Mr Edward Davies

Apêl am ychydig o wybodaeth y tro hwn os yn bosibl! Wedi derbyn hen record 78cyf hefo dwy gân gan Mr Edward Davies, a dim syniad pwy ydi o! Mae’n debyg fod y record wedi ei chyhoeddi gan Brtish Zonophone yn neu tua 1913, sy’n golygu bod y record tua canrif oed eleni a mewnParhau i ddarllen “Mr Edward Davies”

Welsh Dances Presented By Alexander Hamilton

Yr ychwanegiad diweddaraf i fy nghasgliad o recordiau Cymraeg yw’r record hir hon o America. Bu Alexander Hamilton yn dysgu dawnsfeydd Cymreig. Fe ryddhaodd record hir yn 1978 gyda’r teitl “Welsh Dances”, gydag 13 o ganeuon dawnsio gwerin Cymreig. Fe glywn lais Alexander Hamilton yn rhoi cyflwyniad byr i bob un o’r caneuon. Cynhyrchwyd yParhau i ddarllen “Welsh Dances Presented By Alexander Hamilton”

Taffy Owen

Ychydig o apêl am wybodaeth y tro hwn! Ceisio dod o hyd i fwy o wybodaeth am y record hon a’r artistiaid arni. Gwr o’r enw Taffy Owen yn canu, gyda chyfeiliant gan Linda Austin Brockbank. ‘Does dim gwybodaeth ar glawr y record ar wahan i’r llun ohonynt. Roedd darn o bapur wedi’i sgwennu tuParhau i ddarllen “Taffy Owen”

Edward H Mewn Bocs

Fel rhywun dyfodd fyny gyda’r grwp Edward H. Dafis, mae’n dda cael gafael ar gopi o’r casgliad cyfan hwn o recordiau’r grwp ar set o chwe cryno-ddisg a gyhoeddwyd gan Sain ‘nôl yn 2005. Er bod eu holl recordiau gen i’n barod, mae’r rhan fwyaf o’r rheini wedi eu chwarae’n dwll dros y blynyddoedd aParhau i ddarllen “Edward H Mewn Bocs”

Bob Tai’r Felin

Yn ddiweddar cefais gopi o CD o ganeuon Bob Roberts Tai’r Felin, y canwr gwerin o Gwmtirmynach ger y Bala. Felly, penderfynais fynd ati i hel ychydig o wybodaeth amdano. Fe’i anwyd ar y cyntaf o Fedi 1870 (dros 150 o flynyddoedd yn ol wrth i mi sgwennu hwn), yn fab i Cadwaladr a BetsiParhau i ddarllen “Bob Tai’r Felin”

1902

Dwi’n meddwl bod y record hon yn un o’r recordiau Cymraeg hynaf yn fy nghasgliad – Henwlad Y Menyg Gwynion, gan Mr. Henry Drew, o 1902! Tua 120 oed felly, a’r ansawdd yn dda iawn o ystyried oed y record. Yn eithaf lwcus, mi mae gen i chwaraeydd recordiau sy’n gallu chwarae’r hen recordiau 78cyfParhau i ddarllen “1902”

Semtexx

Is-label o gwmni Fflach, a sefydlwyd yn 1992 i ryddhau albymau pop a roc Cymraeg. Mewn ffordd, rhagflaenydd y label Rasp a sefydlwyd gan Fflach yn 2001. Erbyn 1992, roedd gwaith Fflach yn prysuro ac yn ehangu, a roeddynt wedi apwyntio rhai staff newydd i’r swyddfa yn Aberteifi. Yn ôl Richard a Wyn Jones ynParhau i ddarllen “Semtexx”

Tonfedd Oren

Mae’r byd yn ddisglair. Mae’r byd yn oren. Grwp gymharol anadnabyddus yw Tonfedd Oren (er iddynt gael rhyw faint o sylw ar Radio Cymru ac yn y wasg Gymreig), sef deuawd y gitarydd Rhys Williams a’r offerynwr electroneg John Brenton, ynghyd â chi Ffrengig dychmygol o’r enw Feydeau sy’n lefarydd ar ran y grwp mae’nParhau i ddarllen “Tonfedd Oren”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni