
Ryddhawyd recordiau wedi eu gwneud o polyvinyl chloride (PVC) yn yr 1940au, er y bu rhyw faint o arbrofi hefo defnyddiau o’r fath i wneud recordiau byth ers dyddiau yr hen recordiau 78cyf shellac. Roedd RCA Victor wedi dyfeisio recordiau feinyl yn yr 1930au ond ni fu rheini’n lwyddiant masnachol.
Yn raddol, dechreuwyd ddefnyddio’r term “feinyl” am recordiau, pa ddefnydd bynnag a ddefnyddid i’w gwneud.
Mae’n hawdd anghofio efallai nad yw’r to ifanc wedi dod ar draws recordiau feinyl rhyw lawer. Maent yn dod mewn sawl maint ac yn chwarae ar sawl cyflymdra. Mesurir y main ar draws rhan lletaf y record.
7 modfedd – recordiau sengl (un gân bob ochr) ac EPs (mwy nag un gân bob ochr).
10 modfedd – recordiau hir cynnar, yn y 50au a’r 60au. Nifer o recordiau Cymraeg o’r cyfnod hwn gan gwmniau fel Delysé a Qualiton fel y byddech yn disgwyl, ond mae ambell i record mwy diweddar wedi’w rhyddhau, fel rhai o recordiau Gorky’s Zygotic Mynci a Topper gan Ankst yn y 90au, ac “In Luna” gan Georgia Ruth Williams ar label Gwymon yn 2012, a “Swimming Limbs” gan Jen Jeniro ar I Ka Ching yn 2011.
12 modfedd – y record hir gyfoes, sy’n gallu dal tua 22 munud bob ochr o’r record ar gyflymdra o 33 1/3cyf. Ceir ambell i record 12 modfedd 45cyf hefyd, fel un y Trwynau Coch “Un Sip Arall” yn 1979.

Ceir ambell i faint llai cyffredin arall hefyd, fel record 8 modfedd y Celfi Cam “Hwiangerdd” o 1999, a recordiau bach a ddefnyddiwyd mewn tegannau plant ers lawer dydd. Hefyd, ‘roedd yna recordiau 6 modfedd a ddefnyddiwyd i recordio eich llais eich hun ar beiriant Voice-o-Graph mewn bwth arcedau glan y môr neu ffair bach, i’w yrru fel anrheg neu gerdyn post sain o’ch gwyliau glan y môr yn y 50au a’r 60au (cafodd ei ddyfeisio gan gwmni International Mutoscope yn y 40au). Glamp o beiriant mawr tua maint ciosg ffôn, hefo meicroffon, fyddai’n recordio’n syth i ddisg cardfwrdd wedi ei lamineiddio. Doedd y fath record ddim yn para’n hir, yn dirywio bob tro y ca’i chwarae, a gyda dyfodiad tâp yn y 60au, diflanodd y Voice-o-graph yn fuan ar ôl hynny.
Mesurir cyflymdra chwarae recordiau mewn cylchdroadau y funud (cyf). Wedi tranc yr hen recordiau 78cyf, y math mwyaf cyffredin oedd 33 1/3cyf a 45cyf. Mi oedd yna rercordiau arafach hefyd. Gellid recordio mwy o amser ar record arafach, ond ‘doedd yr amser ddim cystal, felly fe ddefnyddiwyd recordiau 16 2/3cyf ar gyfer recordiau llafar yn hytrach na cherddioraeth, fel llyfr llais i’r deillion, er enghraifft. Erbyn y 70au, ‘doedd y cyflymdra yma ddim ar gael ar chwaraewyr recordiau newydd.

Digon od, fe ddatblygwyd system yn 1956 gan Chrysler yn yr UDA o’r enw “Highway HiFi” i chwarae recordiau 16 2/3cyf mewn chwaraeydd recordiau ceir, ond ni fu’n llwyddiant mawr, yn enwedig gyda dyfodiad casetiau oedd yn haws i’w defnyddio a mwy dibyniadwy yn y ceir.
Ffurf arall ar y record feinyl oedd y disgiau fflecsi. Wedi’w gwneud o ffilm feinyl denau iawn, tua trwch darn o bapur. Yn aml, defnyddiwyd hwy fel record i fynd hefo llyfrau neu ar glawr cylchgrawn. Digon da i allu eu chwarae ar chwaraeydd cyffredin os oedd y bwrdd chwarae digon gwastad. Os nad oedd ddigon gwastad, weithiau byddai’n rhaid chwarae record o’r fath ar ben record arall! Cafwyd un neu ddwy o esiamplau o’r math yma o record yn y Gymraeg hefyd dros y blynyddoedd.

Er mai du oedd (ac yw) lliw recordiau feinyl fel rheol, dros y blynyddoedd fe gafwyd recordiau o bob lliw. A llun – ambell waith fe welwn record hefo llun wedi’w gynnwys tu fewn i haenen glir, fel record Ray Jones, “Dagrau’n Dechrau Disgyn” ar label Recordiau MF yn 1984.
Gyda dyfodiad y cryno-ddisgiau yn yr 80au, daeth amser feinyl fwy na lai i ben, gyda gostyngiad sylweddol yn y gwerthiant bob blwyddyn. Ond erbyn hyn, mae peth atgyfodiad, gyda nifer gymharol fach o recordiau feinyl yn cael eu cyhoeddi, recordiau fel “Melyn” gan Adwaith ar label Libertino yn 2018. Ymddengys na fydd recordiau feinyl fyth yn diflannu’n llwyr.
