 40au i’r 80au. Gyda thros 400 o dudalennau, 112 o luniau du a gwyn a 46 o rai lliw, mae’n glamp o lyfrParhau i ddarllen “Be Bop a Lula’r Delyn Aur”
