Tonfedd Oren

Mae’r byd yn ddisglair. Mae’r byd yn oren. Grwp gymharol anadnabyddus yw Tonfedd Oren (er iddynt gael rhyw faint o sylw ar Radio Cymru ac yn y wasg Gymreig), sef deuawd y gitarydd Rhys Williams a’r offerynwr electroneg John Brenton, ynghyd â chi Ffrengig dychmygol o’r enw Feydeau sy’n lefarydd ar ran y grwp mae’nParhau i ddarllen “Tonfedd Oren”

Gwreiddiau

Newydd dderbyn copi o lyfr hefo’r teitl “Gwreiddiau Canu Roc Cymraeg”. Cafodd ei gyhoeddi gan Gyhoeddiadau Mei ‘nôl yn 1981 am y pris mawr o £1, er i mi dalu ychydig mwy na hynny am gopi ail law! Fe seilwyd y llyfr ar gyfres o sgyrsiau a gynhyrchwyd gan Eurof Williams ar gyfer BBC RadioParhau i ddarllen “Gwreiddiau”

Funny Sounds From Wales

Dyna deitl y casgliad hwn o 20 o ganeuon dawns a synth gan Tanwen o Lambed (Llanbedr Pont Steffan) ar label R-Bennig eleni. Cymysgedd o ganeuon hefo teitlau Saesneg a Chymraeg. Dim ond £5 yw’r gost, a rhif y CD yw R-BEN 271. Yn ol nodiadau ar wefan y label, mae’n debyg yr oedd ganParhau i ddarllen “Funny Sounds From Wales”

Llun-Ddisgiau

Dwi wedi sôn eisoes am y llun-ddisg mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg, sef Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones. Erbyn hyn, mae dwy arall wedi’w cyhoeddi gan R-Bennig ar eu is-label SWSH. Y cyntaf ohonynt yw’r ail i’w rhyddhau ar y label SWSH, sef trac na chafodd ei ryddhau o’r blaen – Ysgafnach Na DwrParhau i ddarllen “Llun-Ddisgiau”

David R Edwards

1964-2021 Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd,Parhau i ddarllen “David R Edwards”

Chansons Galloises

Record Gymraeg o Canada sydd gen i dan sylw y tro hwn, gan y gantores glasurol Shannon Mercer sy’n hannu o Quebec ac Ottawa. Cryno-ddisg gyda’r teitl “Wales – The Land Of Song/Chansons gallois.” Mae hi o dras Cymreig – ymfudodd ei thad a mam i Ganada o dde Cymru yn 1967 gyda thri oParhau i ddarllen “Chansons Galloises”

Welsh Experimentalist #3

Nôl ym mis Ebrill mi soniais am y ddwy gyntaf yn y gyfres hon gan gwmni recordiau R-Bennig. Erbyn hyn, mae’r trydydd yn y gyfres ar gael, rhifyn mis Gorffennaf. Lyndsay Davies o Dregarth yw’r arbrofwr y tro hwn. Yn ôl y disgrifiad ar wefan y cwmni ar Bandcamp, mae’n cyfansoddi cerddoriaeth trwy ddefnyddio AppParhau i ddarllen “Welsh Experimentalist #3”

Evan Rowlands

Fel casglwr recordiau Cymraeg, mae’n beth diddorol iawn weithiau cael taro ar draws record nad oeddwn yn gwybod am ei bodolaeth. Yn enwedig pan fo hanes diddorol iawn yn gysylltiedig â’r record. Ac wrth gwrs hefo apêl arbennig i mi gan fod cysylltiad a’i ardal ar ochr teulu fy nhad. Recordiad o lais y pregethwrParhau i ddarllen “Evan Rowlands”

Arbrofi R-bennig

Dyma albwm newydd gan label R-bennig. Deuddeg o draciau o gerddoriaeth ‘arbrofol’ gan gyfansoddwr o Ynys Môn dan yr enw Lomax. Yr albwm cyntaf mewn cyfres dan y teitl ‘The Welsh Experimentalist’ yw hon, lle mae cyfansoddwyr cerddoriaeth arbrofol yn cael cyfle i arddangos eu talent, dan nawdd Johnny R a label R-Bennig. Cerddoriaeth synthParhau i ddarllen “Arbrofi R-bennig”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni