Siopau Elusen

Mae yna siopau elusen ar bron bob stryd fawr y dyddiau yma. Ga’i ddweud cyfrinach fach wrthoch?

Maent yn lefydd ardderchog i ffeindio recordiau a chryno-ddisgiau ail law Cymraeg!

Recordiau mewn siop elusen

Dwi wedi treulio ambell i fore neu brynhawn bach difyr yn chwilota drwy silffoedd a bocsus o recordiau mewn siopau elusen ac ail law yn trio ffeindio recordiau Cymraeg ar gyfer y casgliad.

Yn aml, tydi staff di-Gymraeg y siopau yma ddim yn sylweddoli gwerth rhai recordiau Cymraeg a dwi wedi bod yn reit lwcus yn cael recordiau, tapiau a chryno ddisgiau am lai na phunt yr un. Mae’n deimlad da, gwybod bod eich arian wedi mynd at achos da, a bod y record wedi cael cartref newydd yn hytrach na gorffen fyny mewn twll yn y ddaear neu ei doddi lawr i’w ailgylchu fel lwmpyn o blastig, ac wrth gwrs ‘rydych chi ar eich ennill o gael gafael ar record arall i’r casgliad!

Mi fyddwch wrth gwrs yn crywdro’n bell heb ffeindio dim o gwbl weithiau, ond ambell waith mi wneuch daro’n lwcus.

Yn amlach na pheidio, siopau yn yr ardaloedd Cymraeg neu o leiaf mewn ardal lle bu siop yn gwerthu pethau Cymraeg fyddwch fwyaf llwyddiannus, ond dwi hyd yn oed wedi taro ar draws ambell un mewn siopau yn Lloegr a’r Alban o dro i dro tra ar wyliau.

Gyda ail-ddyfodiad recordiau feinyl yn ddiweddar, mae’n siwr y bydd y siopau’n dod i werthfawrogi bod gwerth ar y pethau yma ac yn codi prisiau, neu eu gwerthu i siopau a gwerthwyr eraill fydd yn eu tro yn gwerthu’r recordiau am brisiau a phroffid mawr. Ar y llaw arall, fe all olygu bod mwy o hen recordiau yn mynd ar werth yn y siopau hyn.

Mae rhai siopau’n fwy gofalus ac yn sylweddoli bod gwerth ar recordiau feinyl ac yn prisio’n fwy gofalus ac efallai yn llai tebyg o roi nwyddau ansawdd llai na perffaith yn y siopau. Mae siopau elusen bach mwy lleol i’w gweld yn well am daflu pethau mewn bocsus a gadael y cwsmer i benderfynu. Gallwch chi elwa o hyn, ond fe fyddant hwy yn elwa o’r ffaith eich bod yn barod i wario eich arian yn lleol yn hytrach na mynd i goffrau y siopau mwy cenedlaethol.

Mae’n werth cadw golwg ar wefannau yr elusennau, gan fod dipyn o’r recordiau gwell yn cael eu rhoi yno.

Fel enghraifft, edrychwch ar wefan Oxfam http://www.oxfam.org.uk/shop . Pan edrychais drwy chwilio am “Welsh Records” wrth sgwennu hyn, mae yna hen record 78rpm Gymraeg o 1914 ar werth am £15. Robert Evans yn canu dwy gân Gymraeg, “Gwlad-y-Delyn” a “O’r Niwl i’r Nef” ar label The Winner, rhif 2627. A nifer o recordiau a chryno ddisgiau mwy modern wrth gwrs.

Felly, os am gasglu recordiau Cymraeg ewch am dro i’r siopau bach hyn a mwynhewch eich hun yn chwilio am fargen!

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni