Dwi’n meddwl bod y record hon yn un o’r recordiau Cymraeg hynaf yn fy nghasgliad – Henwlad Y Menyg Gwynion, gan Mr. Henry Drew, o 1902! Tua 120 oed felly, a’r ansawdd yn dda iawn o ystyried oed y record.
Yn eithaf lwcus, mi mae gen i chwaraeydd recordiau sy’n gallu chwarae’r hen recordiau 78cyf deg modfedd hyn, hefo cysylltiad USB i gyfrifiadur i recordio, a phrosesu hefo meddalwedd fel Audacity i wella’r ansawdd a chreu MP3 i roi’r hen ganeuon hyn ar gof a chadw. Ac mi mae gen i dipyn go lew o hen recordiau 78cyf Cymraeg hyn, er nad yw llawer ohonynt mor hen a hyn.
Ystyr teitl y gân yw’r hen arfer o roi pâr o fenyg gwyn i farnwr mewn llys barn pan nad oedd achosion i’w clywed mewn sesiwn o’r llys. Gan fod hyn yn digwydd yn eithaf aml yng Nghymru yn hanesyddol, fe gyfeirwyd at Gymru fel tir y menyg gwynion. Mae’n cyfieithu i’r Saesneg fel “Old Land Of Peace And Concord”.

Cyfaddefiad: ‘does gen i ddim syniad pwy oedd y baswr Mr. Henry Drew, ac mi fyddwn i wrth fy modd yn derbyn mwy o wybodaeth amdano. Fum i ddim yn arbennig o lwcus wrth chwilio ar y we am wybodaeth, felly os all unrhyw un helpu…
Un gân a geir ar y record (a gyfansoddwyd gan D. Emlyn Evans), eithaf cyffredin am y cyfnod.
Mi wnaeth Henry Drew ryddhau mwy nag un record Gymraeg – dyma lun o gatalog o recordiau 78cyf o tua 1903 neu 1904 gan Gramophone And Typewriter Ltd. Ddim yn gwybod os oedd cysylltiad, mae nifer o’r caneuon hefyd ar gael ar label Columbia.



DIWEDDARIAD: Diolch i John Ellis am ychydig o wybodaeth am Mr. Henry Drew i mi allu diweddaru’r erthygl hon. ‘Roedd gan deulu Henry Drew fusnes lledr ym Mhorthaethwy, ond gan fod Henry’n berfformiwr naturiol, dewisodd fynd i fyd adloniant i berfformio mewn theatrau yng ngogledd Lloegr ac yn Llundain. Gan fod ganddo lais canwr bas da, ac aeth ati i recordio dros chwe deg o ganeuon ar sylindrau cwyr a disgiau rhwng 1902 ac 1905, gan gynnwys y record gyntaf o ganu penillion Cymraeg yn 1902.
