Colli Iris Williams

Bu farw’r gantores Iris Williams OBE yn 79 oed. Fe’i ganwyd yn Rhydfelin yn 1946 a’i magu mewn cartref plant yn Nhonyrefail. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd A Drama yng Nghaerdydd. Fe ryddhaodd ei record Gymraeg gyntaf ar label Cambrian yn 1968 (CEP 413), efallai’r artist croenddu cyntaf i recordio yn y Gymraeg. RoeddParhau i ddarllen “Colli Iris Williams”

Mr Edward Davies

Apêl am ychydig o wybodaeth y tro hwn os yn bosibl! Wedi derbyn hen record 78cyf hefo dwy gân gan Mr Edward Davies, a dim syniad pwy ydi o! Mae’n debyg fod y record wedi ei chyhoeddi gan Brtish Zonophone yn neu tua 1913, sy’n golygu bod y record tua canrif oed eleni a mewnParhau i ddarllen “Mr Edward Davies”

Edward H Mewn Bocs

Fel rhywun dyfodd fyny gyda’r grwp Edward H. Dafis, mae’n dda cael gafael ar gopi o’r casgliad cyfan hwn o recordiau’r grwp ar set o chwe cryno-ddisg a gyhoeddwyd gan Sain ‘nôl yn 2005. Er bod eu holl recordiau gen i’n barod, mae’r rhan fwyaf o’r rheini wedi eu chwarae’n dwll dros y blynyddoedd aParhau i ddarllen “Edward H Mewn Bocs”

Bob Tai’r Felin

Yn ddiweddar cefais gopi o CD o ganeuon Bob Roberts Tai’r Felin, y canwr gwerin o Gwmtirmynach ger y Bala. Felly, penderfynais fynd ati i hel ychydig o wybodaeth amdano. Fe’i anwyd ar y cyntaf o Fedi 1870 (dros 150 o flynyddoedd yn ol wrth i mi sgwennu hwn), yn fab i Cadwaladr a BetsiParhau i ddarllen “Bob Tai’r Felin”

Semtexx

Is-label o gwmni Fflach, a sefydlwyd yn 1992 i ryddhau albymau pop a roc Cymraeg. Mewn ffordd, rhagflaenydd y label Rasp a sefydlwyd gan Fflach yn 2001. Erbyn 1992, roedd gwaith Fflach yn prysuro ac yn ehangu, a roeddynt wedi apwyntio rhai staff newydd i’r swyddfa yn Aberteifi. Yn ôl Richard a Wyn Jones ynParhau i ddarllen “Semtexx”

Tonfedd Oren

Mae’r byd yn ddisglair. Mae’r byd yn oren. Grwp gymharol anadnabyddus yw Tonfedd Oren (er iddynt gael rhyw faint o sylw ar Radio Cymru ac yn y wasg Gymreig), sef deuawd y gitarydd Rhys Williams a’r offerynwr electroneg John Brenton, ynghyd â chi Ffrengig dychmygol o’r enw Feydeau sy’n lefarydd ar ran y grwp mae’nParhau i ddarllen “Tonfedd Oren”

Ciwdod

Cangen Gymraeg o Community Music Wales/Cerdd Gymunedol Cymru yw Ciwdod. Fe’i sefydlwyd yn 2004 er mwyn cefnogi, hyfforddi a recordio artistiaid Cymraeg eu hiaith. Cyn hynny, ‘nol yn 1989, daeth criw o gerddorion o Gaerdydd i gyfarfod cyhoeddus, a sefydlwyd Cardiff Community Music. Cafodd ei gofrestru fel elusen yn 1991, a newid ei enw iParhau i ddarllen “Ciwdod”

David R Edwards

1964-2021 Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd,Parhau i ddarllen “David R Edwards”

Tramor

Er fod y blog hwn yn cael ei ysgrifennu yn uniaith Gymraeg, diddorol ydi cael negeseuon gan gasglwyr recordiau dramor o bryd i’w gilydd. Gan fod peth cyfieithu ar y blog hwn, mae’n galluogi pobol sydd ddim yn siarad Cymraeg i’w ddarllen. Dros y penwythnos, cefais sgwrs ebost hefo casglwr recordiau yn Tel Aviv, Israel,Parhau i ddarllen “Tramor”

Cynlluniwch wefan fel hon gyda WordPress.com
Cychwyn arni