Digwydd sylwi ar nodyn ar gefn clawr y record “The Singing Hills” gan Gôr Meibion Pendyrus o 1963 (label Qualiton, rhif QUA 12006) am darddiad yr enw “Pendyrus”. Mae’n debyg nad oedd yna dref na phentref adeg hynny o’r enw Pendyrus, a bod hanes sut y dewiswyd yr enw ar y côr yn un diddorol iawn, trivia bach diddorol.
Ystyr yr enw fel y byddech yn ddisgwyl efallai yw’r geiriau “pen” a “dyrus” – darn gwyllt o dir neu crib creigiog. Ar y pryd, mae’n debyg nad oedd lle o’r enw Pendyrus fel y cyfryw, er bod adfeilion dwy hen fferm o’r enw Pendyrus Uchaf a Pendyrus Isaf, ger Ferndale a Tylorstown heddiw. Mae’n debyg y cafodd Tylorstown ei enwi ar ôl Alfred Tylor a ddechreuodd glofa yno. Pendyrus oedd enw gwreiddiol y lofa, a newidiodd yn Ferndale 6 a 7 yn ddiweddarach. Y dyddiau hyn mae’n debyg fod y Swyddfa Bost yn derbyn yr enw Pendyrus fel enw Cymraeg ar ardal Tylorstown.
Ond nid dyna ddiwedd hanes enw y côr.

Wedi hel diddordeb gan ddigon o ddynion lleol i ffurfio côr, daethant at ei gilydd ar y 24ain o Fai 1924 yng nghwt undeb y glowyr ger y lofa. Yn ystod y cyfarfod cyntaf hwn, bu tân yng ngorsaf bwer y lofa. Wrth edrych ar y tân, fe sylwodd rhywun ar enw blwch signalau’r rheilffordd gerllaw, gyda’r enw “Pendyris” (wrth gwrs mae ‘i’ ac ‘u’ yn swnio’n debyg yn y de), fe benderfynasant y byddai’r enw hwnnw yn well ar gyfer y côr na “Côr Meibion Tylerstown”, er enghraifft.
Mwy am hyn ar wefan y côr ar http://www.pendyrus.org
Mae hyn i gyd yn dangos mor bwysig yw cadw manion hanes cerddoriaeth a diwylliant Cymraeg a Chymreig, a’r rhan sydd gan y nodiadau ar recordiau o’r cyfnod i’w chwarae yn hyn. Wrth gwrs, mae casglwyr fel fi yn mwynhau hel mân ffeithiau fel hyn!
