Dwi wedi sôn eisoes am y llun-ddisg mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg, sef Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones.
Erbyn hyn, mae dwy arall wedi’w cyhoeddi gan R-Bennig ar eu is-label SWSH.
Y cyntaf ohonynt yw’r ail i’w rhyddhau ar y label SWSH, sef trac na chafodd ei ryddhau o’r blaen – Ysgafnach Na Dwr gan Waw Ffactyr gyda Rachel Carpenter. Cân eithaf swynol yn arddull Waw Ffactyr.
A’r nesaf yw Ai Ai Soul Boi! gan Johnny And The Mom Jeans. Un arall o “aliases” Johnny R dwi’n meddwl. Dwy gân yn arddull cyfarwydd (a gwahanol!) Johnny.
Recordiau feinyl un ochr yw’r rhain, un gân ar y gyntaf a dwy ar yr ail. Dim print ar y recordiau, dim ond y llun mewn feinyl clir, a label syml ar y clawr clir plastig.
Mae’n rhaid bod y label hon yn un o rai mwyaf gweithgar Cymru, gyda nifer uchel iawn o bethau wedi eu rhyddhau yn 2021.
Pan fyddant yn barod, gallwch wrando arnynt a’u prynu ar eu tudalen ar Bandcamp: https://r-bennig.bandcamp.com/



Diolch am y plyg! Ma siwr rwbath Arall wirion yn cyrraedd cyn hir dal lot o hwyl neud records a petha ma pris rhai hen ar Discogs yn mind blowing weithia felly cadwch y gyfres Swsh a gwerthu nhw fel job lot am ffortiwn i dy teulu cael holiday nice tua 2032!!!
HoffiHoffi