Ciwdod

Cangen Gymraeg o Community Music Wales/Cerdd Gymunedol Cymru yw Ciwdod. Fe’i sefydlwyd yn 2004 er mwyn cefnogi, hyfforddi a recordio artistiaid Cymraeg eu hiaith.

Cyn hynny, ‘nol yn 1989, daeth criw o gerddorion o Gaerdydd i gyfarfod cyhoeddus, a sefydlwyd Cardiff Community Music. Cafodd ei gofrestru fel elusen yn 1991, a newid ei enw i Community Music Wales (Cerdd Gymunedol Cymru) yn 1992. Sefydlwyd Complete Control Music yn 2000 i roi cyfle i gerddorion o’r cymunedau Cymreig hybu a datblygu eu gwaith. Yn 2002 fe gychwynwyd label recordio gymunedol Saesneg, Complete Control Music, oedd hefyd yn helpu trefnu mannau perfformio ar gyfer y cerddorion.

Elusen yw Community Music Wales, a gafodd arian cyhoeddus dros y blynyddoedd i’w alluogi i wneud y gwaith a chyflogi swyddogion. Bu ganddynt swyddfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru dros y blynyddoedd, gyda’r brif swyddfa yn y Tyllgoed (Fairwater), Caerdydd.

Yn 2004 penderfynwyd sefydlu label Ciwdod i hybu, hyfforddi a rhyddhau cerddoriaeth gan artistiaid Cymraeg eu hiaith. Cymaint fu’r llwyddiant, wedi ond blwyddyn fe ddominyddwyd 11 or 12 adran o wobrau pop a roc Radio Cymru gan artistiaid fu’n ymwneud â Ciwdod!

Ystyr y gair Ciwdod yw “llwyth”, “cenedl” neu “torf”, o’r Gymraeg canol “kiwdawt”. Grwp o bobl yn cydweithio, dewis gofalus ac addas o enw i’r label.

Rhwng 2005 a 2011, rhyddhawyd 16 o gryno-ddisgiau a recordiau – senglau ac EPs – gan nifer o artistiaid Cymraeg newydd, gan orffen hefo CD 16 trac hefo un gan yr un gan o bob un o’r recordiau/cds, dan y teitl “Rwy’n Caru Ciwdod: Senglau 2004-2010”, sydd yn dal ar gael ar blatfformau digidol fel Spotify.

Wrth edrych yn ôl, mae’n debyg na ryddhawyd rhif CIW 005 am rhyw reswm, ond hefyd ar y casgliad Caru Ciwdod ceir can gan y Zimmermans hefo’r teitl “XXY” na ymddangosodd ar label Ciwdod hyd y gwn i.

Rhyddhawyd y rhan fwyaf o’r cryno-ddisgiau mewn cloriau cardfwrdd brown hefo sticeri teitl arnynt, fel y gwelwch o’r lluniau ar y dudalen. Roedd hyn yn rhoi rhyw uniaeth a thebygrwydd i’r gyfres gyfa.

Dyma restr o’r pethau ryddhawyd ar label Ciwdod dros y blynyddoedd:

CIW 001 Drymbago-Anian/Llawer Gwaith (2005) CD
CIW 002 Poppies-Dau Bys/Cam/Sex Sells (2005) CD
CIW 003 Cofi Bach A Tew Shady-Bach A Tew (2005) EP,12″
Caneuon: Gad Fi Fod/Isho Bod Yn Rhywun/Annoeth/Ffraeo
CIW 004 Bob-Defaid/Gwobr/Celwydd Golau Dydd (2005) CD
CIW 005 ?
CIW 006 Radio Luxembourg-Pwer Y Fflwer/Lisa, Magic a Porva (2005) CD
CIW 007 Wyrligigs-Rocyrs Cymraeg/Gwrthgymdeithasol/Dave Y Jynci (2006) CD
CIW 008 Plant Duw-Talach Na Iesu/Nerth Dy Draed (2006) CD
CIW 009 Clinigol-Eiliad/Am Wastraff/Golau (2006) CD
CIW 010 Threatmantics-Don’t Care/Stoogie/Esgysion (2007) CD
CIW 011 Derwyddon Dr Gonzo-K.O./Madrach (2007) CD
CIW 012 Plyci-Blodau/Adar/Slywen (2007) CD
CIW 013 Dybl-L-Gesha Pwy Sy’ Nôl/Ochr Tywyll/Gesha Pwy Sy’ Nôl (A Capella) (2007) sengl 12″
CIW 014 Stilletoes-Sownd/Y Gwir (2008) sengl 7″ lliw pinc
CIW 015 Yr Ods-Defnyddio/Chwyldrofeistr (2008) CD
CIW 016 Creision Hud-Ffyrdd Gwyrdd/Dianc (2011) CD
CIW 017 Amrywiol-Rwy’n Caru Ciwdod-Senglau 2004-2010 (2010)

Un sylw ar “Ciwdod

  1. Trac Ciwdod Pump yd record tegan chwareuwr CD’s Hefo Ciw 5 arna fo. . Joc bach rhwng Esyllt Williams (oedd yn rhedag Ciwdod) a criw Radio Luxembourg .

    Hoffi

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni