Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen.
Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel, sydd wedi cymeryd diddordeb mewn recordiau Cymraeg. Dywedodd fod ganddo dipyn o recordiau Cymraeg a bod diddordeb arbennig ganddo yn recordiau cwmni Sain ac R-Bennig (y grwp A5 yn enwedig o’r label honno).
Dywedodd ei fod hefyd yn dipyn o ffan o’r grwp Llwybr Llaethog.
Mi gyfeiriais o at gopi o’r Ddisgyddiaeth iddo gael rhestr eithaf cyflawn o recordiau Cymraeg a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd. Da gweld bod cerddoriaeth Gymraeg yn gallu denu diddordeb dros y byd i gyd, a bod y blog yn cyrraedd yn bellach na feddyliais!
Un o’r pleserau o gasglu recordiau ydi derbyn rhywbeth diddorol ond annisgwyl.
Yn yr achos yma, cerdyn post (lluniau isod) i archebu catalog recordiau cwmni Delyse, o 1962. Mi ddaeth hwn hefo record o 1959, sef “Beethoven – Scottish, Irish, Welsh and English Songs” (Delysé ECB 3153, hefyd ar Envoy DS 6053).
Yn ôl nodiadau Marie Tobin ar y clawr, cerddoriaeth a gyfansoddwyd o ganlyniad i’r berthynas rhwng Beethoven a’r cyhoeddwr cerddoriaeth a’r casglwr caneuon o’r Alban, George Thomson, rhwng 1803 a 1820 sydd ar y record hon. Mae’n debyg bod Beethoven wedi cyfansoddi tua 150 o ddarnau ar gyfer Mr. Thomson, nifer ohonynt yn osodiadau o felodiau o’r Alban, Lloegr, Iwerddon a Chymru. Ceir cân o’r enw “Vale Of Clwyd” ar y record hir, er enghraifft.
Geiriau’r gân “Vale Of Clwyd”
Rhywbeth bach digon syml yw’r cerdyn, ond eto’n dangos bod a y fath beth a chatalog i’w gael o recordiau Delysé bryd hynny. Dim yn gorfod talu am gludiant o gwbl hefo’r cerdyn rhadbost.
Diddorol – hyd yn oed yn 1962 mi oedd rhaid i chi ofyn am gael eich rhoi ar restr fasnacha y cwmni, cyn unrhyw Data Protection Act na dim felly.
Y cwestiwn nesaf: ysgwn i os oes rhywun â chopi o’r catalog, i ni allu llenwi’r bylchau yn nisgyddiaeth y cwmni?
Gobeithio bod rhywun yn rhywle yn cadw rhyw fanion fel y cerdyn hwn i gofio a chofnodi hanes y byd recordiau Cymraeg cynnar yn y ’50au a’r 60’au. Fel rhyw fath a archif recordiau a cherddoriaeth Gymraeg.
Cyn i neb weiddi “creulondeb i adar”, ga’i bwyntio allan mai sôn am gasgliad o recordiau y grwp Brân o’r saith-degau sydd gen i dan sylw yma.
Grwp roc o’r ’70au oedd Brân, a recordiodd ambell i gân werin hefyd.
Fe aeth y grwp drwy ambell i “line-up” yn eu hamser, tan iddynt ddod i ben yn 1979.
Dechreuodd y grwp yn 1974, gyda John Gwyn o Fethesda, Gwynedd (gitar a llais, fu’n aelod drwy fywyd y grwp), Nest Howells o Sir Fôn (llais, mam Elin Fflur!), Gwyndaf Roberts (bâs) a Keith Snelgrove (drymiau). Cyn hynny, roedd John, Gwyndaf a Keith wedi bod mewn grwp crefyddol o’r enw Atgyfodiad gydag Arfon Wyn. Mi wnaethant ryddhau un EP pedair cân ar label Sain yn 1974, gafodd ei recordio yn stiwdio Rockfield dros ddwy noson. Yr un pryd ag yr oedd y stiwdio’n cael ei defnyddio yn ystod y dydd gan frawd Mick Jagger, Chris. A phwy oedd gitarydd Chris ond Dafydd Pierce, wedi treulio peth amser yn chwarae i grwpiau yn America, a fyddai’n ymuno â Bran yn ddiweddarach.
Daeth Brân dan adain Eurof Williams ac Eric Dafydd, oedd yn gweithio i’r BBC fel technegwyr sain ar y pryd ac yn awyddus i ddechrau label recordiau Cymraeg. Yn 1974 fe ryddhawyd unig EP y grwp Brân ar label gwmni Gwawr o Lanerchymedd, Môn. Pedair cân, gan gynnwys Gwynant, Colled, Tocyn ac Yr Alltud. Faint ohonom sydd ddigon hen i gofio dawnsio i’r gân Tocyn mewn disgos neuaddau cefn gwlad yn y ’70au, tybed?
Tua diwedd 1974, fe adawodd drymiwr y grwp, Keith Snelgrove, i ganolbwyntio ar ei waith fel DJ a llogi offer disco. Mae’n debyg iddo werthu ei ddrymiau i frawd Gwyndaf Roberts, Dafydd, a ymunodd â Brân fel drymiwr.
Yn 1975 bu Brân yn llwyddiannus yng nghystadleuaeth Cân I Gymru gyda’r gân “Caledfwlch”, a gyfansoddwyd gan Gwyndaf Roberts. Yna ennill yn yr wyl Ban-Geltaidd yn Killarney, Iwerddon yr un flwyddyn, gan guro y grwp Gwyddelig enwog Clannad o bawb!
Hefyd ym mis Tachwedd 1975 daeth record hir gyntaf Brân ar label Sain, un o’r recordiau pop cyntaf i’w recordio yn y stiwdio 8-trac yng Ngwernafalau, Llandwrog. Er nad yw John Gwyn yn ymfalchio llawer yn safon y record Ail Ddechra erbyn hyn, mi oedd yn glasur poblogaidd ar y pryd ac erbyn hyn yn rhan bwysig o unrhyw gasgliad recordiau Cymraeg, gyda’i chasgliad o ganeuon roc a gwerinol. Mae’n rhaid ei bod yn glasur o record – mae’n gwerthu’n ail-law am rhwng £300 a £750 ar farchnad recordiau Discogs, sy’n dipyn o gamp i record Gymraeg, er bod fersiynnau ar CD ar gael erbyn hyn. Dwi’n falch o allu dweud fod fersiwn feinyl o’r record wedi’w ail-ryddhau gan Rise Above Relics (RARLP016) yn 2018, a bod hon yn gwerthu am dipyn llai, tua £18, y dyddiau hyn!
Ddechrau 1976, fe chwalodd y grwp, ac aeth Gwyndaf a Dafydd ymlaen i ffurfio y grwp gwerin Ar Lôg, tra’r ymunodd Paul Westwell (drymiau) a Dafydd Pierce (gitâr) â Bran i roi ychydig o ddylanwad “West Coast” America i’r grwp.
Daeth eu hail record hir allan yn 1976, dan y teitl Hedfan, eto ar label Sain. Hyd heddiw, ceir adolygiadau positif iawn o’r record hon gan rhannau o’r wasg Eingl-Americanaidd, ac efallai mai dyma’r record y cofir Brân amdani orau. Mae’r record hon yn gwerthu’n gyson am brisiau yn y cannoedd hefyd, o £120 i £300 ar Discogs, er enghraifft.
Cyn hir, fe newidiodd y grwp unwaith eto. Gadawodd Nest, Paul a Dafydd. Yn eu lle daeth Louis Thomas (bâs a llais), Len Jones (gitâr) a Bryan Griffiths (drymiau). Cafwyd mwy o bwyslais ar ganeuon roc ac ambell i gân pync gan mai dyna oedd swn y cyfnod. Yn 1978 aeth y grwp i stiwdios y BBC yn Maida Vale, Llundain a recordio’r record hir Gwrach Y Nos, a ryddhawyd ar label Sain. Un o’r caneuon ar y record hon oedd Angel Ble Wyt Ti, a ennillodd cystadleuaeth Cân I Gymru yn 1978.
Tua blwyddyn wedi hynny, daeth y grwp i ben pan symudodd John Gwyn i weithio yng Nghaerdydd. Fe wnaeth y tri arall ddal i berfformio hefo grwpiau Cymraeg fel Maggs a Louis A’r Rocyrs yng Ngwynedd.
Aeth nifer o gyn-aelodau y grwp i fyd teledu, gan gynnwys John Gwyn a fu’n gynhyrchydd ar y gyfres teledu The Tube. Erbyn heddiw, bu Dafydd Roberts yn brif-weithredwr cwmni Sain tan yn ddiweddar.
Wedi poblogrwydd y grwp yn y saithdegau fel un o’r grwpiau roc cynnar bythgofiadwy, ‘doedd dim syndod felly bod cwmniau eraill wedi cymeryd mantais o’r sefyllfa a dechrau ail-ryddhau eu recordiau.
Yn 2017 fe wnaeth label Pig Pink yn Ne Korea ail-ryddhau “Ail Ddechra” ar CD (rhif BigPink 482). Hefyd, daeth copi o Hedfan ar yr un label (BigPink 452). Ceir copiau answyddogol o Hedfan ar y gyfres Breeder Backtrack (Breeder 1070M). Daeth Gwrach Y Nos allan ar label Big Pink hefyd (BigPink 494).
Yna, yn 2018, fe ddaeth casgliad cyfan o recordiau Brân allan ar label Rise Above Relics, rhan o label Rise Above Records. A dyma’r box-set sydd dan sylw heddiw. Neu yn hytrach na box-set, efallai y dyliwn ddweud nyth Brain o gryno ddisgiau? Tair cryno-ddisg, yn cynnwys y tair record hir, sengl Brân a sengl Atgyfodiad.
Cwmni a sefydlwyd gan Lee Dorrian, cyn-leisydd y grwp Napalm Death, yn 1988 oedd Rise Above Records. Dechreuodd hefo ambell i record pync ac yna roc.
Daw y set o dair cryno-ddisg mewn bocs bach du fel y frân, hefo llyfryn Saesneg 40 tudalen a ysgrifennwyd gan David Wells. Ceir lot o hanes am y grwp, yn ogystal a lluniau o’r cyfnod a thoriadau o erthyglau o’r gweisg Cymraeg a Saesneg dros y blynyddoedd. Mae’r tair CD hefo clawr cardfwrdd eu hunain wedi eu printio fel y tair record hir gwreiddiol. Ceir y ddwy sengl a soniais amdanynt ar y ddisg gyntaf.
Erbyn hyn, nid byd bach cyfyng ydi canu Cymraeg. Mae ar gael i’r byd a mae dipyn o werthiant recordiau a chryno-ddisgiau Cymraeg dros y dwr i wledydd eraill. Mae’n beth da bod cwmniau fel hyn mor barod i arddangos y byd pop Cymraeg i’r byd.
Sain 41E, Atgyfodiad (aelodau cynnar Brân gydag Arfon Wyn). EP pedair cân. 1974 Gwawr 104, Gwynant. 1974 Sain 1038M, Ail Ddechra. Record hir, 12 cân. 1974 Sain 1070M, Hedfan. Record hir, 10 cân. 1976 Sain C570N, Hedfan. Caset. 1976 Breeder Backtrack 1070, Hedfan. Record hir answyddogol. 1976 Sain 1120M, Gwrach Y Nos. Record hir, 10 cân. 1978 Sain C720N, Gwrach Y Nos. Caset. 1978 Big Pink 482, Ail Ddechra. CD. 2017 Big Pink 452, Hedfan. CD. 2017 Big Pink 494, Gwrach Y Nos. CD. 2017 Rise Above Relics RARLP016, Ail Ddechra. Record hir (ail-gyhoeddiad). 2018 Rise Above Relics RARCDBOX014 Set gyfan o’r recordiau ar gryno-ddisgiau. 2018
Bum yn ffodus i daro ar draws y caset eithaf prin hwn ychydig wythnosau yn ôl fel rhan o gasgliad bach o recordiau a chasetiau a brynais adeg hynny. Dwi heb weld y caset arbennig hwn na’r artist, Ffilis Huws (a anwyd yn Phyllis Hughes), o’r blaen.
Sgan o glawr y caset
Caset a gyhoeddwyd ar label D@Music o Lannon, Llanelli ‘nôl yn 2001 oedd hwn. Ceir deuddeg o ganeuon gweddol draddodiadol, yn cynnwys cwpl o ganeuon Dafydd Iwan (Hawl I Fyw a Hen Hen Hiraeth) ac ychydig o emynau fel “Mi Glywaf Dyner Lais” (Sara). Cymraeg yw’r mwyafrif o’r caneuon, gyda dwy gân Saesneg.
Ceir cyfeiliant telyn (Bethan Williams), allweddellau (Christopher Davies), offerynnau taro (Simon Davies), ffliwt (Alun Williams), gitar a bâs (Gareth Gravel), yn ogystal a llais cefndir gan Geinor Haf.
Ganwyd Ffilis yn ardal Llandyfaelog, Sir Gâr ac erbyn bod ond pump oed, roedd eisoes wedi ennill ei gwobr gyntaf mewn eisteddfod leol.
Erbyn iddi gyrraedd 25 oed, roedd wedi ennill 120 gwobr yn lleol a chenedlaethol. Bu’n brysur yn canu bron bob penwythnos. Astudiodd yng Ngholeg Y Drindod, Caerfyrddin ac yna bu’n athrawes ym Mhen Y Bont Ar Ogwr cyn priodi a symud i Lundain, ble canodd rhannau blaenllaw mewn nifer o operau.
Ymfudodd y teulu i’r Dwyrain Pell yn sgil gwaith bancio ei gwr, lle cymerodd Ffilis ran blaenllaw gyda’r cymdeithasau Cymraeg yn Singapore a Malaysia, ac arwain côr merched Prydeinig yno.
Y “Welsh lady”
Wedi peth amser yn y Dwyrain Pell, symudodd i Gaeredin yn Yr Alban, lle cafodd gyfle i gyfuno siarad cyhoeddus a cherddoriaeth tra’n hybu enw Cymru yno.
Bu’n ysgrifennu’n fisol i bapur Ninnau Gogledd America dan y ffugenw “The Welsh Lady”.
Symudodd yn ôl i Gymru a rhyddhau’r caset hwn yn 2001.
DATMC 196/DATCD 196 – “Ffilis” (Caset, 2001)
A1 Diolch A2 Hiraeth A3 Ar Hyd Y Nos A4 Llansteffan A5 Hawl I Fyw A6 Sara
B1 Hen, Hen Hiraeth B2 Ani B3 Iesu Cofia’r Plant B4 My Little Welsh Home B5 Cartref B6 Eli Jenkins’ Prayer
Nid erthygl am ddillad isaf dynion, ond yn hytrach am label recordiau grwp Y Ficar o ardal Y Felinheli yng Ngwynedd.
Fe ffurfiwyd y label yn unswydd i ryddhau tair o recordiau a chasetiau y grwp rhwng 1983 ac 1985.
TRONS 001 – sengl, 1983 “5 Diwrnod”. Recordiwyd yn Stiwdio’r Bwthyn, Ystradgynlais. Cynhyrchydd Richard Morris. Ochr A – 5 Diwrnod Ochr B – Aberdaron
TRONS 002– record hir a chaset, 1984 “Yn Dal I Gredu”. Recordiwyd yn Stiwdio’r Felin, Y Felinheli. Cynhyrchydd: Len Jones.
A1 – Perlau A2 – Troi’r Olwyn A3 – Y Gwenith Gwyn A4 – Oddi Mewn
B1 – Be’ Sy’n Mynd Ymlaen B2 – Propaganda B3 – Rhy Hwyr B4 – Lliw Haul
TRONS 003 – caset, 1985 “(Saith Norman (Ar Lan Y Môr)”. Recordiwyd yn Stiwdio’r Felin, Y Felinheli. Cynhyrchydd: Len Jones
A1 – Fel Cyffur A2 – Taro Bargen A3 – Tynnu Lawr A4 – Pethau Cain
B1 – Fel Yna Mae Hi Weithiau B2 – Cei Felinheli B3 Lawr Ar Y Cei
TRONS003 – Saith Norman (Ar Lan Y Môr)
Grwp hwyliog yn chwarae dipyn o ganeuon reggae a ska oedd Y Ficar. Roedd eu swn yn cynnwys offerynnau pres fel sacsoffôn a thrwmped ac allweddellau. Mi wnaethant recordio i Sain a Fflach yn ogystal a Trons. Mi wnaeth y line-up newid unwaith neu ddwy, ond dyma un o’r line-ups (gallwch weld eraill ar gloriau y recordiau):
Gwyn Roberts – Prif lais Aled Williams (“Ali Bongo”) – Drymiau Emyr Roberts (“Himyrs”) – Bâs a llais Dylan Huws (“Dygs”) – Gitâr a llais Geoffrey Jones (“Jiffar”) -Allweddellau Gwil John – Sax Wyn Williams – Trwmped
Ymddangosodd Y Ficar ar record hir “Gorau Sgrech Sgrechian Corwen” (label Ty Gwyn TG 001S) a recordiwyd ym Mahfiliwn Corwen ar y 23ain o Ionawr 1982. Yr achlysur oedd Noson Wobrwyo Sgrech, a’r Ficar oedd Grwp Addawol 1981. Fe glywch fersiwn o’r gân Siberia Serenade ar y record honno.
Bu iddynt hefyd ymddangos ar record EP aml-gyfrannog gan Fflach yn 1982, gyda Malcolm Neon, Y Diawled ac Eryr Wen, gyda’r gân “W Cyrnol”. (Fflach RF AS 004).
Eu recordiau eraill: Fflach RF AS 006 sengl, 1982 – “Cei Felinheli” Sain 97S sengl, 1982 – “Byw Mewn Cwt Yng Ngwaelod Yr Ardd” Sain 1271M (LP)/C871N (caset) albwm, 1983 – “Allan O Diwn”
Wrth gwrs, mae yna nifer fawr iawn o ganeuon a pherfformiadau Cymraeg i’w gweld ar YouTube. Gwelais drydariad diddorol gan Yws Gwynedd lle y bu’n ceisio gweithio allan pa gân Gymraeg sydd wedi cael ei gwylio fwyaf ar YouTube a sut ffigurau sydd yna i ganeuon Cymraeg ar y cyfrwng hwnnw a chreu rhyw siart sydyn o’r ffigyrau.
Roedd yr ateb yn dipyn o sioc I mi, mae’n rhaid dweud! Er enghraifft, mae’r gân “Dacw Nghariad” gan Eve Goodman wedi’w gwylio 1.3 MILIWN (ie, miliwn) o weithiau! Gallwch glywed y gân ar Spotify hefyd. Bron ddwywaith gymaint a Dafydd Iwan druan hefo “Yma O Hyd” a gafodd “ond” ei gwylio tua 710,000 o weithiau! Ac Yws Gwynedd ei hun ond yn gallu dod yn drydydd yn ei siart ei hun!
Dyma rhyw fath a siart luniodd Ywain o’r fideos mwyaf poblogaidd yr oedd o’n gwybod amdanynt, ac wedi iddo drydar y rhestr yma, ymatebodd sawl person hefo enghreifftiau eraill o fideos caneuon Cymraeg eraill hefo nifer gwyliadau uchel iawn.
Siart Yws Gwynedd o ffigyrau gwylio caneuon Cymraeg ar YouTube
Hefyd wrth gwrs fe gafodd hanner cant o senglau sain eu rhyddhau ar gyfer dathlu hanner can mlwyddiant y cwmni yn 2019 – rheini hefyd ar gael drwy’r platfformau digidol.
Ardderchog bod y cwmni yn fodlon gwneud y gwaith angenrheidiol ar gyfer cadw’r hen recordiau feinyl Cymraeg ar gael o hyd, fel bod cenhedlaethau nad ydynt yn gyfarwydd â recordiau feinyl yn gallu mwynhau’r holl ddeunydd Cymraeg hyn o’r 70au a’r 80au wrth i recordiau feinyl fynd yn fwy prin ac yn ddrytach i’w prynu yn ail law. Gobeithio y bydd mwy ar gael cyn hir.
Dyma gaset bach gwahanol ddaeth i fy nghasgliad yn ddiweddar – “Awn I Fefflem” (Bethlehem), sef stori gan Bfian Lloyd Jones.
Bfian Lloyd Jones
Cymeriad yr actor Dyfed Thomas oedd Bfian Lloyd Jones rhai blynyddoedd yn ôl, a fyddai’n ymddangos ar radio a theledu. Er efallai ddim yn wleidyddol gywir y dyddiau hyn, mae gan Bfian nam lleferydd gyda’i “r” sy’n elfen gryf o’i bersonoliaeth. Efallai eich bod yn gwybod am Dyfed Thomas fel y Doctor Hywel Ffiaidd, o’r grwp roc theatraidd a phync o’r 80au.
Yn hannu o Ogledd Ddwyrain Cymru, dwi’n ei gofio fel athro drama yn Ysgol Glan Clwyd am gyfnod byr.
Stori Nadoligaidd ydi “Awn I Fefflem” ar gyfer yr ifanc. Mae’n dechrau trwy awgrymu mai ffilm ddyliai’r stori fod. Ond wedi gwneud cais am arian i S4C cafodd yr ateb bod y dyn camera yn wael ar rhyw gwch, a’r dyn sain wedi colli’w basport. Felly, Norman a’i beiriant tâp amdani! Mae cerddoriaeth Also Sprach Zarathustra (2001:A Space Odyssey) yn cychwyn y stori a gosod naws a theimlad y stori.
Clawr y caset
Hanes y geni ydi hanfod y stori hon. Mair a Joseph, Bethlehem, Jiwdea, dinas Dafydd yn ymyl Aberdaron! Mae yna lot o gymhariaethau hefo Gogledd Cymru, a lot o hiwmor nodweddiadol Bfian a Dyfed. Ar un adeg mae bwyty Indiaidd yn rhan o’r stori – dim syniad sut mae stori’r geni yn cael bwyty Indiaidd! I roi enghraifft o’r hiwmor, mae’n trio egluro Aur Thys A Mur trwy ddechrau fel disgrifio aur fel y stwff melyn o gwmpas eich siocled. Lot o hiwmor diniwed fel yna ar gyfer yr ifanc. Mae’n esbonio’r stori trwy ei rhoi mewn rhyw fath o gyd-destyn modern.
Y caset
‘Does dim dyddiad na manylion cyhoeddi ar y caset, ond mae yna ambell i awgrym yng nghynnwys y stori, fel cyfeirio’n ôl at newyn Ethiopia yn 1984 ac esbonio bod Iesu wedi dod i’r ddaear bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl, a chyfeiriadau at S4C aeth ar yr awyr gyntaf yn 1982. Hefyd, mae’n siwr o fod yn y cyfnod hwn yn yr 80au lle’r oedd casetiau yn fwy cyffredin na recordiau feinyl.
Mae’r caset wedi’w arwyddo gan Dyfed Thomas, ac yn para tua 25 munud yr ochr. Atgofion cynnes o’r cymeriad Bfian Lloyd Jones er nad ydw i’n cofio’n union pryd oedd hynny.
Cwmni recordiau Cymraeg o Lerpwl a ryddhaodd ychydig o recordiau saith modfedd yn 1969. Y cyhoeddwr oedd D. Ben Rees.
Rhyddhawyd o leiaf tair record – mae’r drefn rhifo’n awgrymu bod o leiaf un arall.
DDRAIG 6002 Brethyn Cartref-Brethyn Cartref (1969) DDRAIG 6003 Treflyn Jones-Treflyn (1969) DDRAIG 6004 Linda, Jean a Graham-Linda Jean Graham (1969)
Recordiau’r Ddraig 6002 – Brethyn Cartref
Tair chwaer o bentref Nantlle, yng Ngwynedd, oedd Brethyn Cartref, sef Eryl, Marian a Heulwen. Cawsant gyfle i berfformio ar y teledu yn eu hamser – ar Y Dydd ac ar ‘Sgubor Lawen. Yn ôl Richard Morris Jones ar glawr y record, “Cariad yr enwogion yma (y Brodyr Ffransis, Llyfni Huws a Robert Williams Parry) tuag at eu cynefin sydd yng nghalonnau’r genethod, yr un iaith goeth rhywiog sydd ar eu gwefusau, a’r un dyhead artistig i ‘greu’ sydd yn eu canu.” Hon oedd eu unig record fel grwp.
Ceir pedair cân ar y record:
Babi Dol
Wrth Noswylio
Wil Y Fron
Hobed O Heilion
Recordiau’r Ddraig 6003 – Treflyn
O Borthmadog ddaeth Treflyn, sef Treflyn Lloyd Jones. Graddiwr gwlan oedd gwaith pob dydd Treflyn, a byddai’n berfformio’n aml ar lwyfan a theledu, gan gynnwys diddanu ymwelwyr yng ngwesty Butlins, Pwllheli, am gyfnod. Roedd Treflyn yn dipyn o iodlwr, fel y clywir ar “Cân Yswistir”. Byddai y Parch. Harri Parri, Porthmadog, yn sgwennu geiriau i’w ganeuon, a’i reolwr oedd Meic Jones. Hon oedd ail record Treflyn – bu iddo ryddhau recordiau ar Tryfan yn 1979 (TRF 109, gyda Sheila o Garno) a Wren (record unigol yn 1971 WRE1109, ac un arall gyda Siwsan Broderick yn 1967, WRE 1030).
Ceir pedair cân r y record hon hefyd:
Cân Yswistir
O F’Anwylyd
Dyffryn Madog
Cân I Sonia Fach
Recordiau’r Ddraig 6004 – Linda, Jean a Graham
Mae’r teitl llythrennau bras “Linda Jean Graham” yn swnio fel enw un person neu grwp, ond triawd oedd Linda, Jean a Graham, sef Linda Rees o Abersoch, Jean Rees Davies o Foduan ger Pwllheli, a Graham Martin o’r Wyddgrug. Athrawon oeddynt, a oedd yn perfformio’n rheolaidd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ac ar lannau Mersi. Dyma eu hunig record fel triawd.
Ceir pedair cân ar y record hon:
Sioni
Y Bachgen
Atgof
Awr Rhyddid
Oes yn unrhyw un gyda gwybodaeth os oedd yna record DDRAIG 6001 a gan bwy?