Cân I Gymru 2021

Daeth cystadleuaeth Cân I Gymru 2021 eleni o Ganolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd. Oherwydd cyfyngiadau y cyfnod clo, ‘doedd yna ddim cynulleidfa fyw, ond cafwyd cynulleidfa rithiol yn y cefndir, drwy gyfrwng galwadau fideo, gyda rhai yn cael eu holi a thynnu eu coes gan y cyflwynwyr Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris. Roedd y gystadleuaeth hefyd ar Facebook Live, ac yn bosibl cyfrannu barn ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gyfrwng yr hashnod #CiG2021. Cafodd y gwylwyr bleidleisio ar y ffôn am eu hoff gân.

Cafwyd 96 cân eu hystyried, gyda’r panel yn dewis wyth i fynd trwodd i’r rownd derfynol. Y panel oedd:

Osian Huw Williams, cynhyrchydd a canwr y band Candelas; Delyth Jenkins, o’r grwp gwerin Calan; Tara Bethan, actores a chantores; a’r canwr Huw Chiswell. Delyth yn dod a’i gwybodaeth a phrofiad o’r byd canu gwerin, Tara a’i phrofiad o’r byd adloniant, ac Osian a Huw fel cyn-enillwyr Cân i Gymru.

Yr wyth cân amrywiol iawn a berfformiwyd oedd:

Teitl Y GânCyfansoddw(y)rPerfformiwr
Y GoleuniMari MathiasMari Mathias
Siarad Yn Fy NghwsgMelda Lois GriffithsLeri Ann
Fel Hyn ‘Ma BywHuw YnyrHuw Ynyr
Y BoblDaniel WilliamsLily Beau
Dwy Lath Ar WahanRoger Llywelyn Henderson a Sian CharltonAngharad Brinn
Yr ArlywyddSteve WilliamsSteve Williams
Hwyliau LlonyddMelda Lois GriffithsMelda Lois Griffiths
Bach O HwneMorgan Elwy WilliamsMorgan Elwy Williams
Rhestr caneuon Cân I Gymru 2021

Gallwch wrando ar y caneuon ar sianel S4C ar YouTube, a bydd y rhaglen ar gael i’w wylio ar S4C Clic am beth amser – https://www.s4c.cymru/clic/programme/817174129

Mae dipyn o wybodaeth am yr awduron a chefndir i’r caneuon ar wefan S4C – http://www.s4c.cymru/cy/adloniant/cn-i-gymru/

Y caneuon ddaeth i’r brig yn y diowedd oedd:

Cyntaf: Bach O Hwne (Tlws, a gwobr o £5,000)

Ail: Fel Hyn Mae Byw (gwobr o £2,000)

Trydydd: Siarad Yn Fy Nghwsg – (gwobr o £1,000)

Llun o Morgan Elwy yn perfformio ar y rhaglen.
Morgan Elwy yn perfformio ar y rhaglen

Morgan Elwy Williams ganodd y gân fuddugol, sef “Bach O Hwne”. Mae Morgan Elwy yn dod o Tan Y Fron, ger pentref Llansannan yn Sir Conwy. Astudiodd ym Manceinion cyn mynd i weithio fel athro Ffiseg rhan amser yn Llundain, lle mae’n byw hefo’i gariad, Mared. Mae’n gyfarwydd i ni eisoes fel aelod o fand Y Trwbz, gyda Jacob Elwy a Mared Williams.

Clawr y sengl "Aur, Du A Gwyn"
Clawr “Aur, Du A Gwyn”

Yr haf dwaethaf, bu’n arbrofi hefo rhiddmau cerddoriaeth reggae, sy’n debyg o arwain at albwm o ganeuon reggae Cymraeg ymhen ychydig wythnosau. Mae eisoes wedi rhyddhau un sengl “Aur Du A Gwyn” eleni ar label Bryn Rock Records, y gellir ei chlywed ar y platfformau ffrydio fel Spotify.

Fe gawsom glywed yn ystod y rhaglen fod Morgan wedi cyfrannu aren i’w chwaer Mali y llynedd – anrheg Nadolig ardderchog i’w chwaer, fel y dywedodd Morgan ar y rhaglen. Felly bydd enill y gystadleuaeth hon yn siwr o ychwanegu at hapusrwydd y teulu.

Cân reggae hapus, ysgafn, fachog yw Bach O Hwne, y byddwch yn siwr o’i chanu am weddill y flwyddyn (chwilen clust i nifer mae’n siwr – dwi’n methu stopio clywed swn hapus, syml y gân!). Fel y byddech yn ei ddisgwyl, ‘roedd llawer o bobl am wybod beth yn union oedd yr ‘hwne’ – yn ôl yr awdur, gall olygu beth bynnag sy’n gwneud chi’n hapus, beth bynnag y mynwch mewn gwirionedd. Dyma ddyfyniad o wefan S4C am gefndir y gân:

“Mae neges y gân yn weddol syml. Mae elfen o gyfeillgarwch yn y geiriau, a phan ddaw’r amser i gymdeithasu eto, fe fyddwn yn gallu rhannu ein cariad a gofalu am ein gilydd unwaith eto. Rydym hefyd yn rhannu’r pethau cyffredinol megis arian a ffonau symudol ac unrhyw beth ble mae ffrindiau yn y cwestiwn, rydym o hyd yn rhoi ‘Bach o Hwne’ pob tro.”

Mae’r gân yn Gân Yr Wythnos ar Radio Cymru yr wythnos hon. Wrth gwrs, bu’n rhaid i Aled Huws ofyn yn ddireudus i’w wrandawyr “A phwy gafodd dipyn bach o hwne dros y penwythnos?” ar ddechrau ei raglen heddiw!

Rhaid dweud fy mod wedi mwynhau y gystadleuaeth yn fawr iawn eleni. ‘Roedd tyna amrywiaeth mawr o ganeuon sy’n dangos cyfoeth a safon y talent cerddorol sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd.

Gallwch ddilyn hanes cystadleuaeth Cân I Gymru ar y Wicipedia Cymraeg ar https://cy.wikipedia.org/wiki/C%C3%A2n_i_Gymru a’r wefan swyddogol ar https://www.s4c.cymru/cy/adloniant/cn-i-gymru/

2 sylw ar “Cân I Gymru 2021

  1. Gefais y belan du eto! A finnan cyfansoddi clasur! “Can at pwy Cymru dio?” Wastad 2022. Yr experts yma dim yn rili yn y record bizz go iawn. Sort of amateur composers sbloets teledu heb unrhyw clem o mynd unman heb cael wall to wall airplay at Radio Cymru. Be honest hogia ma thing ma past sell by date ers 1970 rwbath. Disgriffiad gwych chwarae teg..

    Hoffi

    1. Diolch am ymateb Johnny. Sylw digon teg mae’n bosibl. Mi oeddwn i’n hoffi’r caneuon fwy eleni na rhai blynyddoedd. Mor wahanol fyddai’r gystadleuaeth wedi bod hefo cân gan ti eleni!

      Hoffi

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni