Math o record feinyl, hefo llun wedi’w gwasgu o fewn haenau dan wyneb glir, fel rheol yn rhedeg ar draws y record a than y rhychau.
Hyd y gwn i, ‘does yna fawr ddim o’r rhain wedi’w rhyddhau yn y sîn recordiau Cymraeg – dim ond dwy y gwn i amdanynt – er bod llawer o recordiau feinyl lliw neu feinyl clîr wedi dod i’r fei.
Y cyntaf oedd ‘Dagrau’n Dechrau Disgyn” gan Ray Jones o Aberystwyth, a ryddhawyd ‘nôl yn 1984 ar label Recordiau M.F. dan gynhyrchiad Tidy Tone Music. A chân o’r enw “Ferch O Ferch” ar yr ail ochr.
Eleni ddaeth y nesaf i mi wybod amdani. “Tagu” oedd teitl y record saith modfedd, gan yr International Dole Boi gyda Carla Mair Eccles, ar label R-Bennig, neu o leiaf ar is-label o’r enw SWSH, yn 2021. Dwi ddim yn siwr os yw hon yn record swyddogol neu dim ond “promo copy”.

Oes yna rywun yn gwybod am fwy o llun-ddisgiau Cymraeg?



Erthygl da iawn. Ma is label R-bennig Swsh ond yn rhyddhau gyfres o Picture Discs Cymraeg. Collect them all lol Nid promos di nhw. Swsh 2 yw Waw Ffactor ft Rae Carpenter “Ysgafnach na dwr” (Unissued mix) Allan Ebrill 2021.
Gwych gweld records Ray Jones artist ardderchog. Ma gopi o Swsh 2 yn dy blwch wythnos yma yn ol y dosbarthwr. Tua pump yn y gyfres trwy ystod 2021.
Diolch eto am y trafferthion adolyg petha bach ni yn rhyddhau.
Ffydd
Johnny R
HoffiHoffi