Rosser Electronics

Er nad ydym efallai yn or-ymwybodol o’r enw hwn, roedd y cwmni a’r peiriannydd Doug Rosser yn eithaf canolog i ddyddiau cynnar y sîn recordiau Cymraeg o’r ’50au i’r ’70au.

Golygfa o ffatri gwasgu recordiau.

Mae’r stori yn cychwyn yn 1956, pan aeth John Edwards o Bontardawe (Recordiau Teldisc a Qualiton) a Doug Rosser draw i Sweden a phrynu offer ar gyfer sefydlu ffatri gwasgu recordiau yn Mhontardawe. Bu’r cwmni hwnnw yn gyfrifol am wasgu llawer o recordiau Cymraeg y cyfnod.

Llun o Doug Rosser a Dafydd Evans o Rosser Electronics.
Doug Rosser (chwith) a Dafydd Evans

Ganwyd Douglas Rosser yn 1920. Cafodd ei addysg yn Heath Technical College, Abertawe. Yn 19 oed, fe ymunodd â chwmni Rediffusion a gweithio ar systemau ail-ddarlledu dros wifrau. Bu’n weithiwr radio gyda’r awyrlu yn ystod yr ail ryfel byd, cyn mynd i’r Unol Daleithiau a Canada i weithio ym maes darlledu. Wedi’r rhyfel, sefydlodd ei fusnes ei hun i wneud offer recordio a thorri recordiau. Bu’n helpu creu ffatrioedd recordiau mewn sawl gwlad, gan gynnwys gweithio gyda chwmniau mawr fel EMI. Yn 1958, sefydlodd cwmni recordiau Qualiton gyda John Edwards, a bu’n Gyfarwyddwr Technegol cwmni Qualiton tan gadael a ffurfio cwmni Rosser Electronics Ltd gyda Dafydd Evans (a gyfarfodd tra’n gweithio i Qualiton) yn 1967.

Llun o Huw Jones a desg cymysgu sain Rosser yn Stiwdio Sain.
Huw Jones wrth ddesg Rosser Electronics yn Stiwdio Sain – gellir weld enw Rosser Electroneg Cyf dan enw Sain ar gornel uchaf y ddesg.

Cwmni gwneud offer sain a stiwdio oedd Rosser Electronics, gan gynnwys darparu desgiau sain i gwmniau fel stiwdio enwog Rockfield yn Sir Fynwy a stiwdio Mayfield yn Llundain. Bu’r cwmni yn gyfrifol am osod offer darlledu mewn naw stiwdio yng nghanolfan NATO ym Mrwsel, Gwlad Belg (tipyn o gamp i gwmni bach o Gymru hefo dim ond pump o staff ar y pryd!), heb son am ddarparu offer ar gyfer cwmni teledu Harlech (rhagflaenydd HTV), a desg gymysgu stiwdio gyntaf cwmni Sain, Gwernafalau, yn Llandwrog.

Llun o adeilad y BBC, Heol Alexandra, Abertawe.
Adeilad y BBC yn Abertawe

‘Roedd swyddfa Rosser Electronics yn hen adeilad y BBC yn Heol Alexandra, Abertawe. ‘Roedd ganddynt stiwdio fawr yn yr adeilad hwnnw ar gyfer recordio cerddoriaeth gorawl a chlasurol. Cafwyd dwy stiwdio lai yno yn ogystal.

Bu Doug Rosser ei hun yn beiriannydd cymysgu sain ar nifer o recordiau Cymraeg, gan gynnwys ambell i record ar labeli Gwerin, Harp, Brangwyn a Wren.

Bu Rosser Electronics yn gyfrifol am gyhoeddi rhai recordiau Cymraeg a Chymreig ar eu label eu hunain, gan gynnwys recordiau gan Gôr Plant Cattwg, y Bridgend Police Choir, Côr Meibion Talgarth a’r Cylch, a Chôr Meibion Aberafan. Cafodd rhai o’r recordiau hyn eu hail-gyhoeddi yn ddiweddarach gan gwmni Gwerin yn Llanelli. ‘Does dim dyddiad ar y recordiau hyn, felly dwi ddim yn gwybod yn iawn o ba gyfnod y maent. Mae’r rhan fwyaf o’r recordiau gyda’r rhagddodiad “REL-PR-” (REL=Rosser Electronics Ltd) yn rhifau’r recordiau. Er mai Saesneg yw iaith cloriau’r recordiau fel llawer o recordiau cynnar Cymraeg, ceir caneuon Cymraeg arnynt.

Llun o logo recordiau Brangwyn

Adran arall o Rosser Electronics oedd label Brangwyn o 1977 ymlaen. Cyhoeddwyd o leiaf pum record gan gorau meibion Pontarddulais, Llanelli a Phendyrus, a Huw Tregelles Williams yn chwarae’r organ fawr yn Neuadd Y Brangwyn, Abertawe. Erbyn hyn, ‘roedd cyfeiriad y cyhoeddwr lawr fel yr un cyfeiriad a Recordiau Gwerin Llanelli, fu’n cyhoeddi recordiau Cymraeg o tua 1976 ymlaen.

Ôl-nodyn: Mae’r enw Rosser Electronics Ltd yn dal i fod, wedi’w gofrestru gyda Thy’r Cwmniau yn 2019 gan gwpl o Port Talbot.

2 sylw ar “Rosser Electronics

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni