
Siawns ein bod i gyd yn gwybod am y tenor enwog, David Lloyd. Neu David George Lloyd a rhoi ei enw llawn iddo.
‘Roedd yn un o’r tenoriaid cyntaf o Gymru i geisio cynulleidfa tu allan i Gymru, yn y byd opera, oratorio a recordio. Ond yng Nghymru, ‘roedd yn enwog hefyd am ganu emynau a chaneuon gwerin.
Fe’i anwyd yn Nhrelogan, Sir Y Fflint, ar y 6ed o Ebrill 1912. Fe farwodd ei fam Elizabeth tra’r oedd David yn ei arddegau. Bu farw ei dad Pryce 2 flynedd yn ddiweddarach. Yn un o saith o blant, fe adawodd David yr ysgol yn 14 oed gyda’r bwriad o fod yn brentys saer.
Bu’n canu dipyn mewn eisteddfodau lleol, ac yna ennill ysgoloriaeth i ysgol gerdd Y Guildhall gan ddechrau yno yn 1933 wedi i John Williams o Fangor ei annog i ddilyn gyrfa gerddorol.
Wedi ennill dipyn o gydnabyddiaeth yno, gadawodd yn 1938 a dechrau denu sylw yn y byd opera gyda’i berfformiadau o waith Verdi a Mozart ym Mhrydain a thramor.
Gyda dyfodiad yr ail ryfel byd yn 1939, bu’n rhaid iddo stopio perfformio dramor. Bu’n gwasanaethu gyda’r Gwarchodlu Cymreig drwy’r rhyfel, a methu a pherfformio yn y Gymraeg oherwydd rheolau “Saesneg Yn Unig” y lluoedd arfog ar y pryd. Ond fe allodd recordio dipyn yn y Saesneg rhwng 1940 ac 1947, yn stiwdios EMI gan fwyaf, a mae sawl record 78cyf a ryddhawyd ar labeli Columbia a Decca i’w cael.
Mae’n debyg mai’r traciau Cymraeg cynharaf wedi’w recordio sy’n goroesi yn dyddio o 1947, a recordiodd i’r BBC yng Nghaerdydd. Y ddwy gân oedd “Bugail Aberdyfi” a “Wyt Ti’n Cofio’r Lloer Yn Codi”, gyda Mary Kendall ar y piano.
Yna, rhyddhaodd recordiau 78cyf yn y Gymraeg i Decca yn 1948/9 a dwi’n falch o allu dweud fod gen i gopiau o rai o’r rhain.
Yn anffodus daeth diwedd dros dro ar ei yrfa fel canwr yn 1954 pan fu iddo ddioddef damwain ddifrifol wrth recordio rhaglen i’r BBC ger y Rhyl, a thorri ei gefn. Am tua chwe mlynedd wedi hynny ni allai berfformio.
Yn 1960, fe ryddhaodd ychydig o recordiau i Qualiton gyntaf, ac yna i Delyse yn 1962. Gallwch edrych am fanylion ei recordiau yn Y Ddisgyddiaeth.
Ni briododd David Lloyd erioed – ‘doedd o ddim yn credu bod bywyd teithiol y perfformiwr yn addas i ddyn priod.
Bu farw David Lloyd ar y 27ain o fis Mawrth 1969, wedi damwain arall adref. Fe’i gladdwyd ym mynwent Picton ger Gwespyr, sir y Fflint. Ac yntau ond yn ei 50au, collodd Cymru un o’i thenoriaid enwocaf erioed.

Yn ffodus, mae llawer o’i waith ar gof a chadw ar recordiau. Mae cwmni Sain, er enghraifft, wedi rhyddhau cryno-ddisgiau o’i waith, yn gyntaf fel tair CD unigol rhwng 1994 a 2001, ac yna yn 2009 fel casgliad cyflawn o’r recordiadau yn y ddwy iaith o 1940 tan 1962 (SCD 2601, “David Lloyd – Y Llais Arian” gyda 56 o ganeuon. Cyn hynny, bu i gwmni Cambrian gyhoeddi sawl caset ac LP o’i waith ddiwedd y 60au ac yn ystod y 70au, a record hir ar Qualiton (Decca) yn 1973. Ceir ambell i gasgliad Saesneg ar label Columbia fel EPs ac LPs hefyd.









