Recordiau Nadoligaidd

Dwi wrthi’n rhoi nifer o recordiau a chryno-ddisgiau nadoligaidd ar werth ar eBay. Carolau, caneuon ar gyfer y Nadolig, hen a newydd. Tros tri chant o recordiau, tapiau a chryno-ddisgiau Cymraeg ar gael erbyn y diwrnod dwi’n sgwennu hyn. Copïau sbâr ar ôl prynu ambell gasgliad cyfan er mwyn cael gafael ar ambell i recordParhau i ddarllen “Recordiau Nadoligaidd”

Recordiau Cymraeg Ar eBay

Erbyn hyn, dwi wedi rhestru nifer sylweddol o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau Cymraeg ar werth ar eBay – tua 130 o eitemau amser sgwennu hwn, a mwy i ddod. Dwi’n gweithredu dan yr enw “dilbert912010” – chwiliwch am yr enw hwnnw dan yr “Advanced Search” ar eBay. Mewn porwr ar gyfrifiadur, cliciwch ar “Advanced” i’rParhau i ddarllen “Recordiau Cymraeg Ar eBay”

Edward H Mewn Bocs

Fel rhywun dyfodd fyny gyda’r grwp Edward H. Dafis, mae’n dda cael gafael ar gopi o’r casgliad cyfan hwn o recordiau’r grwp ar set o chwe cryno-ddisg a gyhoeddwyd gan Sain ‘nôl yn 2005. Er bod eu holl recordiau gen i’n barod, mae’r rhan fwyaf o’r rheini wedi eu chwarae’n dwll dros y blynyddoedd aParhau i ddarllen “Edward H Mewn Bocs”

Semtexx

Is-label o gwmni Fflach, a sefydlwyd yn 1992 i ryddhau albymau pop a roc Cymraeg. Mewn ffordd, rhagflaenydd y label Rasp a sefydlwyd gan Fflach yn 2001. Erbyn 1992, roedd gwaith Fflach yn prysuro ac yn ehangu, a roeddynt wedi apwyntio rhai staff newydd i’r swyddfa yn Aberteifi. Yn ôl Richard a Wyn Jones ynParhau i ddarllen “Semtexx”

Caneuon Y Morwyr-Shantis

Wedi anturiaethau a phoblogrwydd y postmon 26 oed o ardal Glasgow, Nathan Evans, ar TikTok yn canu shanti, neu cân morwr, toc wedi’r Nadolig, aeth Cymro o’r enw Gethin Griffiths ati i wneud rhywbeth tebyg yn y Gymraeg. Llwyddodd yr Albanwr i boblogeiddio shantis, neu caneuon y morwyr ymhlith ei ddilynwyr byd-eang, felly gyda chymorthParhau i ddarllen “Caneuon Y Morwyr-Shantis”

Ffilis

Bum yn ffodus i daro ar draws y caset eithaf prin hwn ychydig wythnosau yn ôl fel rhan o gasgliad bach o recordiau a chasetiau a brynais adeg hynny. Dwi heb weld y caset arbennig hwn na’r artist, Ffilis Huws (a anwyd yn Phyllis Hughes), o’r blaen. Caset a gyhoeddwyd ar label D@Music o Lannon,Parhau i ddarllen “Ffilis”

Trons Y Ficar

Nid erthygl am ddillad isaf dynion, ond yn hytrach am label recordiau grwp Y Ficar o ardal Y Felinheli yng Ngwynedd. Fe ffurfiwyd y label yn unswydd i ryddhau tair o recordiau a chasetiau y grwp rhwng 1983 ac 1985. TRONS 001 – sengl, 1983 “5 Diwrnod”. Recordiwyd yn Stiwdio’r Bwthyn, Ystradgynlais. Cynhyrchydd Richard Morris.OchrParhau i ddarllen “Trons Y Ficar”

Awn I Fefflem

Dyma gaset bach gwahanol ddaeth i fy nghasgliad yn ddiweddar – “Awn I Fefflem” (Bethlehem), sef stori gan Bfian Lloyd Jones. Cymeriad yr actor Dyfed Thomas oedd Bfian Lloyd Jones rhai blynyddoedd yn ôl, a fyddai’n ymddangos ar radio a theledu. Er efallai ddim yn wleidyddol gywir y dyddiau hyn, mae gan Bfian nam lleferyddParhau i ddarllen “Awn I Fefflem”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni