Newydd dderbyn copi o lyfr hefo’r teitl “Gwreiddiau Canu Roc Cymraeg”.
Cafodd ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Mei ‘nôl yn 1981 am y pris mawr o £1, er i mi dalu ychydig mwy na hynny am gopi ail law!
Fe seilwyd y llyfr ar gyfres o sgyrsiau a gynhyrchwyd gan Eurof Williams ar gyfer BBC Radio Cymru yn 1976, hefo Geraint Jarman, Dafydd Iwan, Meic Stevens, Dewi Pws, Endaf Emlyn a Hefin Elis, rhai o sêr y byd canu pop ar y pryd. Fe drosglwyddodd Janet Hudson y sgyrsiau o’r tapiau i bapur ar gyfer y llyfryn 59 tudalen hwn.
Mae’n llawn gwybodaeth diddorol am y cyfnod, a cheir nifer o gyfraniadau gan enwogion eraill o’r cyfnod, pobl fel Hywel Gwynfryn, Hefin Wyn (newyddiadurwr), Eric Dafydd (o’r Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog), Cleif Prendelyn (Clive Harpwood o’r grwp Edward H Dafis), Delwyn Siôn, Eleri Llwyd ac Alun Sbardun Huws.
Allan o brint erbyn hyn wrth gwrs, ond llawn gwerth ei brynu os cewch chi gyfle i’w bryn’n ail law.
Cangen Gymraeg o Community Music Wales/Cerdd Gymunedol Cymru yw Ciwdod. Fe’i sefydlwyd yn 2004 er mwyn cefnogi, hyfforddi a recordio artistiaid Cymraeg eu hiaith.
Cyn hynny, ‘nol yn 1989, daeth criw o gerddorion o Gaerdydd i gyfarfod cyhoeddus, a sefydlwyd Cardiff Community Music. Cafodd ei gofrestru fel elusen yn 1991, a newid ei enw i Community Music Wales (Cerdd Gymunedol Cymru) yn 1992. Sefydlwyd Complete Control Music yn 2000 i roi cyfle i gerddorion o’r cymunedau Cymreig hybu a datblygu eu gwaith. Yn 2002 fe gychwynwyd label recordio gymunedol Saesneg, Complete Control Music, oedd hefyd yn helpu trefnu mannau perfformio ar gyfer y cerddorion.
Elusen yw Community Music Wales, a gafodd arian cyhoeddus dros y blynyddoedd i’w alluogi i wneud y gwaith a chyflogi swyddogion. Bu ganddynt swyddfeydd mewn gwahanol rannau o Gymru dros y blynyddoedd, gyda’r brif swyddfa yn y Tyllgoed (Fairwater), Caerdydd.
Yn 2004 penderfynwyd sefydlu label Ciwdod i hybu, hyfforddi a rhyddhau cerddoriaeth gan artistiaid Cymraeg eu hiaith. Cymaint fu’r llwyddiant, wedi ond blwyddyn fe ddominyddwyd 11 or 12 adran o wobrau pop a roc Radio Cymru gan artistiaid fu’n ymwneud â Ciwdod!
Ystyr y gair Ciwdod yw “llwyth”, “cenedl” neu “torf”, o’r Gymraeg canol “kiwdawt”. Grwp o bobl yn cydweithio, dewis gofalus ac addas o enw i’r label.
Rhwng 2005 a 2011, rhyddhawyd 16 o gryno-ddisgiau a recordiau – senglau ac EPs – gan nifer o artistiaid Cymraeg newydd, gan orffen hefo CD 16 trac hefo un gan yr un gan o bob un o’r recordiau/cds, dan y teitl “Rwy’n Caru Ciwdod: Senglau 2004-2010”, sydd yn dal ar gael ar blatfformau digidol fel Spotify.
Wrth edrych yn ôl, mae’n debyg na ryddhawyd rhif CIW 005 am rhyw reswm, ond hefyd ar y casgliad Caru Ciwdod ceir can gan y Zimmermans hefo’r teitl “XXY” na ymddangosodd ar label Ciwdod hyd y gwn i.
Rhyddhawyd y rhan fwyaf o’r cryno-ddisgiau mewn cloriau cardfwrdd brown hefo sticeri teitl arnynt, fel y gwelwch o’r lluniau ar y dudalen. Roedd hyn yn rhoi rhyw uniaeth a thebygrwydd i’r gyfres gyfa.
Dyma restr o’r pethau ryddhawyd ar label Ciwdod dros y blynyddoedd:
CIW 001 Drymbago-Anian/Llawer Gwaith (2005) CD CIW 002 Poppies-Dau Bys/Cam/Sex Sells (2005) CD CIW 003 Cofi Bach A Tew Shady-Bach A Tew (2005) EP,12″ Caneuon: Gad Fi Fod/Isho Bod Yn Rhywun/Annoeth/Ffraeo CIW 004 Bob-Defaid/Gwobr/Celwydd Golau Dydd (2005) CD CIW 005 ? CIW 006 Radio Luxembourg-Pwer Y Fflwer/Lisa, Magic a Porva (2005) CD CIW 007 Wyrligigs-Rocyrs Cymraeg/Gwrthgymdeithasol/Dave Y Jynci (2006) CD CIW 008 Plant Duw-Talach Na Iesu/Nerth Dy Draed (2006) CD CIW 009 Clinigol-Eiliad/Am Wastraff/Golau (2006) CD CIW 010 Threatmantics-Don’t Care/Stoogie/Esgysion (2007) CD CIW 011 Derwyddon Dr Gonzo-K.O./Madrach (2007) CD CIW 012 Plyci-Blodau/Adar/Slywen (2007) CD CIW 013 Dybl-L-Gesha Pwy Sy’ Nôl/Ochr Tywyll/Gesha Pwy Sy’ Nôl (A Capella) (2007) sengl 12″ CIW 014 Stilletoes-Sownd/Y Gwir (2008) sengl 7″ lliw pinc CIW 015 Yr Ods-Defnyddio/Chwyldrofeistr (2008) CD CIW 016 Creision Hud-Ffyrdd Gwyrdd/Dianc (2011) CD CIW 017 Amrywiol-Rwy’n Caru Ciwdod-Senglau 2004-2010 (2010)
Grwp Cymraeg eu hiaith o Melbourne, talaith Victoria, Awstralia yw Pendragon Dreaming, sy’n defnyddio cyfuniadau o’r delyn, ffliwt, allweddellau, ffidil, gitar acwstig, bâs acwstig ac wrth gwrs didgeridoo Awstraliaidd.
Maent yn defnyddio arddull canu traddodiadol Cymreig i greu cymysgedd amrywiol o seiniau a rhiddmau.
Fe ddechreuodd gwreiddiau y grwp ddipyn dros ddegawd yn ôl, fel deuawd yn chwarae mewn Prynhawniau Llawen Cymreig anffurfiol yn Melbourne. Cyn hir, ymunodd trydydd aelod ac fe gawsant wahoddiad i berfformio yn y Cyngerdd Dydd Gwyl Ddewi. Erbyn 2008 tyfodd i grwp i fod yn bedwarawd dan yr enw Pendragon Dreaming – ‘roedd y ddraig yn dechrau deffro go iawn! Mae eu gwefan ar www.pendragondreaming.com yn esbonio eu bod wedi ceisio codi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth a diwylliant Gymreig a deallt cyn lleied o ymwybyddiaeth ohono oedd tu allan i Gymru ar y pryd.
Mae gwefan y grwp yn esbonio’r enw fel cyfeiriad at hen frenhinoedd Celtaidd a Chymreig, ac yn enwedig Arthur Pendragon, a’r gair “Dreaming” fel cydnabyddiaeth o’r cysylltiad Awstralaidd gyda chynnwys y didgeridoo fel un o offerynnau y grwp.
Yn 2008, fe ryddhawyd cryno-ddisg â’r teitl “Dan Awyr Dde” (‘Neath Southern Skies), sy’n cynnwys deg o ganeuon traddodiadol Gymreig, y rhan fwyaf yn cael eu canu yn y Gymraeg.
Aelodau’r grwp ar y pryd oedd:
Peter ‘Pedr’ Bonnell – llais, gitâr, didgeridoo Jane ‘Sian’ Brion – Llais, ffliwt, offer taro Faleiry Koczkar – llais, telyn Gavin Keen – llais, bâs, bodhran ac offer taro.
Roedd y grwp yn dal i berfformio yn achlysurol mewn digwyddiadau Cymreig yn Awstralia mor ddiweddar a 2018, ac wedi cymeryd rhan mewn rhaglen ar Radio Cymru ddechrau 2015. Mae ganddynt dudalen Facebook ar https://www.facebook.com/Pendragon-Dreaming-135873726488488/
Dwi mor falch o fod wedi gallu cael copi o’u cryno-ddisg i ychwanegu at fy nghasgliad recordiau Cymraeg.
Fe gollwyd un arall o sêr y byd pop Cymraeg, Charli Britton, fu’n enwog fel drymiwr a dylunydd graffeg.
Bu farw’n 68 oed. Fel drymiwr gydag Edward H Dafis yr adnabyddwyd ef orau, ond fe fu’n perfformio gyda nifer o artistiaid a grwpiau eraill, fel Ac Eraill, Dafydd Iwan ac Injaroc. Ymddangosodd ei enw fel drymiwr ar nifer o recordiau Cymraeg o’r 70au ymlaen. Bu’n ddrymiwr sesiwn ac yn diwtor drymiau hefyd.
Fe’i annwyd yng Nhaerdydd, cael ei addysg yn ysgol Rhydfelen ac yna astudio graffeg yn Llundain. Fe gynlluniodd gloriau nifer o recordiau Cymraeg, gan gynnwys rhai o recordiau Edward H Dafis, a chyfranu llawer fel dylunydd yn y byd cyhoeddi Cymraeg trwy ei waith gyda’i gwmni dylunio yng Nghaernarfon.
Trydarodd cwmni Sain fel hyn amdano: “Rydym yn meddwl am deulu a chyfeillion Charli Britton heddiw. Colled fawr i Gymru ac i gerddoriaeth Cymru yw colli Charli – un a wanaeth gyfraniad enfawr. Dewin y drymiau. Diolch amdano.”
Dyna deitl y casgliad hwn o 20 o ganeuon dawns a synth gan Tanwen o Lambed (Llanbedr Pont Steffan) ar label R-Bennig eleni. Cymysgedd o ganeuon hefo teitlau Saesneg a Chymraeg. Dim ond £5 yw’r gost, a rhif y CD yw R-BEN 271.
Yn ol nodiadau ar wefan y label, mae’n debyg yr oedd gan Tanwen awtistiaeth a rhai cyflyrau iechyd eraill. Mae’n debyg iddi farw yn ddiweddar, ond wedi bod yn gynhyrchiol iawn yn ei misoedd olaf yn gyrru llawer o draciau i’r label eu cyhoeddi – gallwch wrando ar nifer ohonynt ar dudalen Bandcamp y label. Ceir rhai EPs, LPs a chaneuon unigol y gallwch wrando arnynt cyn eu prynu arlein.
Y trac olaf ganddi oedd y sengl “Cymreictod” a ryddhawyd ar y 6ed o Awst eleni.
Calwr cefn y CD
Mae arddull dawns, weithiau’n mynd i gyfeiriad techno, synth pop ac ambell i gân arbrofol eu naws ar y CD hon, ynghyd a Synth Pop cyffredin weithiau. Peidiwch a gadael i’r teitl “Funny Sounds From Wales” eich troi rhag gwrando ar hon. Mae bît cryf i’r gwaith drymiau electroneg ar nifer o’r caneuon, sy’n offerynnol gan fwyaf, gydag ambell i gyfraniad llais a llawer o effeithiau sain o’r synth. Dwi’n arbennig o hoff o’r drymiau ar y nawfed gân, sef “Crynchi”, ond mae dipyn o amrywiaeth i rai o’r caneuon. Ceir arddull arafach a dyfnach yn y gân “Bodycon Fail”, er enghraifft
Mae yna dalent amlwg yma a phiti ein bod wedi ei cholli’n ifanc.
Ychydig dros fis ar ôl colli ei frawd Wyn, bu farw y canwr Richard Jones.
Bu iddynt gychwyn y grwp Ail Symudiad yn 1978 yn Aberteifi ac i bob pwrpas dod a’r byd canu pop Cymraeg i Aberteifi.
Sefydlodd y ddau y cwmni recordiau Fflach yn 1981, sydd wedi parhau hyd heddiw. Cwmni ac unigolion wnaeth gymaint o waith i feithrin cerddoriaeth Gymraeg yn yr ardal a thu hwnt.
Dwi wedi sôn eisoes am y llun-ddisg mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg, sef Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones.
Erbyn hyn, mae dwy arall wedi’w cyhoeddi gan R-Bennig ar eu is-label SWSH.
Llun-ddisgiau R-Bennig/SWSH.
Y cyntaf ohonynt yw’r ail i’w rhyddhau ar y label SWSH, sef trac na chafodd ei ryddhau o’r blaen – Ysgafnach Na Dwr gan Waw Ffactyr gyda Rachel Carpenter. Cân eithaf swynol yn arddull Waw Ffactyr.
A’r nesaf yw Ai Ai Soul Boi! gan Johnny And The Mom Jeans. Un arall o “aliases” Johnny R dwi’n meddwl. Dwy gân yn arddull cyfarwydd (a gwahanol!) Johnny.
Recordiau feinyl un ochr yw’r rhain, un gân ar y gyntaf a dwy ar yr ail. Dim print ar y recordiau, dim ond y llun mewn feinyl clir, a label syml ar y clawr clir plastig.
Mae’n rhaid bod y label hon yn un o rai mwyaf gweithgar Cymru, gyda nifer uchel iawn o bethau wedi eu rhyddhau yn 2021.
Trist iawn oedd clywed eto heddiw am golli un arall o enwogion y byd pop Cymreig, Wyn Jones.
Roedd yn adnabyddus ers yr 80au fel gitarydd bas y grwp Ail Symudiad a sefydlwyd yn 1978, gyda’i frawd Richard. Roedd hefyd yn weithgar gyda’r label recordio Fflach, fel cynhyrchydd, trefnydd a pheiriannydd ers 1981.
Yn 1982, derbyniodd Ail Symudiad wobr y prif grwp roc yn noson wobrwyo y cylchgrawn Sgrech. Cafodd y brodyr eu hurddo gyda’r wisg werdd yn Eisteddfod Mon, 2017.
Yn 2014, cyhoeddodd Y Lolfa lyfr gyda’r teitl “Fflach O Ail Symudiad”, sef stori Richard a Wyn.
Mewn datganiad ar dudalen Facebook y grwp heno, dywedwyd: “Gyda chalon trwm, i ni’n drist iawn i ‘weud bod Wyn wedi colli ei frwydr hir a dewr gyda chancr y pancreas heddi. Diolch i bawb am y negeseuon caredig a’r llunie lyfli – mae’n cynhesu calon i weld shwt gwmynt wedd e’n meddwl i bawb. Bydd bywyd ddim run peth heb ei sbort, dwli a’r bass lines.”
Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd, “ers diwedd y nawdegau mi oedd David wedi bod yn brwydro gyda phroblemau salwch meddwl a oedd yn boenus a hunllefus ar adegau.”
Fel prif leisydd y grwp Datlblygu, bu’n flaenllaw yn y byd canu cyfoes Cymraeg ers ffurfio’r grwp yn 1982. Bu’n gawr o ffigwr, yn dipyn o eicon i’r byd canu poblogaidd Cymraeg am flynyddoedd.
Dave a T. Wyn Davies ffurfiodd y grwp, tra yn ysgol uwchradd Aberteifi, gyda Pat Morgan yn ymuno yn 1984. Gadawodd Wyn Davies yn 1990 a parhaodd David a Pat i berfformio fel deuawd am sbel, cyn i gerddorion eraill ymuno yn ddiweddarach, cyn chwalu yn 1995. Ciliodd rhag perfformio am ychydig flynyddoedd i gael triniaeth am broblemau iechyd meddwl. Er y cafwyd ambell i record arall o bryd i’w gilydd wedi hynny.
Wedi iddynt ddod i sylw John Peel yn yr wythdegau, cafodd y grwp recordio pum sesiwn i’w raglen Radio 1, ddaeth a hwy i sylw gwladol a rhyngwladol. Mae’n debyg fod dylanwad Datblygu wedi gwneud i John Peel ddisgrifio y grwp a’u cerddoriaeth fel rhywbeth oedd yn codi awydd arno i ddysgu Cymraeg.
Rhyddhaodd y grwp bedwar o gasetiau cynnar ar label Casetiau Neon (Malcolm Gwyon, Aberteifi) yn 1983 ac 1984 (“Amheuon Corfforol”, “Trosglwyddo’r Gwirionedd”, “Fi Du” a “Caneuon Serch I Bobl Sorchog”), gan hefyd gyfrannu caneuon i gasgliad “Y Gorffennol I’r Presennol” yn 1984.
Cloriau casetiau Datblygu ar label Neon.
Yna, symud i label Anhrefn i ryddhau “Hwgr-Grawth-Og” (1986) a “Wyau” (1988), cyn symud i label Ofn (Gorwel Owen) rhwng 1988 a 1990 i ryddhau “Pyst” a “Pop Peth”.
Cloriau Datblygu ar label Anhrefn
Cloriau recordiau Datblygu ar label Ofn.
Yna symud i label Ankst a rhyddhau nifer o recordiau o 1991 ymlaen, gyda’r olaf yn ymddangos yn 2020 yn ystod y cyfnod clo, dan y teitl Cwm Gwagle.
Cloriau Datblygu ar label Ankst
Cafodd rhai o’r recordiau au hail-gyhoeddi gan gwmniau eraill hefyd, fel Hate Records yn yr Eidal. Ymddangosodd caneuon y grwp ar sawl casgliad dros y blynyddoedd.
Yn 2009 fe ryddhaodd ei hunangofiant dan y teitl Atgofion Hen Wanc, a gyhoeddwyd gan Y Lolfa.
Yn aml yn feirniadol o awdurdod ac yn gwthio’n erbyn hynny, roedd yn awyddus i lusgo’r sin gerddoriaeth Gymraeg i’r oes fodern ac mi fyddai pawb yn barod i gydnabod ei ddylanwad a’i waith a’i gyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg ers yr wythdegau.