Y Troubadours

Record Y Troubadours.

Fe brynais y record hon gan werthwr recordiau yn Illinois, yr Unol Daleithiau. Er archebu ganol mis Tachwedd, newydd gyrraedd mae hi heddiw.

Un o recordiau sengl cynnar Qualiton yw hi – QSP.5008 – o’r chwedegau cynnar. ‘Does dim dyddiad arni, na ‘matrix/runout code’ i’w weld fyddai wedi helpu fi i ddyddio’r record efallai.

Dwy gân sydd ar y record, llai na 2 funud yr un. Unawdydd benywaidd hefo lleisiau dynion, parti neu gôr, yn gefndir i gyfeiliant piano. Dim sôn am enwau aelodau’r grwp, dim ond yr arweinydd, Tom Hughes.

Ar ochr 1, ceir y gân “Y Seren Fach”, cyfieithiad Cymraeg Lynn Roberts o’r gân Saesneg “Catch A Falling Star”, fu’n rhif un olaf i Perry Como yn America yn 1957. Mae’n debyg iddi gyrraedd rhif 9 ym Mhrydain. Cyfansoddwyr y gân Saesneg oedd Paul Vance a Lee Pockriss.

Ar yr ail ochr, fe glywn y gân “Hed Wennol Fach”, sef cyfieithiad Cymraeg Lynn Roberts o’r gân “Sing Little Birdie” a gyfansoddwyd gan Syd Cordell a Stan Butcher a ddaeth yn ail i Brydain yn nghystadleuaeth Eurovision yn 1959, gyda’r ddeuawd gwr a gwraig Pearl Carr a Teddy Johnson yn canu. Cwta munud a chwarter yw’r fersiwn Gymraeg!

Bardd telynegol yw troubadour yn wreiddiol. Cyfansoddwyr a pherfformwyr fyddai’n aml yn crwydro o ardal i ardal i chwarae hen farddoniaeth delynegol Occitan a gychwynodd tua diwedd yr unfed ganrif ar ddeg yn Occitania. Ardal o dde Ewrop yn ymestyn ar draws rhannau o Sbaen, Ffrainc a darn bach o’r Eidal.

Ysgwn i os oes rhywun a mwy o wybodaeth am y record a’r grwp? Dwi mor falch o daro ar draws copi o record mor brin wrth gwrs, ond tan rwan wedi methu ffeindio dim mwy o wybodaeth i’w roi ar gof a chadw.

2 sylw ar “Y Troubadours

  1. Trwbadors y Tymbl oedd y grwp – gyda Jac a Wil yn aelodau. Roedd fy nhad yng nghyfraith yn aelod – Walford Richards.

    Hoffi

    1. Diolch Gareth. Da cael ychydig o wybodaeth am y grwp. Byddai’n braf cael mwy o’r hanes os oes gennych rhywfaint mwy o wybodaeth am y grwp neu’r record. Dilwyn

      Hoffi

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni