Jac a Wil

Jac a Wil Davies oedd deuawd fwyaf poblogaidd Cymru drwy ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Bu eu henwau yn gyfystr a’r deuawdau traddodiadol yn y Gymraeg.

Dau frawd oedd Jac a Wil. Yn rhan o deulu o naw o blant, chwech o frodyr a thair chwaer – Evelyn, Mary, Pat, Allenby, Tom, Wil, Corris, Cadfan a Jac. Plant i Mark a Catherine Davies, fferm Waunwen ger pentref Cefneithin, Cross Hands, fferm fechan tua ugain erw oedd Waunwen. Glöwr oedd tad y ddau.

Ganwyd Wil yn 1915 a John Wesley Davies (Jac) yn 1917. Priododd Wil â Lena Hughes, a priododd Jac ag Ethel Morgan.

Byddai’r teulu’n mynd i gapel Tabernacl yng Nghefneithin. Yno y byddai’r teulu yn addoli a chanu ers yn ifanc, ac yn deulu cerddorol eu hunain. Bu iddynt ffurfio côr i’r teulu berfformio mewn digwyddiadau lleol, gyda’r enw Côr Yr Aelwyd. Erbyn eu harddegau, roedd Wil a Jac yn canu gyda Chôr Meibion Y Tymbl. Cyfeilydd y côr oedd Tom Hughes, a fyddai’n gymaint o ddylanwad ar yrfa gerddorol Jac a Wil.

Wedi perfformiadau y côr, yn aml y bu galw ar i Jac a Wil berfformio un o’u caneuon fel deuawd, arwydd o bethau i ddod.

Fel nifer o ddynion yr ardal, aeth y brodyr i weithio i’r pyllau glo pan yn ddigon hen, fel eu tad. I waith glo Blaenhirwaun yr aethant. Bu bron i Wil gael ei ladd mewn damwain yn y lofa unwaith, lle y collodd ei gyfaill Garfield i’r nwy – mae’n debyg fod hyn a digwyddiadau eraill wedi cael dipyn o effaith ar Wil dros y blynyddoedd.

‘Roedd hi’n gyffredin i sawl glôwr ddioddef o glefydau llwch y glo adeg hynny wedi gweithio am flynyddoedd lawer dan ddaear. Ceisiodd Jac gael gadael y lofa adeg y rhyfel, gan nad oedd yn hapus yn gweithio yno, a chael caniatad yn y pen draw wedi peth ffwdan gyda’r awdurdodau (‘roedd gweithio mewn pyllau glo adeg y rhyfel yn cael ei ystyried yn waith pwysig iawn). Yn 1943, ymunodd a’r Royal Army Service Corps. Cafodd deithio i sawl gwlad tra’r oedd Wil yn dal i weithio dan ddaear – byddai ei hoffter o deithio yn nodwedd o Jac am weddill ei fywyd. Bu galw ar Jac i ganu i’w gyd-filwyr sawl gwaith.

Tumble Troubadours
Tumble Trobadours

Wedi’r rhyfel, wrth i’r milwyr ddychwelyd adref ac i fywyd cymdeithasol ail ddechrau, roedd y capeli, y canu a’r adloniant yn dipyn o ffocws bywyd y pentrefi. Cafodd Jac waith fel swyddog stordy i’r Bwrdd Glo Cenedlaethol yn Rhydaman, lle y bu’n gweithio tan ei ymddeoliad, tra’r oedd Wil yn dal i weithio yn y pwll. Ond canu fyddai eu byd. Bu Jac a Wil yn aelodau grwpiau a chorau fel y Tumble Trobadours yn 1947 a Chôr Meibion Mynydd Mawr, yn ogystal a pherfformio fel deuawd.

Yn 1957, aeth y ddau frawd a grwp bach o ffrindiau i’r Cennen Arms, Trapp, ger Llandeilo. Tra yno, cafwyd gwahoddiad i berfformio, a phwy oedd yn digwydd bod yno i’w clywed ond y bargyfreithiwr Alun Talfan Davies (a gychwynodd Llyfrau’r Dryw gyda’i frawd yn 1940). Cafwyd gwahoddiad i berfformio eto, y tro hwn o flaen Alun Talfan Davies a’i frawd Aneurin. Yn dilyn hynny, cafwyd wahoddiad i berfformio yn nathliadau Gwyl Dewi Cymry Llundain yn Neuadd Albert, Llundain, o flaen cynulleidfa o filoedd o bobl. Bu bron i swildod naturiol Wil fod yn drech nag ymddangos (fo oedd yr un swil, tra’r oedd Jac yn llawer mwy hyderus ar lwyfan), ond gallasent edrych yn ôl ar y perfformiad hwn fel eu ymddangosiad swyddogol cyntaf fel y ddeuawd Jac a Wil. Wedi hyn, bu teithio led-led Cymru yn beth cyffredin ar y naw iddynt am flynyddoedd lawer.

Cyn hir, daeth gwahoddiad oddi wrth John Edwards, cwmni Qualiton, i wneud record. Y cyntaf o nifer fawr o recordiau i Qualiton ac yna i Welsh Teldisc.

Recordiau 78cyf ddaeth gyntaf, gyda’r ddwy gân ‘O Dwed Wrth Mam Rwy’n Dyfod’ ac ‘Arfer Mam’ ar y cyntaf un. Y cyntaf o nifer o recordiau 78cyf i’r cwmni. Cafodd y caneuon ar yr hen recordiau hyn eu ail-ryddhau ar feinyl yn ddiweddarach gan Qualiton, Welsh Teldisc a Sain.

Recordiau 78cyf Qualiton
GM 2239 O Dwed Wrth Mam Rwy’n Dyfod/Arfer Mam
GM 2241 Yr Arw Groes/Gweddi Mam
GM 2242 Craig Yr Oesoedd/Duw Cariad Yw
GM 2244 Gawn Ni Gwrdd/Golau Ar Y Lan (Bliss)
GM 2245 Cyfrif Y Bendithion/Ty Fy Nhad
GM 2246 Nac Wyled Teulu Duw/O Iesu Mawr
GM 2247 Ble Mae Fy Machgen Hoff/Cawn Fynd Adref

Dylanwad mawr ar Jac a Wil fel deuawd oedd Tom Hughes. Fel Jac a Wil, bu’n aelod o’r Trwbadwrs, yn arweinydd Côr Y Tymbl, ac yn frawd i wraig Wil, Lena. Tom sy’n cael y clod am “swn” Jac a Wil, gan drefnu caneuon yn arbennig ar gyfer eu lleisiau hwy. Mae’n debyg i’r rhan fwyaf o ganeuon Jac a Wil ddod o lyfr Swn Y Jiwbili a’r llyfr emynau. Mae’n debyg nad oedd Wil yn gallu darllen lawer o gerddoriaeth, felly yn dysgu y caneuon o’i gof.

Un o ganeuon enwocaf Jac a Wil oedd “Pwy Fydd Yma ‘Mhen Can Mlynedd“. Mi fu bron i hon a pheidio a chael ei recordio, gan nad oedd neb yn rhy siwr pwy gyfansoddodd y gân. Ond fe’i recordiwyd a’i rhyddhau, cyn derbyn llythyr (braidd yn flin mae’n debyg) yn egluro mai Llwyd Williams, Capel Ebeneser, Rhydaman a’i chyfansoddodd i ddathlu can-mlwyddiant y capel. Yn ffodus, ni wnaeth hyn atal y record rhag cael ei rhyddhau!

Aethant ymlaen i recordio sawl record i Qualiton a Welsh Teldisc ddiwedd y 50au a thrwy’r 60au. Y mwyafrif yn y Gymraeg, ac ambell i un Saesneg gan bod galw mawr am eu caneuon y tu allan i Gymru hefyd. Digon od, er i’r ddau gwmni ryddhau recordiau hir, ni chafwyd record hir gan Jac a Wil (ar wan i’r casgliadau ryddhaodd Sain yn y 70au)

Qualiton
QSP 5003 Tell Mother I’ll Be There/Mother’s Ways (Yn Saesneg)
WSP 5056 Gawn Ni Gwrdd/Golau Ar Y Lan
WSP 5058 Cyfrif Y Bendithion/Ty Fy Nhad
WSP 5059 O Iesu Mawr/Nac Wyled Teulu Duw
WSP 5060 Ble Mae Fy Machgen Hoff/Cawn Fynd Adref
WSP 5069 Pwyso Ar Ei Fraich/Hapus Awr
WSP 5070 Tirion A Thyner/Dyma Feibl Annwyl Iesu
WSP 5074 O Dwed Wrth Mam/Arfer Mam
WSP 5080 Pwy Fydd Yma ‘Mhen Can Mlynedd/Duw Cariad Yw

Welsh Teldisc (Caneuon Cymraeg er y teitlau Saesneg ar y cloriau)
TEP 821 The Songs Of Jac a Wil (1963)
TEP 824 Jac a Wil Sing (1963)
TEP 827 Jac a Wil Favourites (1964)
TEP 829 The Homely Songs Of Jac a Wil (1964)
TEP 835 Star Songs Of Jac a Wil (1964)
TEP 840 Songs With Sentiment by Jac a Wil (1964)
TEP 844 Jac a Wil Yn Canu Carolau (1964)
TEP 846 Jac a Wil Sing Familiar Songs (1964)
TEP 852 Jac a Wil Special Requests (1965)
TEP 855 Jac a Wil Yn Canu Carolau, Ail Record (1965)
TEP 860 Songs Of The Cross (1966) [Canfed record Welsh Teldisc yn ol y clawr!]
TEP 869 Caneuon Ysgafn (1968)

Teldisc Evangelical
SEP 304 Songs In Brotherly Harmony-Jack And Will Davies (1964)
(4 cân yn Saesneg – Tell Mother I’ll Be There/Nailed To The Cross/The Old Rugged Cross/He Died Of A Broken Heart).

Mae’n debyg y bu i’w recordiau a chasetiau werthu miloedd lawer dros gyfnod o hanner can mlynedd, dros gan mil yn ôl rhai. Wedi i gwmni Sain dderbyn hawlfraint hen recordiau fel Teldisc, fe ryddhawyd tair record hir a chaset o gasgliadau o ganeuon Jac a Wil yn 1976 ac 1978. Ac yna, yn 2005, fe ryddhawyd casgliad Goreuon Jac a Wil ar gryno-ddisg, i sicrhau bod lleisiau y ddeuawd i’w clywed i’r dyfodol.

Sain 1057H/C557G Jac a Wil Cyfrol 1 (1976)
Sain 1067H/C576G Jac a Wil Cyfrol 2-Carolau Nadolig ac Emynau (1976)
Sain 1112H/C712G Jac a Wil Cyfrol 3 (1977)
Sain SCD 2330 Goreuon Jac a Wil (2005)

Byddai’r holl berfformio a theithio yn gryn fyrdwn ar y ddau dros y blynyddoedd, yn enwedig gan eu bod yn gweithio llawn amser ochr yn ochr a’r perfformio. Ni fyddai’r ddau yn dreifio, bu pobol eraill yn eu cludo i’r cyngherddau. Yn aml, mae’n debyg, byddent yn cyrraedd adref yn oriau man y bore, cwpl o oriau a gwsg a syth i’r gwaith. Hefyd, ‘roedd iechyd Will yn enwedig yn dirywio hefo’r clefyd llwch ar ol blynyddoedd o weithio yn y pwll glo a’r profiadau o golli cyd-weithwyr mewn damweiniau ac i afiechyd yn pwyso’n drwm arno.

Daeth y perfformio rheolaidd fel deuawd i ben erbyn tua 1976, er y cafwyd ambell gyngerdd ac ymddangosiad teledu wedi hynny. ‘Roedd yr ymddangosiad olaf ar y teledu mewn Noson Lawen a recordiwyd ar y 7ed o Fedi 1983, a dim ond ambell i gyngerdd achlysurol wedi hynny. Parhaodd Jac i berfformio’n unigol o bryd i’w gilydd.

Collodd Jac ei wraig Ethel ar fore Sadwrn 17eg o Fai 1986.

Bu farw Wil yn 72 oed ar yr 11eg o Fedi 1987 wedi gwaedlif ar yr ymenydd, a chafodd ei gladdu ym mynwent Y Tymbl.

Er yr holl deithio i berfformio dros y blynyddoedd, roedd Jac yn dal yn hoff o deithio a chanu. Bu’n aelod o Gôr Mynydd Mawr, Côr Meibion De Cymru, Cantorion Y Rhyd a’r Parti Bach.

Cafodd Jac ei anrhydeddu gan yr eisteddfod yn 1991, pan y’i urddwyd â’r Wisg Wen. Cymerodd yr enw gorsedd “Jac o Jac a Wil”.

Derbyniodd Jac ddisg aur gan gwmni Sain yn 1999 fel rhan o ddathliadau Sain yn 30 oed y flwyddyn honno. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth gwerthiant eu recordiau ac am eu cyfraniad cerddorol ac adloniadol i Gymru. Hefyd yn 1999 mentrodd ar daith i’r Wladfa, yn ei wythdegau erbyn hynny.

Yn 2007, fe drefnwyd parti 90 oed i Jac yng ngwesty’r Llwyn Iorwg, Caerfyrddin ar nos Iau’r Pasg.

Bu farw Jac Davies ar y 5ed o Chwefror 2008 yn 90 oed.

Gadael sylw

Design a site like this with WordPress.com
Cychwyn arni