
Dyma gaset bach gwahanol ddaeth i fy nghasgliad yn ddiweddar – “Awn I Fefflem” (Bethlehem), sef stori gan Bfian Lloyd Jones.

Cymeriad yr actor Dyfed Thomas oedd Bfian Lloyd Jones rhai blynyddoedd yn ôl, a fyddai’n ymddangos ar radio a theledu. Er efallai ddim yn wleidyddol gywir y dyddiau hyn, mae gan Bfian nam lleferydd gyda’i “r” sy’n elfen gryf o’i bersonoliaeth. Efallai eich bod yn gwybod am Dyfed Thomas fel y Doctor Hywel Ffiaidd, o’r grwp roc theatraidd a phync o’r 80au.
Yn hannu o Ogledd Ddwyrain Cymru, dwi’n ei gofio fel athro drama yn Ysgol Glan Clwyd am gyfnod byr.
Stori Nadoligaidd ydi “Awn I Fefflem” ar gyfer yr ifanc. Mae’n dechrau trwy awgrymu mai ffilm ddyliai’r stori fod. Ond wedi gwneud cais am arian i S4C cafodd yr ateb bod y dyn camera yn wael ar rhyw gwch, a’r dyn sain wedi colli’w basport. Felly, Norman a’i beiriant tâp amdani! Mae cerddoriaeth Also Sprach Zarathustra (2001:A Space Odyssey) yn cychwyn y stori a gosod naws a theimlad y stori.

Hanes y geni ydi hanfod y stori hon. Mair a Joseph, Bethlehem, Jiwdea, dinas Dafydd yn ymyl Aberdaron! Mae yna lot o gymhariaethau hefo Gogledd Cymru, a lot o hiwmor nodweddiadol Bfian a Dyfed. Ar un adeg mae bwyty Indiaidd yn rhan o’r stori – dim syniad sut mae stori’r geni yn cael bwyty Indiaidd! I roi enghraifft o’r hiwmor, mae’n trio egluro Aur Thys A Mur trwy ddechrau fel disgrifio aur fel y stwff melyn o gwmpas eich siocled. Lot o hiwmor diniwed fel yna ar gyfer yr ifanc. Mae’n esbonio’r stori trwy ei rhoi mewn rhyw fath o gyd-destyn modern.

‘Does dim dyddiad na manylion cyhoeddi ar y caset, ond mae yna ambell i awgrym yng nghynnwys y stori, fel cyfeirio’n ôl at newyn Ethiopia yn 1984 ac esbonio bod Iesu wedi dod i’r ddaear bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a chyfeiriadau at S4C aeth ar yr awyr gyntaf yn 1982. Hefyd, mae’n siwr o fod yn y cyfnod hwn yn yr 80au lle’r oedd casetiau yn fwy cyffredin na recordiau feinyl.
Mae’r caset wedi’w arwyddo gan Dyfed Thomas, ac yn para tua 25 munud yr ochr. Atgofion cynnes o’r cymeriad Bfian Lloyd Jones er nad ydw i’n cofio’n union pryd oedd hynny.
