Bum yn ffodus i daro ar draws y caset eithaf prin hwn ychydig wythnosau yn ôl fel rhan o gasgliad bach o recordiau a chasetiau a brynais adeg hynny. Dwi heb weld y caset arbennig hwn na’r artist, Ffilis Huws (a anwyd yn Phyllis Hughes), o’r blaen.

Caset a gyhoeddwyd ar label D@Music o Lannon, Llanelli ‘nôl yn 2001 oedd hwn. Ceir deuddeg o ganeuon gweddol draddodiadol, yn cynnwys cwpl o ganeuon Dafydd Iwan (Hawl I Fyw a Hen Hen Hiraeth) ac ychydig o emynau fel “Mi Glywaf Dyner Lais” (Sara). Cymraeg yw’r mwyafrif o’r caneuon, gyda dwy gân Saesneg.
Ceir cyfeiliant telyn (Bethan Williams), allweddellau (Christopher Davies), offerynnau taro (Simon Davies), ffliwt (Alun Williams), gitar a bâs (Gareth Gravel), yn ogystal a llais cefndir gan Geinor Haf.
Ganwyd Ffilis yn ardal Llandyfaelog, Sir Gâr ac erbyn bod ond pump oed, roedd eisoes wedi ennill ei gwobr gyntaf mewn eisteddfod leol.
Erbyn iddi gyrraedd 25 oed, roedd wedi ennill 120 gwobr yn lleol a chenedlaethol. Bu’n brysur yn canu bron bob penwythnos. Astudiodd yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin ac yna bu’n athrawes ym Mhen Y Bont Ar Ogwr cyn priodi a symud i Lundain, ble canodd rhannau blaenllaw mewn nifer o operau.
Ymfudodd y teulu i’r Dwyrain Pell yn sgil gwaith bancio ei gwr, lle cymerodd Ffilis ran blaenllaw gyda’r cymdeithasau Cymraeg yn Singapore a Malaysia, ac arwain côr merched Prydeinig yno.

Wedi peth amser yn y Dwyrain Pell, symudodd i Gaeredin yn Yr Alban, lle cafodd gyfle i gyfuno siarad cyhoeddus a cherddoriaeth tra’n hybu enw Cymru yno.
Bu’n ysgrifennu’n fisol i bapur Ninnau Gogledd America dan y ffugenw “The Welsh Lady”.
Symudodd yn ôl i Gymru a rhyddhau’r caset hwn yn 2001.
DATMC 196/DATCD 196 – “Ffilis” (Caset, 2001)
A1 Diolch
A2 Hiraeth
A3 Ar Hyd Y Nos
A4 Llansteffan
A5 Hawl I Fyw
A6 Sara
B1 Hen, Hen Hiraeth
B2 Ani
B3 Iesu Cofia’r Plant
B4 My Little Welsh Home
B5 Cartref
B6 Eli Jenkins’ Prayer
