
Fel casglwr recordiau Cymraeg, mae’n beth diddorol iawn weithiau cael taro ar draws record nad oeddwn yn gwybod am ei bodolaeth. Yn enwedig pan fo hanes diddorol iawn yn gysylltiedig â’r record. Ac wrth gwrs hefo apêl arbennig i mi gan fod cysylltiad a’i ardal ar ochr teulu fy nhad.
Recordiad o lais y pregethwr dall, y Parch. Evan Edward Rowlands o Ddolgellau a geir ar y record hir hon. Recordiad breifat o’i lais yn pregethu a chanu yn Saesneg a’r Gymraeg yw hon. Un ochr o’r record yn Gymraeg, a’r llall yn y Saesneg. Fe’i rhyddhawyd i gofio amdano wedi ei farwolaeth ar yr ail o Fawrth 1976 yn 75 oed. Mae’n enghraifft dda o recordiad ag apêl bro, lly byddai mwyafrif gwerthiant y record yn lleol i ardal y perfformiwr mae’n siwr.

Cafodd y record ei chyhoeddi ar label Tryfan (TRF 207 oedd y rhif), sef adran recordiau preifat cwmni Recordiau Sain, yn 1976. Aeth elw o werthiant y record i Gymdeithas Y Deillion Gogledd Cymru, achos a oedd yn agos at galon Evan Rowlands gan ei fod wedi bod yn ddall ei hun ers yn ifanc. Mae diolch ar glawr y record i Mr. D. McCaffrey, siop Celfi Diddan, Dolgellau fu’n gwerthu’r record heb elw iddo’i hun – mae sticer fach binc y siop yn dal ar glawr y record 45 mlynedd yn ddiweddarach!
Wedi’w eni ym mythynnod Glan Afan yn Nolgellau yn 1901, fe fu’n byw yn yr ardal y rhan fwyaf o’i oes. Bu’n byw am gyfnod yn Maesgwm, y Ganllwyd, a chafodd addysg yn ysgol y deillion yn Lerpwl ac Edgbaston lle dysgodd i ddarllen Braille yn y ddwy iaith, ac ymlaen i Goleg Bala-Bangor.

Aeth yn bregethwr – ordeinwyd ef i’r Weinidogaeth Annibynnol yn 1927. Bu’n pregethu am 60 mlynedd, er na chafodd erioed ofalaeth eglwys. Mae’n debyg iddo fod yn bregethwr cyfarwydd ar draws ardal eang o Ogledd Cymru. Mae un o’r traciau yn gofnod ohono yn gweinyddu priodas merch ym Margam, wedi iddo weinyddu priodas ei mham hefyd. Bu’n briod a’i wraig gyntaf Nancy (Annie Goodman) am 43 mlynedd, ac yna i Rosalind tan ei farwolaeth yn 1976. Fe’i gladdwyd ym mynwent Dolgellau.
Ceir cerdd Saesneg “In Loving Memory Of Evan” ar gefn y clawr, lle mae pob llinell y gerdd yn cychwyn gyda llythrennau ei enw llawn i gofio amdano – gweler y llun.
Ffaith fach ddiddorol yw’r cysylltiad â darlun Salem, gan Vosper.

‘Roedd mam Evan Rowlands yn un o’r bobl yn y llun Salem, gan Sydney Curnow Vosper o 1908. Llun o du fewn Capel Salem, capel y Bedyddwyr ym Mhentre Gwynfryn yng Ngwynedd. Roedd ei nain yn ofalwr i’r capel.
Mae’n debyg fod Evan Rowlands ei hun i fod yn y llun hefo’i fam (dywed ar y record ei fod yno wrth i’r paentio gael ei wneud, ar ei wyliau o ysgol y deillion ar y pryd), ond gan iddo fethu eistedd yn llonydd ddigon hir i gael paentio ei lun, fe welir ei gefnder Evan Edward Lloyd (yr olaf yn y llun i farw, yn 1963) yn ei le, yn eistedd gyda mam Evan Rowlands, Mrs Mary Rowlands yn y cefndir i’r dde pell o’r prif gymeriad, Siân Owen Ty’n Y Fawnog. Mae’n debyg i bawb yn y llun gael eu talu 6 hen geiniog (2.5p heddiw) yr awr am eistedd ar gyfer y llun! Ffeithiau bach ddiddorol am Salem – wyddoch chi mai dymi yw’r ddynes ganol gyda’r het Gymreig, nid person go iawn, a mai un het Gymreig oedd ar gael i baentio’r llun a’r merched yn gorfod ei rhannu pan yn cael eu paentio.
Dywed Evan Rowlands ar y record ei fod yn cofio Robert Williams, Caer Meddyg, fel blaenor, y dyn a’i ben ar ei ddwylo ar y chwith yn y llun, yr unig un yn y llun mae’n debyg oedd yn aelod o Gapel Salem.
Fe geir mwy o wybodaeth am hyn ar drac cyntaf y record, sef eitem o Rhwng Gwyl A Gwaith y BBC o 1974 am y llun, yr un flwyddyn ag y rhyddhawyd record hir Salem gan Endaf Emlyn.
Diolch yn fawr iawn i Simon Thwaite, Caernarfon (Gwynedd Record Collector ar Facebook) am ddod o hyd i’r record a’i gwerthu i mi.
