Newydd brynu copi o’r CD “Gwena” gan yr RT Dixieband (diolch Awen Menai).

Dwi ddim yn fan mawr o jazz fel rheol, ond gan fod hon yn cd gan fand jazz Cymreig (Rhys Taylor a’i fand – tarddiad yr ‘RT’ yn yr enw) a ‘mod i wedi sylwi ar deitlau alawon Cymreig fel Moliannwn a Lawr Ar Lan Y Môr, mi benderfynais trio. A dwi mor falch fy mod i wedi prynu hon – rhywbeth ychydig yn wahanol i wrando arni.
Yn ôl y nodiadau ar glawr y cd, fe ffurfiwyd yr RT Dixieband yn 2013 gan Rhys Taylor, clarinetydd a lleisydd y band. Yn ifanc iawn roedd wedi clywed jazz byw yn Aberystwyth, lle’r oedd ei dad yn chwarae’r banjo, ac yn awyddus i gychwyn band ei hun, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg.
Wedi’r cyfnodau clo, daeth cyfle yn 2021 i recordio albwm, a dyma hi. 10 o draciau yn cynnwys caneuon cyfarwydd fel Moliannwn, Lawr Ar Lan Y Môr, Ty Ar Y Mynydd a Rownd Yr Horn. Mae Rhys yn canu yn Gymraeg ar nifer o’r traciau.
Mae’r albwm hefyd ar y cyfryngau ffrydio fel Spotify lle gallwch wrando ar y gerddoriaeth cyn mynd i brynu’r cd (Sain SCD 2833) os ydych wedi mwynhau’r CD gymaint a wnes i!

