Record fach ddioddorol wedi ei ychwanegu i’r casgliad o recordiau Cymraeg yr wythnos hon.
0 1957 y daw “Welsh Dances From ‘Come And Dance’ by Alison D. Howie”. Saith dawns werin gan y Folk Dance Orchestra dan arweiniaeth Philip Green. Fe gyhoeddwyd y record ar label His Master’s Voice (HMV) gyda’r rhif 7EG 8853. Trefniant gan J. Megan Williams oedd ar y pryd yn Drefnydd Cerddoriaeth Sirol ar gyfer Sir Ddinbych.
Llyfr dan y teitl “Come And Dance” gan Gymdeithas Ymarfor Corff Prydain a Gogledd Iwerddon oedd tu ol i’r record hon.
Dyma restr o’r dawnsfeydd:
1.Robin Ddiog
2.Cân Doli
3.Migildi Magildi
4.Croen Y Ddafad Felen
5.Wrth Fynd Efo Deio I Dywyn
6.Dacw Fuwch
7.Pan Corlan Yr Wyn




