Chansons Galloises

Llun o CD "Wales - The Land Of Song/Chansons Galloises"
CD “Wales – The Land Of Song”

Record Gymraeg o Canada sydd gen i dan sylw y tro hwn, gan y gantores glasurol Shannon Mercer sy’n hannu o Quebec ac Ottawa. Cryno-ddisg gyda’r teitl “Wales – The Land Of Song/Chansons gallois.”

Mae hi o dras Cymreig – ymfudodd ei thad a mam i Ganada o dde Cymru yn 1967 gyda thri o blant, a chael dau blentyn arall yn Canada, Shannon yn un ohonynt, yr ieuengaf. Mae’n adrodd stori drist am y teulu lle cafodd ei nain ochr ei thad ei gadael mewn basged ar stepen drws cartref plant yn y Gelligaer ym Morgannwg yn 1913.

Mae’n debyg i’w thad daro ar draws y Gymdeithas Gymraeg yn Ottawa ac yna dechrau canu hefo’r Gwalia Singers yno. Yn bymtheg oed, teithiodd Shannon i’r Eisteddfod Rhyngwladol yn Llangollen, gan ddychwelyd i Ganada hefo cwpan arian a ennillodd yn yr eisteddfod! Mae hi’n egluro bod y diwylliant a’r cysylltiadau Cymreig wedi llywio ei bywyd a rhoi hoffter mawr o ganu iddi drwy ei hoes.

Mae hi’n soprano, ac wedi canu yn y byd opera yng ngogledd America.

Ar y gryno-ddisg hon, a ryddhawyd yn 2009 ar label Analekta o Quebec, Canada, mae Shannon yn perfformio hefo’r Skye Consort, sef grwp clasurol dan arweiniaeth y trefnydd Seán Dagher. Mae’r grwp yn perfformio cerddoriaeth o sawl traddodiad ar draws y byd.

Hefo’r cryno-ddisg hon, mae wedi trio gosod y darnau cerddorol ar ffin ychydig yn symudol rhwng cerddoriaeth clasurol a gwerin, gan ddefnyddio sawl offeryn clasurol gyda’r delyn – telyn o’r Eidal o’r 17eg ganrif, er yn debyg iawn i delyn deires Gymreig. Alawon gwerin traddodiadol o Gymru geir ar y CD, fel Bugeilio’r Gwenith Gwyn a Dafydd Y Garreg Wen, pymtheg o ganeuon i gyd.

Mae’n egluro yn y llyfryn ddaw gyda’r CD ei fod wedi treulio cryn amser yn penderfynu pa offerynau a gosodiadau i’w defnyddio ar gyfer y caneuon unigol. Ceir rhai darnau offerynol a rhai hefo Shannon yn canu yn y Gymraeg. Mae’r CD yn llwyddo’n dda i droedio ffin allai fod braidd yn aneglur rhwng y clasurol a’r dull gwerin.

Gallwch ddarllen mwy am Shannon Mercer ar ei gwefan http://www.shannonmercer.com

Gadael sylw

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni