Dic Penderyn

Record brin iawn o 1978 wedi’w hychwanegu i’r casgliad yn ddiweddar (diolch yn fawr i Tomos Gwyn)..

Rhyddhawyd y record sengl “Dic Penderyn” gan Theatr Yr Ymylon yn 1978, i gyd-fynd â’r opera roc Dic Penderyn flwyddyn yr Eisteddfod yng Nghaerdydd.

Ceir dwy gân ar y record sengl hon, sef “Bach Bach” gan Meic Stevens, can fywiog, fachog i gyfeiliant drymiau a bâs, a chan mwy acwstic ei naws, “Cân Nana” gan Mair Robbins.

Cefn clawr y record.

Opera roc am Dic Penderyn, sef Richard Lewis o fwthyn Penderyn yn Merthyr Tydfil, oedd hon. Crogwyd Dic Penderyn am 8 y bore y 13eg o Awst 1831, yn 23 oed, wedi digwyddiad ar y 3ydd o Fehefin 1831 lle trywanwyd milwr o’r enw Donald Black yn ei goes wedi “trybini ym Merthyr Tydfil a barodd i’r bobol godi yn erbyn y Meistri Haearn a oedd yn gyfrifol am eu dioddefaint. I ddial ar y bobol, gorchmynnodd San Steffan ddienyddio gwr ifanc fel esiampl i ddangos na ellid herio y Drefn. Crogwyd ef, er yn ddieuog o’r drosedd, o flaen pyrth Castell Caerdydd.” (o nodiadau ar glawr y record).

Hyn i gyd er ymdrech fawr leol i berswadio’r awdurdodau nad oedd yn euog. Mae’n debyg fod dyn o’r enw Ianto Parker wedi cyfaddef yn 1874 ar ei wely angau yn yr Unol Daleithiau mai ef drywanodd y milwr mewn gwirionedd, a ffoi i’r Unol Daleithiau cyn i’r awdurdodau ym Mhrydain ei ddal.

Bu i’r digwyddiad achosi drwg-deimladau mawr rhwng gweithwyr a chyflogwyr a chryfhau undebau llafur y cyfnod.

Cewch fwy o hanes Dic Penderyn ar Wikipedia:https://en.wikipedia.org/wiki/Dic_Penderyn (Saesneg) ac erthygl llai ar https://cy.wikipedia.org/wiki/Dic_Penderyn (Cymraeg)

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni