Tramor

Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen. Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel,Parhau i ddarllen “Tramor”

Cerdyn Delyse

Un o’r pleserau o gasglu recordiau ydi derbyn rhywbeth diddorol ond annisgwyl. Yn yr achos yma, cerdyn post (lluniau isod) i archebu catalog recordiau cwmni Delyse, o 1962. Mi ddaeth hwn hefo record o 1959, sef “Beethoven – Scottish, Irish, Welsh and English Songs” (Delysé ECB 3153, hefyd ar Envoy DS 6053). Yn ôl nodiadauParhau i ddarllen “Cerdyn Delyse”

Brân Mewn Bocs

Cyn i neb weiddi “creulondeb i adar”, ga’i bwyntio allan mai sôn am gasgliad o recordiau y grwp Brân o’r saith-degau sydd gen i dan sylw yma. Grwp roc o’r ’70au oedd Brân, a recordiodd ambell i gân werin hefyd. Fe aeth y grwp drwy ambell i “line-up” yn eu hamser, tan iddynt ddod iParhau i ddarllen “Brân Mewn Bocs”

Ffilis

Bum yn ffodus i daro ar draws y caset eithaf prin hwn ychydig wythnosau yn ôl fel rhan o gasgliad bach o recordiau a chasetiau a brynais adeg hynny. Dwi heb weld y caset arbennig hwn na’r artist, Ffilis Huws (a anwyd yn Phyllis Hughes), o’r blaen. Caset a gyhoeddwyd ar label D@Music o Lannon,Parhau i ddarllen “Ffilis”

Trons Y Ficar

Nid erthygl am ddillad isaf dynion, ond yn hytrach am label recordiau grwp Y Ficar o ardal Y Felinheli yng Ngwynedd. Fe ffurfiwyd y label yn unswydd i ryddhau tair o recordiau a chasetiau y grwp rhwng 1983 ac 1985. TRONS 001 – sengl, 1983 “5 Diwrnod”. Recordiwyd yn Stiwdio’r Bwthyn, Ystradgynlais. Cynhyrchydd Richard Morris.OchrParhau i ddarllen “Trons Y Ficar”

Disgyddiaeth 2020

O’r diwedd, rydw i wedi cael amser i ddiweddaru y Ddisgyddiaeth Gymraeg, gyda nifer o ychwanegiadau ac ambell i gywiriad. Dwi’n ddiolchgar i nifer o bobl am gynnig mwy o wybodaeth a chywiro ambell i beth. Bellach, mae’n dechrau edrych fel dogfen gynhwysfawr o’r byd recordiau Cymraeg, yn enwedig y byd recordiau feinyl a chasetiau.Parhau i ddarllen “Disgyddiaeth 2020”

YouTube

Wrth gwrs, mae yna nifer fawr iawn o ganeuon a pherfformiadau Cymraeg i’w gweld ar YouTube. Gwelais drydariad diddorol gan Yws Gwynedd lle y bu’n ceisio gweithio allan pa gân Gymraeg sydd wedi cael ei gwylio fwyaf ar YouTube a sut ffigurau sydd yna i ganeuon Cymraeg ar y cyfrwng hwnnw a chreu rhyw siartParhau i ddarllen “YouTube”

Awn I Fefflem

Dyma gaset bach gwahanol ddaeth i fy nghasgliad yn ddiweddar – “Awn I Fefflem” (Bethlehem), sef stori gan Bfian Lloyd Jones. Cymeriad yr actor Dyfed Thomas oedd Bfian Lloyd Jones rhai blynyddoedd yn ôl, a fyddai’n ymddangos ar radio a theledu. Er efallai ddim yn wleidyddol gywir y dyddiau hyn, mae gan Bfian nam lleferyddParhau i ddarllen “Awn I Fefflem”

Recordiau’r Ddraig

Cwmni recordiau Cymraeg o Lerpwl a ryddhaodd ychydig o recordiau saith modfedd yn 1969. Y cyhoeddwr oedd D. Ben Rees. Rhyddhawyd o leiaf tair record – mae’r drefn rhifo’n awgrymu bod o leiaf un arall. DDRAIG 6002 Brethyn Cartref-Brethyn Cartref (1969)DDRAIG 6003 Treflyn Jones-Treflyn (1969)DDRAIG 6004 Linda, Jean a Graham-Linda Jean Graham (1969) Tair chwaerParhau i ddarllen “Recordiau’r Ddraig”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni