1964-2021

Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd, “ers diwedd y nawdegau mi oedd David wedi bod yn brwydro gyda phroblemau salwch meddwl a oedd yn boenus a hunllefus ar adegau.”
Fel prif leisydd y grwp Datlblygu, bu’n flaenllaw yn y byd canu cyfoes Cymraeg ers ffurfio’r grwp yn 1982. Bu’n gawr o ffigwr, yn dipyn o eicon i’r byd canu poblogaidd Cymraeg am flynyddoedd.
Dave a T. Wyn Davies ffurfiodd y grwp, tra yn ysgol uwchradd Aberteifi, gyda Pat Morgan yn ymuno yn 1984. Gadawodd Wyn Davies yn 1990 a parhaodd David a Pat i berfformio fel deuawd am sbel, cyn i gerddorion eraill ymuno yn ddiweddarach, cyn chwalu yn 1995. Ciliodd rhag perfformio am ychydig flynyddoedd i gael triniaeth am broblemau iechyd meddwl. Er y cafwyd ambell i record arall o bryd i’w gilydd wedi hynny.
Wedi iddynt ddod i sylw John Peel yn yr wythdegau, cafodd y grwp recordio pum sesiwn i’w raglen Radio 1, ddaeth a hwy i sylw gwladol a rhyngwladol. Mae’n debyg fod dylanwad Datblygu wedi gwneud i John Peel ddisgrifio y grwp a’u cerddoriaeth fel rhywbeth oedd yn codi awydd arno i ddysgu Cymraeg.
Rhyddhaodd y grwp bedwar o gasetiau cynnar ar label Casetiau Neon (Malcolm Gwyon, Aberteifi) yn 1983 ac 1984 (“Amheuon Corfforol”, “Trosglwyddo’r Gwirionedd”, “Fi Du” a “Caneuon Serch I Bobl Sorchog”), gan hefyd gyfrannu caneuon i gasgliad “Y Gorffennol I’r Presennol” yn 1984.
Yna, symud i label Anhrefn i ryddhau “Hwgr-Grawth-Og” (1986) a “Wyau” (1988), cyn symud i label Ofn (Gorwel Owen) rhwng 1988 a 1990 i ryddhau “Pyst” a “Pop Peth”.
Yna symud i label Ankst a rhyddhau nifer o recordiau o 1991 ymlaen, gyda’r olaf yn ymddangos yn 2020 yn ystod y cyfnod clo, dan y teitl Cwm Gwagle.
Cafodd rhai o’r recordiau au hail-gyhoeddi gan gwmniau eraill hefyd, fel Hate Records yn yr Eidal. Ymddangosodd caneuon y grwp ar sawl casgliad dros y blynyddoedd.
Gallwch weld rhestr eithaf cyflawn o’r recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau ar wefan Datblygu http://www.datblygu.com/disgyddiaeth/

Yn 2009 fe ryddhaodd ei hunangofiant dan y teitl Atgofion Hen Wanc, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa.
Yn aml yn feirniadol o awdurdod ac yn gwthio’n erbyn hynny, roedd yn awyddus i lusgo’r sin gerddoriaeth Gymraeg i’r oes fodern ac mi fyddai pawb yn barod i gydnabod ei ddylanwad a’i waith a’i gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg ers yr wythdegau.
Bydd colled mawr ar ei ôl.

























Un o nosweithio mwy cofiadwy fe geshi erioed oedd aros mewn gwesty Caerdydd efo Dave the Rave yn ffilmio I Syth 92 S4C gyda Criw Byw. Roedd cyngor doeth Dave I mi wedi gwirioni yn pendant: ‘The Welsh language scene is one of the hardest in the world Johnny, they’ll tear you to shreds with what you do” Ma siwr ma lot o gyfryngis yn naw neidio ar y bandwagon rhaid cofio gafodd y dyn sweet fa cefnogaeth gan Radio Cymru yn enwedig. Naetho ni hitio Bargain Booze Canton “Anything red and cheap will do Johnny” cwot gorau.. er cof arwr y tansin. Mines a Merlot Dave X
HoffiHoffi
Wedi ffeinio hen gaset recordiwyd mewn barti ty Caerdydd 1992
Cnwch !!
https://r-bennig.bandcamp.com/track/david-r-edwards-datblygu-unkown-piano-piece-1992
HoffiHoffi
https://r-bennig.bandcamp.com/album/tanwen-a-datblygu-tribute-lp
HoffiHoffi