Cantores o Rydamman, a ryddhaodd sengl Gymraeg yn 1970 ar label Major Minor. Dwy gân ar y record Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl (Geiriau gan Dyfed Lewis a threfniant cerddorol E. D. Williams) Pwya Ddaw’n Ddi-Stwr (gan Leo Maguire, geiriau Cymraeg gan Davydd Owen) Sylwer ar y sillafu – dwi wedi copïo air-am-air oddi ar yParhau i ddarllen “Lynda Jenkins-Unwaith Etto’n Nghymru Anwyl”
Archifau Categori: Uncategorized
Recordiau 78cyf
Gwnaed y recordiau 78cyf (cylchdro y funud, neu rpm yn y Saesneg) cynnar o ddiwedd yr 1880au o gymysgedd deunydd shellac, er y defnyddiwyd bob math o ddefnyddiau eraill fel rwber caled yn ystod y cyfnod arbrofol yma ar y dechrau. Math o resin neu ddefnydd gludog gan y drogen lac ar goed yn AsiaParhau i ddarllen “Recordiau 78cyf”
Y Blew – Maes B
Y greal sanctaidd i lawer o gasglwyr recordiau Cymraeg yw cael gafael ar gopi o sengl grwp Y Blew – “Maes B” a “Beth Sy’n Dod Rhyngom Ni”. Mae copi mewn cyflwr da yn gallu gwerthu am rhwng cant a dau gant o bunnoedd. Weithiau mwy. Mae’n debyg mai dim ond tua 2,000 o gopïauParhau i ddarllen “Y Blew – Maes B”
#40 Mawr Radio Cymru 2019
Wedi hoe fach y llynedd, fe glywsom y rhaglen #40Mawr Radio Cymru eto eleni. Ar ddydd Llun gwyl y banc, fe glywsom Lisa Gwilym a Ffion Emyr yn cyflwyno rhaglen tair awr a hanner ar Radio Cymru 2 a Radio Cymru, gan chwarae y deugain cân gafodd fwyaf o bleidleisiau gan wrandawyr y ddwy sianel.Parhau i ddarllen “#40 Mawr Radio Cymru 2019”
Art Of Now – Cymru Rising
Rhaglen hanner awr am y byd cerddoriaeth Gymraeg a gyflwynwyd yn Saesneg gan y DJ Huw Stephens ar Radio 4 am 11.30 y bore ‘ma. Bu Huw yn trafod datblygiad ac aeddfedrwydd y byd canu Cymraeg yn ddiweddar hefo pobl fel Rhys Mwyn (yr Anhrefn), Gwenno (sydd hefyd yn canu yn y Gernyweg) a GruffParhau i ddarllen “Art Of Now – Cymru Rising”
Be Bop a Lula’r Delyn Aur
Dwi wrthi’n darllen llyfr Hefin Wyn, “Be Bop a Lula’r Delyn Aur” ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd y llyfr gan Y Lolfa yn 2002. Mae’n trafod y byd canu poblogaidd Cymraeg o’r 40au i’r 80au. Gyda thros 400 o dudalennau, 112 o luniau du a gwyn a 46 o rai lliw, mae’n glamp o lyfrParhau i ddarllen “Be Bop a Lula’r Delyn Aur”
Discogs
Dyma wefan sy’n nefoedd i gasglwyr recordiau. Yn llawn gwybodaeth, a recordiau o bob math ar werth. Gan gynnwys nifer o recordiau Cymraeg. Yn hytrach na gwerthu’r recordiau eu hunain, mae Discogs yn gweithredu fel lle masnach, lle gall unigolion a chwmniau brynu a gwerthu recordiau. Mae hefyd yn storfa helaeth o wybodaeth am recordiauParhau i ddarllen “Discogs”
I Gychwyn…
Dyma ddechrau ar Y Blog Recordiau Cymraeg ym mis Awst 2019. Dwi wedi bod yn casglu recordiau Cymraeg ers blynyddoedd ac am rannu sylwadau a gwybodaeth yn y gobaith y bydd o werth i rywun. Galwch heibio bob hyn a hyn rhag ofn bod rhywbeth newydd diddorol i’w ddarllen, neu gallwch danysgrifio o’r dudalen flaenParhau i ddarllen “I Gychwyn…”
Y Fi!
Fel casglwr recordiau Cymraeg, dwi wedi dechrau sgwennu am y casgliad yn y gobaith y bydd o help i rhywun! Mae yna dudalen gyfan amdanaf ar y wefan, felly dim mwy yma na gobeithio y bydd y wefan a’r blog o ddiddordeb i rhywun. Dwi’n dal i drio dysgu sut i ddefnyddio WordPress i greu’rParhau i ddarllen “Y Fi!”
