Bu farw’r gantores Iris Williams OBE yn 79 oed. Fe’i ganwyd yn Rhydfelin yn 1946 a’i magu mewn cartref plant yn Nhonyrefail. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Brenhinol Cerdd A Drama yng Nghaerdydd. Fe ryddhaodd ei record Gymraeg gyntaf ar label Cambrian yn 1968 (CEP 413), efallai’r artist croenddu cyntaf i recordio yn y Gymraeg. RoeddParhau i ddarllen “Colli Iris Williams”
Archifau Categori: newyddion
Colli Dewi Morris
Trist iawn clywed am golli Dewi ‘Pws’ Morris, fu’n gymaint rhan o’r sîn gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd. Bu farw’n 76 oed. O’i gyfnod fel rhan o’r Tebot Piws a’r grwp roc Edward H Dafis yn y dyddiau cynnar, i’w gyfraniadau gwerin mwy diweddar, heb son am ei lenyddiaeth, barddoniaeth a gwaith actio, bydd colledParhau i ddarllen “Colli Dewi Morris”
Sgyrsiau Storiel
Diolch i Rhys Lloyd Jones, Swyddog Ymgysylltu a Dysgu Storiel, am adael i mi wybod am gyfres o sgyrsiau sydd ar y gweill yn Storiel, Bangor, am y sin roc Gymraeg yn y 70au. Bydd cyfres o sgyrsiau ar y 25ain o Fai, 1af o Fehefin a’r 8ed o Fehefin gan Dyma ddolenni am fwyParhau i ddarllen “Sgyrsiau Storiel”
Charli Britton
1952 – 2021 Fe gollwyd un arall o sêr y byd pop Cymraeg, Charli Britton, fu’n enwog fel drymiwr a dylunydd graffeg. Bu farw’n 68 oed. Fel drymiwr gydag Edward H Dafis yr adnabyddwyd ef orau, ond fe fu’n perfformio gyda nifer o artistiaid a grwpiau eraill, fel Ac Eraill, Dafydd Iwan ac Injaroc. YmddangosoddParhau i ddarllen “Charli Britton”
Funny Sounds From Wales
Dyna deitl y casgliad hwn o 20 o ganeuon dawns a synth gan Tanwen o Lambed (Llanbedr Pont Steffan) ar label R-Bennig eleni. Cymysgedd o ganeuon hefo teitlau Saesneg a Chymraeg. Dim ond £5 yw’r gost, a rhif y CD yw R-BEN 271. Yn ol nodiadau ar wefan y label, mae’n debyg yr oedd ganParhau i ddarllen “Funny Sounds From Wales”
Richard Jones
1956-2021 Ychydig dros fis ar ôl colli ei frawd Wyn, bu farw y canwr Richard Jones. Bu iddynt gychwyn y grwp Ail Symudiad yn 1978 yn Aberteifi ac i bob pwrpas dod a’r byd canu pop Cymraeg i Aberteifi. Sefydlodd y ddau y cwmni recordiau Fflach yn 1981, sydd wedi parhau hyd heddiw. Cwmni acParhau i ddarllen “Richard Jones”
Llun-Ddisgiau
Dwi wedi sôn eisoes am y llun-ddisg mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg, sef Dagrau’n Dechrau Disgyn gan Ray Jones. Erbyn hyn, mae dwy arall wedi’w cyhoeddi gan R-Bennig ar eu is-label SWSH. Y cyntaf ohonynt yw’r ail i’w rhyddhau ar y label SWSH, sef trac na chafodd ei ryddhau o’r blaen – Ysgafnach Na DwrParhau i ddarllen “Llun-Ddisgiau”
Wyn Lewis Jones
1959-2021 Trist iawn oedd clywed eto heddiw am golli un arall o enwogion y byd pop Cymreig, Wyn Jones. Roedd yn adnabyddus ers yr 80au fel gitarydd bas y grwp Ail Symudiad a sefydlwyd yn 1978, gyda’i frawd Richard. Roedd hefyd yn weithgar gyda’r label recordio Fflach, fel cynhyrchydd, trefnydd a pheiriannydd ers 1981. YnParhau i ddarllen “Wyn Lewis Jones”
David R Edwards
1964-2021 Trist iawn clywed am golli David R Edwards, sef “Dave Datblygu”, wedi afiechyd. Roedd yn 56 oed, ac yn ôl datganiad y gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo Pyst ar Facebook, bu farw yn ei gartref yng Nghaerfyrddin dros y penwythnos wedi “dioddef yn ddiweddar gyda phroblemau iechyd, gan gynnwys epilepsi a chlefyd y siwgr.” Hefyd,Parhau i ddarllen “David R Edwards”
Welsh Experimentalist #3
Nôl ym mis Ebrill mi soniais am y ddwy gyntaf yn y gyfres hon gan gwmni recordiau R-Bennig. Erbyn hyn, mae’r trydydd yn y gyfres ar gael, rhifyn mis Gorffennaf. Lyndsay Davies o Dregarth yw’r arbrofwr y tro hwn. Yn ôl y disgrifiad ar wefan y cwmni ar Bandcamp, mae’n cyfansoddi cerddoriaeth trwy ddefnyddio AppParhau i ddarllen “Welsh Experimentalist #3”
