Bu farw’r gantores Iris Williams OBE yn 79 oed.
Fe’i ganwyd yn Rhydfelin yn 1946 a’i magu mewn cartref plant yn Nhonyrefail. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd A Drama yng Nghaerdydd.
Fe ryddhaodd ei record Gymraeg gyntaf ar label Cambrian yn 1968 (CEP 413), efallai’r artist croenddu cyntaf i recordio yn y Gymraeg.
Roedd ganddi lais unigryw, ac fe’i chofir yn arbennig am y record “Pererin Wyf”, hefyd ar label Cambrian yn 1971, yn canu hefo’r Canolwyr. Yn 1974 bu iddi ennill cystadleuaeth Cân I Gymru hefo’r gân “I Gael Cymru’n Gymru Rydd” (Sain 46)
Daeth yn adnabyddus fel cantores a recordio llawer yn y Gymraeg a’r Saesneg, e.e. cyrraedd yr 20 uchaf yn y siartiau Prydeinig hefo’r gân “He Was Beautiful”, a threulio cyfnodau o’i bywyd yn yr Unol Daleithiau.
Yn y flwyddyn 2000, rhyddhaodd Sain gaset a chryno ddisg (C2228 a SCD2228) o’i chaneuon cynnar, wedi i Sain brynu casgliad o hen dapiau cwmni Cambrian. Hefyd, rhyddhawyd CD a chaset “Atgofion” hefo pedair o’i chaneuon Cymraeg ar SeaKer yn 1997.
Mae Iris yn gadael un plentyn, Blake.




Lluniau o gloriau rhai o recordiau a chryno-ddisgiau Cymraeg Iris Williams































