Newydd brynu copi o’r CD “Gwena” gan yr RT Dixieband (diolch Awen Menai). Dwi ddim yn fan mawr o jazz fel rheol, ond gan fod hon yn cd gan fand jazz Cymreig (Rhys Taylor a’i fand – tarddiad yr ‘RT’ yn yr enw) a ‘mod i wedi sylwi ar deitlau alawon Cymreig fel Moliannwn aParhau i ddarllen “CD Jazz”
Archifau Categori: casglu
Eleanor Evans
Wedi bod yn pori drwy fy nghasgliad o hen recordiau 78cyf Cymraeg dros y flwyddyn newydd, fe ddeuais ar draws un ar label Americanaidd gan Eleanor Evans. Gan nad oeddwn i wedi clywed amdani o’r blaen, dyma benderfynu mynd i drio ffeindio allan mwy amdani. Ganwyd Eleanor Evans yn Henllan, Sir Ddinbych, yn 1893 ynParhau i ddarllen “Eleanor Evans”
Recordiau Nadoligaidd
Dwi wrthi’n rhoi nifer o recordiau a chryno-ddisgiau nadoligaidd ar werth ar eBay. Carolau, caneuon ar gyfer y Nadolig, hen a newydd. Tros tri chant o recordiau, tapiau a chryno-ddisgiau Cymraeg ar gael erbyn y diwrnod dwi’n sgwennu hyn. Copïau sbâr ar ôl prynu ambell gasgliad cyfan er mwyn cael gafael ar ambell i recordParhau i ddarllen “Recordiau Nadoligaidd”
Recordiau Cymraeg Ar eBay
Erbyn hyn, dwi wedi rhestru nifer sylweddol o recordiau, casetiau a chryno-ddisgiau Cymraeg ar werth ar eBay – tua 130 o eitemau amser sgwennu hwn, a mwy i ddod. Dwi’n gweithredu dan yr enw “dilbert912010” – chwiliwch am yr enw hwnnw dan yr “Advanced Search” ar eBay. Mewn porwr ar gyfrifiadur, cliciwch ar “Advanced” i’rParhau i ddarllen “Recordiau Cymraeg Ar eBay”
Welsh Dances Presented By Alexander Hamilton
Yr ychwanegiad diweddaraf i fy nghasgliad o recordiau Cymraeg yw’r record hir hon o America. Bu Alexander Hamilton yn dysgu dawnsfeydd Cymreig. Fe ryddhaodd record hir yn 1978 gyda’r teitl “Welsh Dances”, gydag 13 o ganeuon dawnsio gwerin Cymreig. Fe glywn lais Alexander Hamilton yn rhoi cyflwyniad byr i bob un o’r caneuon. Cynhyrchwyd yParhau i ddarllen “Welsh Dances Presented By Alexander Hamilton”
Taffy Owen
Ychydig o apêl am wybodaeth y tro hwn! Ceisio dod o hyd i fwy o wybodaeth am y record hon a’r artistiaid arni. Gwr o’r enw Taffy Owen yn canu, gyda chyfeiliant gan Linda Austin Brockbank. ‘Does dim gwybodaeth ar glawr y record ar wahan i’r llun ohonynt. Roedd darn o bapur wedi’i sgwennu tuParhau i ddarllen “Taffy Owen”
Edward H Mewn Bocs
Fel rhywun dyfodd fyny gyda’r grwp Edward H. Dafis, mae’n dda cael gafael ar gopi o’r casgliad cyfan hwn o recordiau’r grwp ar set o chwe cryno-ddisg a gyhoeddwyd gan Sain ‘nôl yn 2005. Er bod eu holl recordiau gen i’n barod, mae’r rhan fwyaf o’r rheini wedi eu chwarae’n dwll dros y blynyddoedd aParhau i ddarllen “Edward H Mewn Bocs”
Bob Tai’r Felin
Yn ddiweddar cefais gopi o CD o ganeuon Bob Roberts Tai’r Felin, y canwr gwerin o Gwmtirmynach ger y Bala. Felly, penderfynais fynd ati i hel ychydig o wybodaeth amdano. Fe’i anwyd ar y cyntaf o Fedi 1870 (dros 150 o flynyddoedd yn ol wrth i mi sgwennu hwn), yn fab i Cadwaladr a BetsiParhau i ddarllen “Bob Tai’r Felin”
1902
Dwi’n meddwl bod y record hon yn un o’r recordiau Cymraeg hynaf yn fy nghasgliad – Henwlad Y Menyg Gwynion, gan Mr. Henry Drew, o 1902! Tua 120 oed felly, a’r ansawdd yn dda iawn o ystyried oed y record. Yn eithaf lwcus, mi mae gen i chwaraeydd recordiau sy’n gallu chwarae’r hen recordiau 78cyfParhau i ddarllen “1902”
Semtexx
Is-label o gwmni Fflach, a sefydlwyd yn 1992 i ryddhau albymau pop a roc Cymraeg. Mewn ffordd, rhagflaenydd y label Rasp a sefydlwyd gan Fflach yn 2001. Erbyn 1992, roedd gwaith Fflach yn prysuro ac yn ehangu, a roeddynt wedi apwyntio rhai staff newydd i’r swyddfa yn Aberteifi. Yn ôl Richard a Wyn Jones ynParhau i ddarllen “Semtexx”
