Jack Duckworth ar Sain

Wel, y diweddar actor Bill Tarmey, fu farw yn 2012, yn canu deuawd hefo’r actores Ruth Madoc. Mae Bill Tarmey, sy’n enwog am actio rhan Jack Duckworth yn yr opera sebon Coronation Street am flynyddoedd lawer, wedi rhyddhau sawl record dros y blynyddoedd. Ond hyd y gwn i dyma’r unig un ar label Gymraeg. YnParhau i ddarllen “Jack Duckworth ar Sain”

Lynda Jenkins-Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl

Cantores o Rydamman, a ryddhaodd sengl Gymraeg yn 1970 ar label Major Minor. Dwy gân ar y record Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl (Geiriau gan Dyfed Lewis a threfniant cerddorol E. D. Williams) Pwya Ddaw’n Ddi-Stwr (gan Leo Maguire, geiriau Cymraeg gan Davydd Owen) Sylwer ar y sillafu – dwi wedi copïo air-am-air oddi ar yParhau i ddarllen “Lynda Jenkins-Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl”

Recordiau 78cyf

Gwnaed y recordiau 78cyf (cylchdro y funud, neu rpm yn y Saesneg) cynnar o ddiwedd yr 1880au o gymysgedd deunydd shellac, er y defnyddiwyd bob math o ddefnyddiau eraill fel rwber caled yn ystod y cyfnod arbrofol yma ar y dechrau. Math o resin neu ddefnydd gludog gan y drogen lac ar goed yn AsiaParhau i ddarllen “Recordiau 78cyf”

Siopau Elusen

Mae yna siopau elusen ar bron bob stryd fawr y dyddiau yma. Ga’i ddweud cyfrinach fach wrthoch? Maent yn lefydd ardderchog i ffeindio recordiau a chryno-ddisgiau ail law Cymraeg! Dwi wedi treulio ambell i fore neu brynhawn bach difyr yn chwilota drwy silffoedd a bocsus o recordiau mewn siopau elusen ac ail law yn trioParhau i ddarllen “Siopau Elusen”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni