Mr Edward Davies

Apêl am ychydig o wybodaeth y tro hwn os yn bosibl!

Wedi derbyn hen record 78cyf hefo dwy gân gan Mr Edward Davies, a dim syniad pwy ydi o!

Mae’n debyg fod y record wedi ei chyhoeddi gan Brtish Zonophone yn neu tua 1913, sy’n golygu bod y record tua canrif oed eleni a mewn cyflwr da iawn o’r oed. Un o’r recordiadau cyntaf o’r gân yn y Gymraeg, tybed? Y rhif ar y record yw 1131.

Y Ddwy gân yw: “Rhyfelgyrch Gwyr Harlech” ac “Y Deryn Pur” i gyfeiliant y piano.

Mae gen i ambell i record 78 ganddo o’r un cyfnod, i gyd ar label British Zonophone.

1127 Bugeilio’r Gwenith Gwyn/Yr Hen Gerddor
1130 Dafydd Y Garreg Wen/Hen Ffon Fy Nain
1131 Rhyfelgyrch Gwyr Harlech/Y Deryn Pur

Fe fyddwn yn ddiolchgar am unrhyw wybodaeth.

Welsh Dances Presented By Alexander Hamilton

Yr ychwanegiad diweddaraf i fy nghasgliad o recordiau Cymraeg yw’r record hir hon o America.

Bu Alexander Hamilton yn dysgu dawnsfeydd Cymreig. Fe ryddhaodd record hir yn 1978 gyda’r teitl “Welsh Dances”, gydag 13 o ganeuon dawnsio gwerin Cymreig. Fe glywn lais Alexander Hamilton yn rhoi cyflwyniad byr i bob un o’r caneuon.

Cynhyrchwyd y record gan Gene Barron a Nathan Gerber yn 1977 ac 1978. Daw hefo taflen 13 tudalen hefo nodiadau ar y dawnsfeydd gan Mae Fraley ar sut i berfformio’r dawnsfeydd. Yn od braidd, mae’r daflen mewn inc gwyrdd drwyddi, braidd yn anodd ei darllen.

Cafodd y record ei gwneud gan Folkdance Underground o Culver City, California. Rhif catalog y record yw GBH-1. Siawns nad yw dawnsio gwerin Cymreig mor filain a hynny i haeddu’r ‘GBH’ yn y rhif !?!

Fel recordiau eraill gan y gwneuthurwr, record mewn clawr plaen gwyn hefo sticer wen syml ar y blaen gyda’r teitl a rhestr o’r caneuon mewn inc gwyrdd. Does dim gwybodaeth ar y record pwy yw’r cerddorion.

Mae yna gymdeithas di-broffid o’r enw “Folk Dance Federation of California, South” (ddim yn siwr os yw’r un cwmni), sy’n cynrychioli miloedd o ddawnswyr gwerin yn America. Mae yna dipyn go lew o wybodaeth am ddawnsfeydd gwerin Cymreig (a llawer o wledydd eraill) ar y wefan, gan gynnwys y cyfarwyddiadau i’w perfformio. Gellir chwilio hefo enw Cymraeg y ddawns. Cewch ddolenni at ddogfennau a fideos ynghylch y ddawns – triwch “Robin Ddiog”, er enghraifft. Ymddengys fod y cyfarwyddiadau yn ddogfennau a sganwyd o amrywiol lyfrau a phamffledi i’w cadw ar y wefan https://socalfolkdance.org

Yma yng Nghymru, mae gennym Gymdeithas Ddawns Werin Cymru (Welsh Folk Dance Society). Ceir eu gwefan ar https://dawnsio.cymru , yn Gymraeg neu Saesneg. Maent hefyd yn cyhoeddi deunydd dawnsio gwerin, gan gynnwys llyfryn 40 tudalen o’r enw Blodau’r Grug-100 o Alawon Dawnsio Gwerin Poblogaidd Cymru gan Alex Hamilton a Robin Huw Bowen.

Taffy Owen

Ychydig o apêl am wybodaeth y tro hwn!

Ceisio dod o hyd i fwy o wybodaeth am y record hon a’r artistiaid arni.

Gwr o’r enw Taffy Owen yn canu, gyda chyfeiliant gan Linda Austin Brockbank.

‘Does dim gwybodaeth ar glawr y record ar wahan i’r llun ohonynt. Roedd darn o bapur wedi’i sgwennu tu mewn hefo’r enw Robert David “Taffy” Owen, hefo’r dyddiad geni 9ed o Chwefror 1906 yng Nghymru, a’r dyddiad marw o 14eg o Awst 1976, oed 74. Yn amlwg, dyw’r rhifau hynny ddim yn cyfateb, naill ai mae’r dyddiad geni neu’r oed yn anghywir. Yr oed debycaf, gan fod yr oed a ymunodd a’r fyddin (gw. isod) yn awgrym mai oed marwolaeth efallai sy’n anghywir.

Mae’r darn papur hefo rhyw ychydig o fanylion amdano, er dim am pam yr ymfudodd i ochr arall y byd. Cyn y rhyfel, roedd yn byw yn Vincent Street, Auckland, Seland Newydd mae’n debyg, a chyfeiriad arall i’w wraig (fel perthynas agosaf), sef Mrs E Owen yn Kellet Street, Sydney, Awstralia. Ymunodd â byddin Seland Newydd ar y 3ydd o Hydref 1939 yn 32 neu 33 oed (anodd deallt yr ysgrifen) fel gwr ystorfa. Mae’n debyg iddo fod yn rhan o’r “New Zealand Entertainment Unit” neu’r “Kiwi Concert Party” ar un adeg. Fe wasanaethodd yn El Alamein a’r Eidal yn ystod y rhyfel, ac ennill sawl medal. Wedi’ rhyfel, mae’n debyg ei fod yn Awstralia fel cerddor ac wedi gadael y fyddin.

‘Does fawr o wybodaeth ar y record chwaith. Y rhif sydd arni yw PR-317, a nodyn ar y papur mai o 1975, blwyddyn cyn ei farwolaeth, y daw. ‘Does dim enw cwmni na chyhoeddwr. Yma yng Nghymru, dim ond Qualiton a Rosser Electronics wn i amdanynt sydd a ‘PR-‘ yn y rhif, ond dyw’r rhifo na lliw y label ddim yn cyfateb i recordiau y cwmnïau hynny. Na chwaith dim cliw am ba wlad y cyhoeddwyd y record, p’un ai yma yng Nghymru neu draw yn Awstralia/Seland Newydd. Mae’n bosibl mai record breifat oedd hi, gan nad oes fawr o wybodaeth hawlfraint ac ati.

Am y record ei hun, ceir chwech o ganeuon Cymraeg ar ochr A (dwy hefo teitlau Saesneg), a’r gweddill yn ganeuon Saesneg ar yr ochr arall.

Edward H Mewn Bocs

Fel rhywun dyfodd fyny gyda’r grwp Edward H. Dafis, mae’n dda cael gafael ar gopi o’r casgliad cyfan hwn o recordiau’r grwp ar set o chwe cryno-ddisg a gyhoeddwyd gan Sain ‘nôl yn 2005. Er bod eu holl recordiau gen i’n barod, mae’r rhan fwyaf o’r rheini wedi eu chwarae’n dwll dros y blynyddoedd a pheth da yw cael copi o’r holl ganeuon ar CDs heb swn clecian yr hen recordiau a hissian y casetiau. Dwi’n difaru’n fawr na wnes i brynu copi o’r casgliad pan ddaeth allan bron i ugain mlynedd yn ôl.

Yn ystod gyrfa a aeth o Awst 1973 tan fis Medi 1976 (y ddwy noson ym mhafiliwn Corwen), ac o 1978 i 1980, fe ryddhaodd Edward H Dafis bum record hir a chasetiau, tair record sengl, cwpl o ganeuon a recordiwyd yn fyw ar gasgliadau fel Tafodau Tân a Twrw Tanllyd, a chwpl o gasgliadau ar gasetiau a CDs, yn ogystal a DVD o’u perfformiad byw olaf.

Mae’n debyg fod enw’r grwp yn hannu o enw colofnydd colofn bop Y Faner rhwng Ionawr 1972 ac Awst 1973. Mewn gwirionedd, Hefin Elis, gitarydd y grwp, cynhyrchydd recordiau toreithiog, a chynhyrchydd rhaglenni teledu oedd yr awdur hwnnw.

Yn ystod Eisteddfod Rhuthun, ar yr wythfed o Awst 1973 yn noson lawen Tafodau Tân a drefnwyd gan Gymdeithas Yr Iaith ym Mhafiliwn Corwen y daeth Edward H Dafis i’r amlwg gyntaf. Gwnaed record hir o’r noson dan y teitl Tafodau Tân, yn cynnwys y gân “Cân Y Stiwdants” gan y grwp.

Yr adeg hynny, pedwar aelod oedd i’r grwp – y diweddar Charli Britton (drymiau), y diweddar John Griffiths (gitar fâs), Hefin Elis (gitâr) a Dewi ‘Pws’ Morris (gitâr a llais). Yn gynnar yn 1974 fe ymunodd y lleisydd Cleif Harpwood (gynt o’r grwp gwerin Ac Eraill) â’r grwp, ac ymddangos ar eu record hir gyntaf, “Yr Hen Ffordd Gymreig O Fyw”. Bu’r “line-up” hwn yn gyson dros y blynyddoedd, er y bu i Geraint Griffiths (Eliffant) ymuno a’r grwp o bryd i’w gilydd.

Y chwe CD a’r llyfryn.

Ar y casgliad hwn, ceir y pum albwm ar CDs unigol, a’r senglau a chaneuon byw ar y chweched CD, oll mewn clawr hir plygiedig mewn bocs, yn llythrennol, ynghyd a thaflen geiriau y caneuon. Un o’r “box sets” cyntaf yn y Gymraeg mae’n siwr, er y bu sawl un dros y blynyddoedd e.e. Hogia’r Wyddfa, Geraint Jarman, Meic Stevens, Y Cyrff, Dafydd Iwan, Tecwyn Ifan, Bryn Terfel, Triban a Brân. Sy’n newyddion da i gasglwyr recordiau Cymraeg.

Mae’r chweched CD hon yn cynnwys y caneuon byw “Can Y Stiwdants” a “Pishyn” o’r recordiau hir Tafodau Tan a Twrw Tanllyd, yn ogystal a’r senglau Singl Tragwyddol/Ar Y Fordd (1973), VC10/Uffern Ar Y Ddaear (1978) a’r EP “Dyma’r Urdd” (1979).

Yn 1985 fe ryddhawyd casgliad arall o’u caneuon ar gasetiau dan y teitl “Breuddwyd Roc A Rôl” (Sain C927) – mae dwy fersiwn o hwn fel y gwelwch o’r lluniau – ac yna casgliad o 20 o’r traciau gorau ar gryno-ddisg yn 1989, dan y teitl “Edward H. Dafis 1974-1980” (Sain SCD 8027). Gallwch wrando ar honno ar Spotify.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2013, cafwyd un cyngerdd aduniad olaf i ddathlu 40 mlynedd ers i Edward H Dafis berfformio gyntaf. Mae DVD o’r noson honno gan Sain, sef DVD137 a gyhoeddwyd yn 2014. Cyflwynir gan Lisa Gwilym.

Disgyddiaeth Edward H. Dafis

1973:
Cân Y Stiwdants (byw) ar Tafodau Tân (record hir, Sain 1007H, ac ar gaset Sain C506)
Ffarwel I Langyfelach Lon/Gwrandewch (sengl, Sain 38E)

1974:
Hen Ffordd Gymreig O Fyw (record hir, Sain 1016M a chaset Sain C510N)

1975:
Ffordd Newydd Eingl-Americanaidd Grêt O Fyw (record hir, Sain 1034M a chaset Sain C534N)

1976:
Singl Tragwyddol/Ar Y Ffordd (sengl, Sain 63S)
‘Sneb Yn Becso Dam (record hir, Sain 1053M a chaset Sain C553N)

1978:
VC10/Uffern Ar Y Ddaear (seng, Sain 67S)

1979:
Yn Erbyn Y Ffactore (record hir, Sain 1144M a chaset Sain C744N)
Dyma’r Urdd (ep, Sain 61)
Breuddwyd Roc A Rol/Smo Fi Ishe Mynd (sengl MACYM 3 – Mudiad Adloniant Cymraeg Ynys Môn)

1980:
Pishyn, yn fyw ar record hir Twrw Tanllyd (Sain 1201H a chaset Sain C801G)
Plant Y Fflam (record hir, Sain 1196M a chaset C796N)

1985:
Breuddwyd Roc A Rôl, casgliad o 27 o’r caneuon gorau mewn pecyn caset dwbl (Sain C927F)

1989:
Edward H Dafis 1974-1980, casgliad CD o 20 o’r traciau gorau, rhai wedi eu hail-gymysgu (Sain SCD 8027)

2005:
Edward H Mewn Bocs, pecyn o 6 CD.

2014:
Gig Olaf Edward H. Dafis (Sain DVD 137)

Yma O Hyd

Wnes i ddim sylweddoli yn syth bod fersiwn Cwpan Y Byd o “Yma O Hyd” Dafydd Iwan wedi ei rhyddhau ar CD – am rhyw reswm mi oeddwn i dan yr argraff mai i’w lawr-lwytho’n unig oedd hi. Felly, wedi sylweddoli, dyma brynu copi i’r casgliad, wrth gwrs.

Braf gweld eu bod wedi cynnwys cyfieithiad Saesneg o eiriau y gân. Gan fod ymdrechion y Gymdeithas Bel-droed (ac eraill!) i ddefnyddio y gân (a’r Gymraeg yn gyffredinol) fel ein anthem yn y gystadleuaeth wedi llwyddo i roi sylw eang i’r tîm ac i Gymru a’r iaith Gymraeg yn gyffredinol led-led y byd, mi fydd cyfieithiad o’r geiriau yn rhoi gwerthfawrogiad pellach i’r di-Gymraeg a’r rhai sydd efallai yn llai hyderus eu Cymraeg.

“You don’t remember Macsen?” meddai’r linell gyntaf. Mae’n sicr o wneud i bobol ddechrau meddwl Pwy Oedd Macsen a mynd i ymchwilio a chanfod dipyn am hanes Cymru a’i phobl a be ddigwyddodd dros fil a chwe chant o flynyddoedd yn ol yn hanes cynnar Cymru fel gwlad.

Mae clywed lleisiau’r cefnogwyr, y Wâl Goch, yn y cefndir yn ychwanegu dimensiwn arall i’r gân gyfarwydd hon ac wedi dod a Dafydd Iwan i sylw newydd rhyngwladol.

Da iawn chi Dafydd a phawb fu’n gysylltiedig â’r ymdrech hon. Efallai na lwyddodd Cymru i fentro ymhellach yn y gystadleuaeth ei hun y tro hwn, ond mi fu hyn i gyd yn elw mawr i Gymru a’r Gymraeg mae’n sicr. Yng ngeiriau cân ddiweddar Ani Glass, “‘Ni Wedi Ennill Yn Barod” er gwaethaf y canlyniadau siomedig yn y gemau eu hunain.

Yr ail gân ar y CD ydi’r cefnogwyr yn cannu pennill a chytgan cyntaf yr anthem genedlaethol. Dim ond rhyw funud ac ugain eiliad, ond yn llawn angerdd fel pob tro y clywn y cefnogwyr yn canu!

Roedd y fersiwn wreiddiol o Yma O Hyd gan Dafydd Iwan ac Ar Log ar record hir feinyl (Sain 1275) a chaset (Sain C875N) mor bell yn ôl a 1983. Cafodd ei ail-ryddhau fel CD (Sain SCD 2063) yn 1993.

Cloriau yr Yma O Hyd gwreiddiol.

Bob Tai’r Felin

Llun o glawr CD Sain o ganeuon Bob Roberts
CD Sain o ganeuon Bob Roberts

Yn ddiweddar cefais gopi o CD o ganeuon Bob Roberts Tai’r Felin, y canwr gwerin o Gwmtirmynach ger y Bala. Felly, penderfynais fynd ati i hel ychydig o wybodaeth amdano.

Fe’i anwyd ar y cyntaf o Fedi 1870 (dros 150 o flynyddoedd yn ol wrth i mi sgwennu hwn), yn fab i Cadwaladr a Betsi Roberts (g. Betsi Rowlands). Fe olynodd ei dad gan weithio fel melinydd a ffermwr yn Nhai’r Felin gydol ei oes.

Priododd ag Elizabeth Jane Roberts yn 1901, a chawsant dri o blant, Harriet, Morus a Cadwaladr.

Roedd yn aelod selog o gapel Presbyteraidd Cwmtirmynach, yn athro Ysgol Sul ac yn godwr canu yn y capel.

Wedi ennill cystadleuaeth canu soprano yn y Bala yn 15 oed, bu’n berfformiwr cyson yn lleol. Daeth yn nodedig fel canwr gwerin, ac ennill y gystadleuaeth cân werin yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1931, yn dros 60 oed.

Wedi hynny, daeth yn aelod o Barti’r Felin am tua 20 mlynedd gyda Llwyd o’r Bryn, John Thomas, Maesyfedwy, Harriet (merch Bob) a Lizzie Jane, Maesyfedwy yn cyfeilio iddynt. Ceir tair cân gan John Thomas, Maesyfedw ar y CD.

Yn 1944 perfformiodd ar raglen Noson Lawen ar y BBC. Dychmygwch – dechrau darlledu bron yn 75 oed! Yn 1949 cymerodd ran yn y ffilm ‘Noson Lawen’ (‘The Harvest’ oedd y fersiwn Saesneg). Bu hefyd yn canu ar lwyfan yn Llundain, ac ar deledu o Lundain.

Cafodd ei lais ei roi ar gof a chadw tua 1951 ar recordiau 78cyf gan gwmni Decca dan ei enw llawn, Robert Roberts – caneuon fel Mari Fach Fy Nghariad, Yr Asyn A Fu Farw, a Molianwn.

Cyhoeddodd Welsh Teldisc bedair sengl o’i ganeuon ar feinyl rhwng 1962 a 1965.

Yn 1976, chwarter canrif wedi marwolaeth Bob Roberts, cyhoeddodd Sain ddwy record hir o’i waith.

Yn 1965 fe ryddhaodd Welsh Teldisc record hir gyda’r teitl “Y Tri Bob” (TLP 617), sef recordiad o ddarlith y Parch, Robin Williams o’r un enw, am y tri Bob, sef Bob Owen (Croesor), Bob Lloyd (llwyd o’r Bryn) a Bob Roberts (Tai’r Felin). Ail-gyhoeddwyd y record hon gan Sain yn 1976. Fe gafwyd llyfr o’r un teitl gan Lyfrau Gomer.

Llyfr "Caneuon Bob Tai'r Felin"
Y llyfr

Yn 1959 rhyddhawyd llyfr o’i ganeuon dan y teitl “Caneuon Bob Tai’r Felin”. Golygwyd gan Haydn Thomas a chyhoeddwyd gan Snell & Son.

Bu farw ar y 30ain o Dachwedd 1951 yn 81 oed, a’i gladdu ym mynwent Llanycil, ger y Bala. Diolch i Llwyd o’r Bryn, fe sefydlwyd cronfa i godi cofeb iddo, o waith Jonah Jones, a osodwyd yn y wal ger giat Tai’r Felin. Dadorchuddiwyd y gofeb ar y 5ed o Ebrill 1961. Mae’r gofeb yn dal yno heddiw.

Dywed rhai bod Bob Roberts yn gyfrifol am barhad rhai o’r hen gerddi gwerin hyn. Yn sicr, mae edrych yn ôl ar fywyd a gyrfa Bob Roberts yn dangos mor bwysig oedd y cyfraniad a wnaeth i fywyd cerddorol a chanu gwerin Cymru.

Disgyddiaeth Bob Roberts, Tai’r Felin.

Decca M.646 Mari Fach Fy Nghariad/’Nacw (78 cyf, 1951)
Decca M.674 Yr Asyn A Fu Farw/Molianwn (78cyf, 1951)
Welsh Teldisc WD 905 Mari Fach Fy Nghariad/Pobl Drws Nesa (sengl, 1962)
Welsh Teldisc WD 906 Y Gwr Goludog a Lazarus/Bwthyn Yng Nghymru (sengl, 1963)
Welsh Teldisc WD 908 Molianwn/Myfyrdod Wrth Glywed Y Cloc Yn Taro (sengl, 1963)
Welsh Teldisc WD 910 Yr Asyn A Fu Farw/’Nacw (sengl, 1965)
Sain 1058H Bob Roberts Tai’r Felin Cyfrol 1 (record hir, 1976)
Sain C558G Bob Roberts Tai’r Felin Cyfrol 1 (caset, 1976)
Sain 1068H Bob Roberts Tai’r Felin Cyfrol 2 (record hir, 1976)
Sain C568G Bob Roberts Tai’r Felin Cyfrol 2 (caset, 1976)
Sain SCD 2608 Bob Roberts Tai’r Felin (CD, 2009)

Hefyd:

Welsh Teldisc TLP 617 Darlith ‘Y Tri Bob’ gan Robin Williams (record hir, 1965)
Sain 1059D Darlith ‘Y Tri Bob’ gan Robin Williams (record hir, 1976)

1902

Dwi’n meddwl bod y record hon yn un o’r recordiau Cymraeg hynaf yn fy nghasgliad – Henwlad Y Menyg Gwynion, gan Mr. Henry Drew, o 1902! Tua 120 oed felly, a’r ansawdd yn dda iawn o ystyried oed y record.

Yn eithaf lwcus, mi mae gen i chwaraeydd recordiau sy’n gallu chwarae’r hen recordiau 78cyf deg modfedd hyn, hefo cysylltiad USB i gyfrifiadur i recordio, a phrosesu hefo meddalwedd fel Audacity i wella’r ansawdd a chreu MP3 i roi’r hen ganeuon hyn ar gof a chadw. Ac mi mae gen i dipyn go lew o hen recordiau 78cyf Cymraeg hyn, er nad yw llawer ohonynt mor hen a hyn.

Ystyr teitl y gân yw’r hen arfer o roi pâr o fenyg gwyn i farnwr mewn llys barn pan nad oedd achosion i’w clywed mewn sesiwn o’r llys. Gan fod hyn yn digwydd yn eithaf aml yng Nghymru yn hanesyddol, fe gyfeirwyd at Gymru fel tir y menyg gwynion. Mae’n cyfieithu i’r Saesneg fel “Old Land Of Peace And Concord”.

Cyfaddefiad: ‘does gen i ddim syniad pwy oedd y baswr Mr. Henry Drew, ac mi fyddwn i wrth fy modd yn derbyn mwy o wybodaeth amdano. Fum i ddim yn arbennig o lwcus wrth chwilio ar y we am wybodaeth, felly os all unrhyw un helpu…

Un gân a geir ar y record (a gyfansoddwyd gan D. Emlyn Evans), eithaf cyffredin am y cyfnod.

Mi wnaeth Henry Drew ryddhau mwy nag un record Gymraeg – dyma lun o gatalog o recordiau 78cyf o tua 1903 neu 1904 gan Gramophone And Typewriter Ltd. Ddim yn gwybod os oedd cysylltiad, mae nifer o’r caneuon hefyd ar gael ar label Columbia.

Mr. Henry Drew

DIWEDDARIAD: Diolch i John Ellis am ychydig o wybodaeth am Mr. Henry Drew i mi allu diweddaru’r erthygl hon. ‘Roedd gan deulu Henry Drew fusnes lledr ym Mhorthaethwy, ond gan fod Henry’n berfformiwr naturiol, dewisodd fynd i fyd adloniant i berfformio mewn theatrau yng ngogledd Lloegr ac yn Llundain. Gan fod ganddo lais canwr bas da, ac aeth ati i recordio dros chwe deg o ganeuon ar sylindrau cwyr a disgiau rhwng 1902 ac 1905, gan gynnwys y record gyntaf o ganu penillion Cymraeg yn 1902.

Semtexx

Logo label Semtexx

Is-label o gwmni Fflach, a sefydlwyd yn 1992 i ryddhau albymau pop a roc Cymraeg. Mewn ffordd, rhagflaenydd y label Rasp a sefydlwyd gan Fflach yn 2001.

Erbyn 1992, roedd gwaith Fflach yn prysuro ac yn ehangu, a roeddynt wedi apwyntio rhai staff newydd i’r swyddfa yn Aberteifi. Yn ôl Richard a Wyn Jones yn eu llyfr ‘Fflach O Ail Symudiad’ (Y Lolfa, 2014), “Daeth y teimlad wedyn bod isie label ar wahân i fandiau pop a roc felly sefydlwyd Semtexx. Roedd yr enw ychydig yn ddadleuol gan ei fod yn cael ei gysylltu â therfysgwyr, ond cael enw ‘ffrwydrol’ tebyg i Fflach oedd y bwriad.”

Rhwng 1992 ac 1994 fe ryddhawyd deg albwm ar gasetiau (gyda fersiwn cryno ddisg o rai ohonynt hefyd).

SXC 001 Jim ‘N’ Ems-Poppit Inn (1992)
SCX 002G Jylopis-Whopyr (1993)
SXC 003G Ail Symudiad-Ddy Mwfi (1993)
SXC 004G Ail Gyfnod-Ein Drws (1993)
SCX 005E NFA-Piso Yn Y Gwynt (1994)
SXE 006E Caffi Vadassi-MBS (1994)
SXC 007 RMS-Ethnig Rhamantus (1994)
SXC 008 Almanac-Rhy Hwyr (1994)
SXC 009E Byd Newydd-Byw Mewn Ofn (1994)
SXC 010G Dom-Inmudeelsareinclaynoneareinpinetarisinoaknoneare (1994)

Bellach, mae’r casetiau’r label yn brin iawn, er bod rhai wedi’u rhyddhau ar blatfformau digidol fel Soundcloud neu Spotify.

Deuawd Jim ‘N’ Ems o Aberteifi oedd y cyntaf i recordio ar Semtexx, yn 1992. Roedd Jim (James Saunders) o Birmingham yn wreiddiol, ac Ems (Emyr Garnon) o Landoch. Cafwyd deg o ganeuon ar y caset Poppit Inn gan y ddeuawd ddwyieithog yma. Mae caneuon o’r albwm ar gael i’w clywed ar Soundcloud a Spotify – chwiliwch am “Jim ‘n’ Ems”.

Jylopis

Wedyn daeth y Jylopis, grwp o’r Wyddgrug, oedd yn hapus i ddisgrifio’r Wyddgrug ar glawr y caset fel “The centre of things”. Alun Edwards (drymiau), Ifan Edwards (bas), Dyfan Edwards (gitar), Iwan Jones (gitar, allweddellau) ac Aled Williams (llais) oedd aelodau’r grwp. Ceir 10 o ganeuon ar y caset.

Ail Symudiad ryddhaodd y trydydd caset, dan y teitl “Ddy Mwfi”. Mae rhai o’r 10 o ganeuon o’r albwm i’w clywed ar y casgliad Pippo Ar Baradwys gan Fflach o 2006, a hefyd i’w clywed ar wefan Soundcloud. Fe recordiwyd y caset yma yn 1993, yn dilyn cyfnod cymharol dawel i’r grwp.

Ail Gyfnod

Grwp synth-pop oedd Ail Gyfnod, a ryddhaodd dau gaset ar Fflach (y llall oedd Haul Yr Haf Yn Hwyr I Godi, Fflach C102G, 1991), yn ogystal a dwy EP ar label Ofn (Nuance yn 1989 a Isomerig yn 1990). Yr aelodau oedd Gwion Huw Jones (llais), Dyfan Jones (allweddellau, gitâr, llais), Simon Jones (drwm bâs a llais), Richard Laszlo (llais), Mathew Rowlands (gitâr a bas). Aeth y brodyr Gwion a Dyfan ymlaen i weithio i’r byd teledu a ffilm, Gwion i fyd actio, a Dyfan fel cyfansoddwr a chyfarwyddwr cerdd. Mae yna 9 o ganeuon ar y caset “Ein Drws”.

O Gaernarfon y daeth y grwp NFA (gynt y DFA). Dyma unig albwm y grwp yn y Gymraeg cyn belled ag y gwn i, hefo 6 chân ar y caset. Aelodau’r grwp oedd Martin Young (llais, gitar a bas), Ian Edwards (llais), Deian Elfryn (drymiau).

MBS oedd teitl albwm y grwp Caffi Vadassi o ardal y Bala. Aelodau’r grwp oedd Michael Jones (llais), Kristian Page (gitar), Iwan Pierce (bas), Theston Michael Jones (drymiau 1990-93) / Sion Pennant (drymiau 1993/94). Roeddynt yn ddisgyblion yn Ysgol Y Berwyn, Bala pan ddechreuodd y grwp yn 1989. Ceir 6 chân ar y caset. Hefyd, bu i’r grwp gyfrannu 2 gân (Llanast a Rhiannon) i’r albwm aml-gyfrannog Cofi Roc ar label Crai (Crai C016).

RMS

RMS – grwp o ardal Aberteifi. Ceir 11 trac ar y caset i Semtexx. Yr aelodau oedd Sarah (llais), Jim (gitar a llais), Tom (gitar), Kim (bas) a Horace (drymiau).

Teitl y caset oedd ‘Ethnig Rhamantus’ – dim ond ar y caset y mae’r teitl yn ymddangos, ddim ar y clawr. 11 o ganeuon ar y caset.

Almanac

Almanac yw Dei Elfyn (drymiau a llais), Rhys Morris (bas) ac Eilir Jones (gitar), grwp o ardal Bethesda a Chaernarfon. Ceir 8 o ganeuon ar y caset “Rhy Hwyr”. Yn 1996, bu iddynt hefyd ryddhau cryno-ddisg dan y teitl Baich ar label Gwynfryn. Erbyn hynny newidiodd yr aelodaeth i Ellen Roberts (llais), Sion Llwyd (bas a llais), Eilir Jones (gitarau ac allweddellau) a Dei Elfyn (drymiau a llais).

Byd Newydd oedd Dafydd Roberts (bas, llais, harmonica), Carwyn Griffith (drymiau, llais) a Bobs (Huw Pritchard, gitar a llais). Cafwyd 8 cân ar y caset hwn. Mae’n debyg fod yr albwm “Byw Mewn Ofn” wedi ei recordio yn fyw yn Stiwdio Ofn gan Gorwel Owen. Yn 1992, bu i’r grwp hefyd ryddhau caset ar label crai, sef Roced Ryan Giggs.

Dom. Mae yna 10 o ganeuon ar y caset hwn. Aelodau’r grwp oedd Siôn Williams (prif lais a gitâr), Rhodri John (drymiau), Rhodri Llywelyn (gitâr fas). Dyma efallai y caset hefo’r teitl hiraf erioed yn y Gymraeg – “Inmudeelsareinclaynoneareinpinetarisinoaknoneare“. Mae’n debyg fod Fflach yn egluro’r teitl fel rhywbeth deheuol fyddai taid ochr mam Sion yn ei ddweud! Roedd y caset hwn yn un o bedwar albwm ryddhaodd Dom i Fflach rhwng 1992 a 1995.

Tonfedd Oren

Feydeau, llefarydd y grwp!
Feydeau

Mae’r byd yn ddisglair. Mae’r byd yn oren.

Grwp gymharol anadnabyddus yw Tonfedd Oren (er iddynt gael rhyw faint o sylw ar Radio Cymru ac yn y wasg Gymreig), sef deuawd y gitarydd Rhys Williams a’r offerynwr electroneg John Brenton, ynghyd â chi Ffrengig dychmygol o’r enw Feydeau sy’n lefarydd ar ran y grwp mae’n debyg! Mae nhw’n ymddangos yn reit ddirgel rhywsut – dim lluniau o’u hunain, dim ond ambell i lun o Feydeau.

Mae nhw’n cynhyrchu cerddoriaeth dawns electroneg, ac wedi rhyddhau nifer o draciau dros y blynyddoedd. Bu iddynt gyfarfod gyntaf tra’n fyfyrwyr yn Aberystwyth. Mi fuont yn recordio rhai caneuon dan yr enw Southville am sbel, cyn mynd eu ffyrdd eu hunain am gyfnod.

Daethant i amlygrwydd eto fel Tonfedd Oren yn 2012 wedi iddynt ryddhau record saith modfedd feinyl oren, yr unig un oren i mi weld yn y Gymraeg dwi’n credu. Rhyddhawyd hon drwy Norman Records, nifer cyfyngedig o 300 copi, a mae hi’n dal ar gael am £1.99 o https://www.normanrecords.com/records/135804-tonfedd-oren-tonfedd-oren . Wrth gwrs, mi wnes i dalu bron i ddwbl hynny am gopi ail law gan werthwr ar y we cyn sylweddoli bod yr EP wreiddiol yn dal ar gael gan Norman Records…

3 thrac sydd ar yr EP dwbl A-ochrog:

A1 Tonfedd Oren
AA1 Tonfedd Oren (demo)
AA2 Anghofia Ddoe

William Jones
William Jones

Hefyd, bu i’r grwp ryddhau sengl dan y teitl Pi yn y flwyddyn 2012. Teyrnged oedd hon i’r mathemategydd o Ynys Môn, William Jones, a gyflwynodd y symbol Pi (π) i’r byd yn 1706 yn ei lyfr Synopsis Palmariorum Matheseos (Cyflwyniad Newydd I’r Fathemateg), blwyddyn cyn geni y mathemategydd o’r Swisdir, Leonhard Euler, sy’n aml yn cael y gydnabyddiaeth am gyflwyno’r symbol i’r byd mathemategol.

Gallwch glywed mwy o’u cerddoriaeth ar wefan Soundcloud – chwiliwch am “Tonfedd Oren”.

Un o brosiectau arall Rhys Williams oedd Gofodwyr – gallwch glywed ambell drac ganddynt ar Soundcloud hefyd.

Y llynedd, rhyddhawyd deg o draciau Tonfedd Oren fel casgliad ar wefan Bandcamp, dan y teitl Dogfen. Daeth hyn a’r senglau a chaneuon unigol Tonfedd Oren at ei gilydd mewn un lle. Gallwch brynu copi digidol drwy’r dudalen Bandcamp dan y drefn “name your price” – chi sy’n penderfynu faint i’w dalu. Neu, gallwch wrando cyn prynu fel arfer ar Bandcamp. https://tonfeddoren.bandcamp.com/releases

Dyma’r caneuon sydd ar Dogfen:

01 – Planedau (edit)
02 – Anghofia Ddoe
03 – 80au
04 – Pi
05 – Tonfedd Oren

06 – Cymdeithas Y Sbectol Haul
07 – Planedau
08 – Bwrw Haul
09 – Tonfedd Oren (demo)
10 – Tonfedd Oren (First Attempt)

Mae’r EP a dwy sengl arall (Cymdeithas Y Sbectol Haul a Planedau) hefyd ar gael i wrando ar Spotify.

Dyma luniau o’r record oren – oes gennych Sbectol Haul yn barod?

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni