
Gwnaed y recordiau 78cyf (cylchdro y funud, neu rpm yn y Saesneg) cynnar o ddiwedd yr 1880au o gymysgedd deunydd shellac, er y defnyddiwyd bob math o ddefnyddiau eraill fel rwber caled yn ystod y cyfnod arbrofol yma ar y dechrau.
Math o resin neu ddefnydd gludog gan y drogen lac ar goed yn Asia yw shellac, oedd yn cael ei ddefnyddio i ludo’r defnyddiau eraill at ei gilydd. Cymysgedd o shellac a llechen neu galch oeddynt ar y cyfan, hefo rhyw faint o ffibrau cotwm i ychwanegu cryfder a charbon du ar gyfer eu lliwio’n ddu. Ond byddai gwahanol gwmniau yn amrywio y cynnwys cemegol rhyw faint.

Mae’r recordiau yma yn fregys, gyda sain o ansawdd gwael ac yn gallu cael eu crafu’n hawdd. Ac oherwydd maint y rhych (3mm), ‘doedd ond yn gallu chwarae ychydig funudau ar bob ochr y record – yn aml un cân yr ochr oedd y norm.
Daeth y recordiau hyn i fodolaeth tua’r un pryd a’r hen phonograph a ddyfeiswyd yn 1877 gan Thomas Edison. Roedd y system phonograph wreiddiol yn defnyddio papur arian (tin foil) ar silindr fetal, ac yn ddiweddarach silindr o rhyw fath o gwyr, oedd yn haws i’w ddefnyddio ac ansawdd sain ychydig yn well na’r papur arian. Fe barhoadd y system phonograph tan yr 1920au.

Tua 5 modfedd ar draws oedd y recordiau shellac cyntaf, yn cael eu troi â llaw ar y peiriant. System braidd yn elfennol ac ansawdd cymharol wael. Dyfeisiwyd hwy gan Emile Berliner a chafodd y cyntaf eu marchnata yn 1889. Galwodd y system yn Gramophone er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt a’r system silindrau Phonograph. Dim ond fel tegan y defnyddiwyd hwy yn y dechrau ar y cyfan, gan fod yr ansawdd sain yn wael a’r system braidd yn elfennol.
Yna yn 1894 fe ddechreuodd gwneud recordiau 7 modfedd, a’r rhain hefyd o ansawdd sain gwaelach na’r silindr cwyr, er i’r system wella hefo amser wrth i gwmniau arbrofi a gwella y systemau. Ond o leiaf yn medru dal ychydig mwy o sain na’r rhai llai cyntaf.
Yn 1901 fe ddaeth y record 10 modfedd gyntaf allan, a rhai 12 modfedd yn 1903. Roedd y rhai 10 modfedd yn gallu chwarae tua 3 munud o sain, a thua 4 munud yr ochr ar y rhai 12 modfedd. Mi oedd yna rhai recordiau 8 modfedd, ond mae rhai o’r rhain yn gallu bod yn anodd i’w chwarae ar systemau modern gan fod y nodwydd angen mynd yn bellach tua’r canol (labeli llai arnynt) na all rhai chwaraewyr ymdopi hefo.
Ar y cyfan, un gân gafwyd ar bob ochr ar waethaf maint y record.

Mae sawl enghraifft o record 8 modfedd 78cyf yn y Gymraeg, gan gynnwys cyfres o 12 record gan Morlais Morgan a Dan Jones ar label Edison Bell Radio yn 1929 er enghraifft.
Un nodwedd o recordiau 78cyf yw y pwysau. Gall record 10 modfedd bwyso tua 200 gram (5 record tua 1kg). Gall bocs bach o recordiau 78cyf fod yn annisgwyl o drwm felly – dipyn trymach na’r un nifer o recordiau feinyl! Dyna un rheswm fod rhai bocsus dal recordiau 78cyf ond yn dal tua 10-12 o recordiau.
Fel bob “safon” arall, mi fu cryn amrywiaeth o’r safonnau hefo rhai yn goroesi ac eraill yn methu.
Roedd yna rhyw faint o ddiffyg safonnau ar y pryd, gyda recordiau angen cyflymdra o rhwng 60 a 130 cylchdro y funud (rpm), hyd nes safonni ar 78cyf erbyn tua 1925. Erbyn hyn, roedd meicroffonau wedi eu dyfeisio i hel a dal y sain yn lle’r hen system o gorn metal yn dal a gyrru’r sain i nodwydd dorri rhych. Technegau recordio wedi newid cryn dipyn ers hynny!
Roedd y systemau i chwarae’r recordiau yn y cartref yn ddrud iawn ar y dechrau. Roedd rhaid bod yn eitha cyfoethog i allu afforddio un. Roedd ambell i chwaraeydd yn gorfod cael eu troi â llaw, weithiau hefo rhyw fath o strôb i’ch helpu weld os oeddech yn troi y peiriant ar y cyflymdra cywir, neu fel arall rhyw fath o ddyfalu oddi wrth traw y llais a’r gerddoriaeth!
I ddechrau, cloriau syml papur neu chardfwrdd brown a roddid am y recordiau cynnar yma. Roedd y recordiau yn fregus iawn ac yn hawdd eu malu er waethaf y clawr papur neu cardfwrdd.

Cafodd y term “albwm” ei ddefnyddio gyntaf tua 1909 pan wnaeth cwmni Odeon o’r Almaen gyhoeddi set o bedair record 78cyf mewn pecyn arbennig i ddal y recordiau. Erbyn 1910 roedd albymau tebyg i rai ffotograffiaeth ar gael hefo cloriau lliwgar neu clawr lledr ar gael i ddal nifer o recordiau hefo’i gilydd, rhai hefo’r term “Record Album” wedi’w brintio ar y clawr. Dyna ddechrau’r term “albwm” i ddisgrifio casgliad o ganeuon fel y gwyddom heddiw. Erbyn dyfodiad recordiau feinyl a chryno-ddisgiau hefo casgliad o ganeuon ar un record, cafodd y term “albwm” ei ddefnyddio am un record hefo casgliad o ganeuon hyd heddiw.

Fe barhaodd recordiau shellac 78cyf tan yr 1950au, er y bu peth prinder o’r defnydd crai yn ystod yr ail ryfel byd yn gorfodi defnyddio feinyl neu defnyddiau eraill dros dro. Roedd cwmni Qualiton yng Nghymru, er enghraifft, wedi cyhoeddi nifer o recordiau 78cyf cyn symud ymlaen i recordiau feinyl ddiwedd y 50au.
Cafodd nifer sylweddol o ganeuon Cymraeg eu recordio ar yr hen recordiau 78cyf yma, ond yn aml mae’n anodd eu dyddio gan nad yw labeli’r recordiau yn cynnwys dyddiadau. Mae’r labeli yn aml yn ddwyieithog – Cymraeg a Saesneg. Weithiau wedi’w labelu yn Saesneg yn unig ond yn canu yn y Gymraeg. Ceir nifer o enghreifftiau o sillafu gwahanol yn y teitlau Cymraeg, ond mae’n anodd dweud os mai camgymeriadau yw’r rhain neu symleiddio’r geiriau Cymraeg ar gyfer y di-Gymraeg, neu gwahaniaethau sillafu ar y pryd (bron i ganrif yn ôl bellach!).
Tua 1915-1920 rhyddhawyd caneuon Cymraeg gan y Welsh Quartette ar labeli Regal, Columbia ac Edison Bell Winner. Y Welsh Quartette oedd Mair Jones (soprano), Winifred Lewis (contralto), Gwilym Wigley (tenor), a David Brazell (baritone). Fe ryddhaodd David Brazelle (baritone o Lanelli, wedi hyfforddi yn Llundain) nifer o recordiau unigol hefyd.
Recordiodd y tenor David Lloyd nifer o ganeuon Cymraeg yn y 40au a’r 50au. A bu i Jac a Wil recordio rhai o’u caneuon cynnar ar recordiau 78cyf. Recordiodd y tenor Parry Jones ambell i gan Gymraeg yn y 30au. Ceir nifer o recordiau Cymraeg gan y Royal Welsh Choir a The Boro’ Welsh Choir yn y 30au (sy’n dal i fod yn Southwark, Llundain).
A beth am Madam Megan Telini? Margaret Jane Parry o ardal Bethesda, Gwynedd a anwyd yn 1878. Fel llawer o Gymry, fe symudodd dramor i hyfforddi a chymeryd yr enw Madam Telini i ganu (neu Megan Llechid yng Nghymru). Recordiodd dros 16 o recordiau a chodi lot o arian i gefnogi streicwyr yn y De a’r Gogledd cyn marw yn 1940 a chael ei chladdu yng Nghaergybi, lle mae cofeb iddi.

A Leila Megane, sef Margaret Jones o Fethesda fu’n canu cyn y rhyfel byd cyntaf a gwneud rhai recordiau Cymraeg. Mae rhai o’i chaneuon ar gael ar gryno ddisg gan Sain, sef SCD 2136 o 2001. Mae’r CD wedi gwerthu allan erbyn hyn, ond gellir prynu a lawrlwytho’r caneuon a gwrando ar samplau byr o siop lawrlwytho cwmni Sain http://sioplawrlwythosain.com
Enwau eraill sy’n ymddangos yn fy nghasgliad o recordiau 78cyf:
Parry Jones, Robert Evans, Ted Hopkins, Idris Daniels, Mair Jones, Mabel James, Gwyn Williams and his Welsh singers, Meirion Morris, Ceinwen Rowlands, Robert Roberts, Brychan Powell, Mari Macklin, Euryl Cosslet a llawer mwy. Hefyd, amryfal gorau, fel y byddech yn ei ddisgwyl.
Ceir enwau eithaf di-Gymraeg yn aml, ond anodd yw dweud erbyn hyn os mai Cymry yn cymeryd enwau go Saesnig yn y gobaith o gael llwyddiant yn y byd tu allan i Gymru oedd hyn.
Gellir chwarae yr hen recordiau 78cyf yma ar chwaraewyr recordiau modern cyn belled a bod modd gosod y cyflymdra i 78, a bod nodwydd arbenig ar gael i chwarae y math yma o record – mae rhychau y recordiau yma yn lletach na rhai recordiau feinyl, dyna un rheswm pam bod angen nodwydd wahanol.
Ceir rhestr eithaf hir o recordiau Cymraeg 78cyf yn y Ddisgyddiaeth. A dwi’n taro ar draws mwy a mwy o enghreifftiau yn weddol gyson. Fe fum i’n ffodus iawn i gael nifer da o recordiau 78cyf fel rhan o gasgliad recordiau Cymraeg a brynais gan berchennog siop Gray-Thomas, Caernarfon ychydig flynyddoedd yn ol. Dwi heb gael amser i’w trosglwyddo i ffurf ddigidol eto, ond fe ddaw hynny mewn amser.
Felly, gobeithio eich bod yn gallu gweld mai nid peth mor diweddar a hynny yw recordiau Cymraeg!
Mewn erthyglau eraill yn y dyfodol mi fyddaf yn disgrifio mathau eraill o recordiau a sut y gellir eu digideiddio i storio y recordiau hen, bregus yma ar gyfrifiaduron ar gyfer y dyfodol.























