Risin’

O ffatri ffrwyth dychymyg Johnny R a Recordiau R-Bennig y daw y casgliad hwn o un ar bymtheg o oreuon y label o 2020. “Risin'” yw y teitl, a mae’n cynnwys amrywiaeth eang o ganeuon ac arddulliau rhwng yr holl draciau ar y cryno-ddisg.

Mae’r cd yn cynnwys traciau gan unigolion a grwpiau, rhai hefo enwau cyfarwydd, rhai llai cyfarwydd. Rhai yn hunan-arall i Johnny R ei hun, cymeriad â chyfoeth dychymyg unigryw ac enfawr.

Ceir traciau gan R-Bennig, Gwenamin, Sinema Ethania, Titchypeth, Y Ddolen a Black Moriah. Mae yna draciau sy’n mynd i gyfeiriad hip-hop, dawns a tecno yn ogystal a dipyn o gerddoriaeth arbrofol nodweddiadol y label. Ceir y cysylltiad â Israel (Bar Kalimi) yn y gân gyntaf, a symud mor bell a Reel Gwerin yn yn un o’r caneuon eraill.

Dwi wedi son eisoes ar y blog yma mor ddiddorol a gwahanol y mae cynnyrch label R-Bennig yn gallu bod. ‘Does ‘na ddim llawer o labeli Cymraeg yn cynhyrchu deunydd tebyg i be gawn ni gan R-Bennig. Os am rhywbeth tra gwahanol i’r arfer, ewch i r-bennig.bandcamp.com i weld beth sydd gan y cwmni i’w gynnig. Wrth sgwennu hyn ganol mis Chwefror, mi oedd 11 o bethau wedi eu rhyddhau yn barod eleni. Gallwch wrando ar draciau cyn prynu – deunydd ar gael yn ddigidol a rhai ar gaset neu CD. Bob hyn a hyn, mae cynnig arbennig lle gallwch brynu casgliad cyfan ac arbed arian wrth wneud.

Un gwyn fach sydd gen i yw nad yw stwff y label ar gael yn hir iawn, eisoes mae stwff 2020 wedi mynd o’r wefan, er efallai mai’r rheswm am hyn yw i ganiatau i’r cwmni ryddhau casgliadau fel “Risin'”

Eisoes eleni, cafwyd recordiau gan R-bennig ei hun, a stwff gan International Dole Boy, DJ Clwyd, Y Ddolen ac Unkown Acetate. Yn ogystal, cafwyd un gan y canwr Ritienne o ynys Malta. Mae yna gysylltiadau rhyngwladol rhwng bod Johnny wedi gweithio fel DJ mewn sawl gwlad, a bod dilyniant gan y label ar draws Ewrop ac ymhellach – dwi’n gwybod achos bod rhai yn cysylltu hefo fi drwy’r Blog Recordiau Cymraeg o bryd i’w gilydd!

Rhaid dweud nad ydw i yn ffan mawr o rap / hip-hop fel rheol, ond dwi yn gallu gwrando ar, a weithiau mwynhau, stwff R-Bennig, gan ei fod yn dra wahanol i’r rhan fwyaf o recordiau Cymraeg. Mi ydw i wedi tra mwynhau gwrando ar rai o’r traciau ar “Risin'”. Ond yn sicr, hyd yn oed os nad ydych yn ffan mawr o’r math o stwff y mae’r label yn ei ryddhau, dwi’n siwr y bydd pawb yn gallu gwerthfawrogi y cyfoeth dychymyg sydd wedi creu a rhyddhau traciau tebyg i’r stwff sydd ar yr albwm hwn.

Ewch draw i Bandcamp felly, lle gallwch wrando ar y gryno ddisg Risin’ cyn penderfynu prynu. Dim ond £5 yw cost y casgliad fel ffeiliau digidol.

Un sylw ar “Risin’

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni