Recordiau Fflecsi

Recordiau 7 modfedd gan amlaf, wedi’w wneud o daflen denau o feinyl neu rhyw fath o blastig. Dim llawer tewach na darn o bapur.

Fe ddefnyddiwyd y recordiau fflecsi hyn i ddarparu cerddoriaeth neu llafar gyda rhyw lyfr neu gylchgrawn, fel record ar glawr cylchgrawn gerddorol.

“Fflecsi” yw’r term a ddefnyddir yn y Gymraeg, hyd y gwn i, ond efallai y gellid eu galw’n record hyblyg neu rhywbeth felly?

Mae yn ychydig o recordiau ‘r math yma wedi eu rhyddhau gan gwmniau recordiau Cymraeg a chylchgronau Cymraeg dros y blynyddoedd. Dyma rai ohonynt a lluniau ohonynt lle gallaf:

Recordiau R-Bennig RBE001 A5-Fflecsi (1990)
R-BEN 006 Johnny R-Dyddiadur (1991)
R-BEN 033 Vaffan Coulo-Jobs 4 The Boys (gyda’r cylchgrawn Sothach rhif 71, Mehefin 1995)
Waw Ffactyr-Libido/Cyfweliad Heno (1994)
Recordiau Priod REP 003 Treiglad Pherffaith-Rhagrith Pop Rhagfyr (hefo’r cylchgrawn Sgrech, Tachwedd 1984)
RYAN03 Terry Waite ar Asid/Ffa Coffi – Chicken Jane/Gwn (1989)

Un sylw ar “Recordiau Fflecsi

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni