Wedi bod yn pori drwy fy nghasgliad o hen recordiau 78cyf Cymraeg dros y flwyddyn newydd, fe ddeuais ar draws un ar label Americanaidd gan Eleanor Evans. Gan nad oeddwn i wedi clywed amdani o’r blaen, dyma benderfynu mynd i drio ffeindio allan mwy amdani.

Ganwyd Eleanor Evans yn Henllan, Sir Ddinbych, yn 1893 yn ferch i’r milfeddyg ceffylau John Evans a’i wraig Ellen Evans. Roedd ganddi bedwar brawd a dwy chwaer, yr hynaf – Laura Evans-Williams – yn gantores opera o fri.
Priododd Eleanor â’r bâs-bariton Darrell Fancourt o Lundain ym mis Ionawr 1917.
Perfformiodd Eleanor yn operau Gilbert and Sullivan gyda’r D’Oyly Carte Opera Company (a sefydlwyd gan Richard D’Oyly Carte, a lle’r oedd ei gwr yn bennaeth) ym Mhrydain am fwy nag ugain mlynedd, gan gael y llysenw “Snookie”, gadael y cwmni yn 1937, a dychwelyd rhwng 1941 a 1945. Cafodd ei apwyntio’n gyfarwyddwr llwyfan a chyfarwyddwr cynhyrchiadau rhwng 1949 ac 1953.
Ymddeolodd ei gwr a hi yn 1953, a bu farw ef yn 1953. Bu farw Eleanor ym Mae Colwyn yn 1969, yn 76 oed. Bu Eleanor yn actores, cantores soprano ac yn gyfarwyddwr llwyfan a chynhyrchiadau yn ystod ei gyrfa.
Rhyddhaodd un record Gymraeg yn unig y gwn i amdani, yn 1935. Record 78cyf, ar label Americanaidd y Concert Music Shop Inc, 1051 Lexington Avenue, Efrog Newydd. Cafwyd tair cân ar y record, sef “Y Gwcw Ar Y Fedwen” ar un ochr (a gamsillefir fel Y Gwen Ar Y Fedwen ar label y record mewn un fersiwn dwi wedi ei gweld, a fel “Y Gwew Ar Y Fedwen” ar fersiwn arall), a “Clychau Aberdyfi” / “Y Bore Glas” ar yr ochr arall.


